Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Cynhwysiant ariannol yng Nghymru: beth sydd gan y Llywodraeth ar y gweill?
Cyhoeddwyd 27/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Heddiw yn y Cynulliad (27 Ionawr 2015), fe fydd y Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi yn gwneud datganiad am ‘adnewyddu’r agenda cynhwysiant ariannol’. Bydd y rheini sy’n ymwneud â’r maes yn gwrando’n astud ar yr hyn sydd gan Lesley Griffiths AC i’w ddweud.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gwlad sy’n gynhwysol yn ariannol yn wlad lle mae pawb yn gallu manteisio ar amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau ariannol, a hynny’n galluogi pobl i reoli eu harian yn effeithiol waeth beth yw eu hincwm, eu statws cymdeithasol neu eu gallu. Er mwyn i gynhwysiant ariannol fod yn realiti, mae angen cefnogaeth ar bobl i feithrin sgiliau ariannol sylfaenol, a dylent wybod ychydig am wahanol gynhyrchion ariannol a’u deall.
[caption id="attachment_2191" align="alignright" width="300"]
Llun: o Pixabay, Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Mae cynhwysiant ariannol wedi bod yn bwnc amlwg ar agenda’r Cynulliad dros y misoedd diwethaf. Yn benodol, yn yr hydref, bu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn craffu ar Fil gan Bethan Jenkins AC ar hyn. Bil oedd hwn yn ceisio cryfhau sut mae addysg ariannol yn cael ei ddarparu fel rhan o’r cwricwlwm mewn ysgolion, a gwella sut mae awdurdodau lleol yn bwrw ati gyda gwaith yn y maes.
Er nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi deddfwriaeth newydd, fe ymatebodd i’r cynigion yn y Bil gyda sawl ymrwymiad. Yn eu plith roedd y bwriad i adnewyddu Strategaeth Cynhwysiant Ariannol bresennol y Llywodraeth a datblygu’r cynllun gweithredu sy’n cyd-fynd â’r strategaeth honno.
Bydd llawer yn teimlo’i bod yn hen bryd i hyn ddigwydd. Cyhoeddwyd Strategaeth Cynhwysiant Ariannol gyntaf erioed y Llywodraeth ym mis Mehefin 2009, ac er cytuno ar flaenoriaethau newydd ar gyfer y cyfnod rhwng 2011 a 2013, nid oes dim byd diweddarach wedi’i gyhoeddi. Nid yw’r Llywodraeth chwaith wedi cynnal unrhyw adolygiadau o sylwedd na chyhoeddi adroddiadau blynyddol ar y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol y tu hwnt i’r un cyntaf a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010.
Nod wreiddiol y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol oedd annog sefydliadau i weithio ar y cyd yn y maes hwn. Roedd y strategaeth yn amlinellu camau y gallai’r Llywodraeth a gwahanol bartneriaid eu cymryd er mwyn:
Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

- Gwella sut oedd pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau ariannol prif-ffrwd;
- Darparu gwasanaethau credyd fforddiadwy;
- Gwella’r cyngor oedd ar gael am arian a dyledion;
- Gwella sgiliau a llythrennedd ariannol pobl;
- Helpu pobl i fanteisio i’r eithaf ar eu hincwm.