Mae safleoedd awdurdodau lleol sy’n orlawn, yn anaddas ac sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n wael wedi dod yn gyffredin i’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn ôl Pwyllgor Senedd. Er ei bod yn ymddangos bod cyllid i gefnogi’r gwaith o adnewyddu a datblygu safleoedd awdurdodau lleol newydd bellach yn dechrau llifo, mae blynyddoedd o ddiffyg newid wedi gadael effaith barhaol ar iechyd a llesiant llawer sy’n byw ar y safleoedd hyn.
Yn 2022, canfu Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd fod Llywodraeth Cymru yn methu â dal awdurdodau lleol i gyfrif am ddiffyg gweithredu wrth ddarparu safleoedd addas i Sipsiwn a Theithwyr fyw arnynt. Dair blynedd yn ddiweddarach, ac mae llawer yn y gymuned teithwyr yn teimlo nad oes llawer wedi newid. Bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mercher 7 Mai.
Ymgysylltu... pa ymgysylltu?
Amlygodd ymchwiliad dilynol y Pwyllgor ar ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr mai dim ond hyn a hyn o gynnydd a wnaed i ddatblygu, adnewyddu a chynnal a chadw’r safleoedd. Mynegwyd hefyd siom fawr am y diffyg gwelliant o ran ymgysylltu gan awdurdodau lleol â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.
Yn ystod ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor, nododd BASW (Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain) fod cynghorau yn gwrando ar un o’r cymunedau mwyaf difreintiedig sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol fwyaf yng Nghymru, ond heb eu clywed. Roedd Teithio Ymlaen yn teimlo bod yr ymgysylltu â’r gymuned yn aml yn llawer rhy hwyr i fod yn ystyrlon, ac yn rhy anaml i feithrin ymddiriedaeth. Roedd yn amlwg i’r Pwyllgor nad oedd fawr ddim wedi newid ers hynny. Roedd cynnal a chadw safleoedd teithwyr awdurdodau lleol yn enghraifft wych o’r ymgysylltu gwael rhwng cynghorau a chymunedau Sipsiwn a Theithwyr.
Clywodd y Pwyllgor ei bod yn ymddangos na roddir blaenoriaeth i ddatrys y problemau mwyaf sylfaenol o ran gwaith cynnal a chadw sy’n effeithio ar lesiant meddyliol y rhai sy’n byw ar y safleoedd hyn. Mewn tystiolaeth uniongyrchol gan aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, disgrifiwyd amodau byw aruthrol o wael, gan gynnwys pla llygod mawr a llygredd. Mae yna ymdeimlad cryf nad yw’r gymuned yn flaenoriaeth ar gyfer dosbarthu adnoddau’r cyngor yn ôl rhai cyfranwyr, yn wahanol i ystadau’r cyngor sydd ag “amserlen a rhaglen cynnal a chadw” ar gyfer gwaith atgyweirio.
Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i argymhellion y Pwyllgor ym mis Ebrill, gan nodi bod Llywodraeth Cymru wedi “sefydlu rhaglen i fonitro” sy’n cynnwys gwybodaeth am “gyflwr gwael safleoedd”.
Bywyd nomadaidd heb ddarpariaeth dramwy
Mae cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn ei chael yn anoddach byw eu bywyd nomadaidd o’i gymharu â chenedlaethau’r gorffennol. Er bod llawer yn ymgartrefu ar safleoedd penodol, boed hynny’n eiddo i awdurdodau lleol neu safleoedd preifat, mae’n fwyfwy anodd i Sipsiwn a Theithwyr ddod o hyd i leoedd i stopio pan fyddant yn teithio ledled y wlad.
Mae lleiniau tramwy yn darparu ardaloedd dynodedig lle gall teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr stopio’n gyfreithlon am gyfnod cyfyngedig, a byddant fel arfer wedi’u cysylltu â chyfleustodau penodol. Mae data Llywodraeth Cymru yn dangos dim ond dwy lain dramwy barhaol yng Nghymru gyfan, sydd heb newid ers blynyddoedd.
Wrth ymateb i argymhelliad y Pwyllgor ar gynyddu’r ddarpariaeth dramwy, mae Llywodraeth Cymru yn honni bod pedair llain dramwy yng Nghymru - Gwynedd, Sir Benfro a Thorfaen. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw dwy wedi’u cynnwys yn y data gan “nad ydynt ar gael mewn ffordd agored ac sy’n hysbys i holl aelodau’r gymuned sydd â phatrwm teithio nomadaidd”. Boed yn ddwy ynteu’n bedair, nid yw’r ffigurau’n cyfateb i uchelgais Llywodraeth Cymru yn ei Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a gyhoeddwyd yn 2022. Roedd hwn yn nodi y byddai’n sefydlu “o leiaf 5 llain” yng ngogledd a de Cymru erbyn 2025.
Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw nodi a diwallu anghenion y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn y pen draw, ac yn y cylch ddiweddar o Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond rhywfaint o angen am ddarpariaeth dramwy yng Nghymru a nodwyd.
Serch hynny, clywodd y Pwyllgor am gynnydd mewn rhannau o Gymru wrth ddatblygu mannau aros a negodwyd, fel yn Ynys Môn.. Mae’r rhain yn safleoedd gyda chytundeb tirfeddianwyr ac awdurdodau cyhoeddus ar gyfer mannau stopio byrdymor wrth i Sipsiwn a Theithwyr dramwyo drwy ardal. Mae’r rhain yn wahanol i ddarpariaeth dramwy barhaol, ond yn darparu model amgen o lety.
Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet fod contract wedi’i ddyfarnu i Gypsies and Travellers Wales, elusen sy’n ceisio sicrhau llety addas a diogel i bob Sipsiwn a Theithiwr yng Nghymru. Mae hyn i ddatblygu sylfaen dystiolaeth genedlaethol ac argymhellion ar gyfer y lleoliad a’r modelau tramwy a/neu’r mannau aros a negodwyd ledled Cymru. Amod cryf o’r contract yw bod rhaid i’r elusen:
ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned sy’n teithio’n nomadaidd, gan gynnwys Teithwyr Gwyddelig sy’n teithio’n rheolaidd drwy Ogledd Cymru ac yn teithio ledled ardaloedd awdurdodau lleol.
I’r gymuned deithiol, unwaith ar ddarpariaeth dramwy o’r fath, y pethau bach sy’n gwneud y gwahaniaeth, fel gwasanaethau gwastraff a glanweithdra priodol, rhywbeth y dywedodd y pwyllgor ei fod yn angenrheidiol wrth symud ymlaen.
Byw ar eu tir eu hunain
Er bod y ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd addas ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn statudol, yr hyn y mae llawer yn y gymuned ei eisiau yw byw ar eu tir eu hunain. Er bod rhai yn ddigon ffodus i fod wedi prynu tir, yn rhy aml, mae’r tir naill ai’n anaddas i fyw arno, neu maent wedi cael eu rhwystro ar bob cam.
Anogodd y Pwyllgor Ysgrifennydd y Cabinet i fwrw ymlaen â rhaglen beilot i ddarparu cyngor cynllunio arbenigol i’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Roedd hyn yn ymrwymiad yn Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.
Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet fod cyllid ychwanegol wedi’i ddyfarnu i Teithio Ymlaen, elusen cyngor ac eiriolaeth sy’n gweithio ochr yn ochr â theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr, i ddarparu’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn ychwanegol at y contract Eiriolaeth a Chyngor ehangach y mae’n ei ddarparu ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl darparu cyngor cynllunio wedi’i dargedu i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n bwriadu datblygu safleoedd preifat. Dechreuodd y gwasanaeth hwn ym mis Ebrill, a bydd yn rhedeg am gyfnod o 18 mis.
Dywedodd un aelod o’r gymuned yng ngogledd Cymru wrth y Pwyllgor yn ystod sesiwn grŵp ffocws nad oes ganddynt unrhyw ddewis ar hyn o bryd ond byw ar safleoedd awdurdodau lleol, ac y dylent gael cymorth i ddod o hyd i safleoedd preifat priodol. Ni fydd modd cael gwybod am beth amser a fydd y gwasanaeth peilot newydd yn cael yr effaith angenrheidiol ar gymuned sy’n wynebu rhwystrau uwch na’r mwyafrif.
Beth nesaf i’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr?
Amlygodd ein herthygl ar ganlyniadau ymchwiliad 2022 fod taer angen “gweithio gyda’r cymunedau” i ddeall yr hyn “sy’n iawn ac yn briodol ar eu cyfer”. Yn seiliedig ar ymchwiliad diweddar y Pwyllgor, mae llawer i’w wneud o hyd. Mae ailsefydlu’r Grŵp Rhanddeiliaid Sipsiwn, Roma a Theithwyr gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar yn gam sylweddol ymlaen, a chynhaliwyd ei sesiwn gyntaf ym mis Chwefror. Mae’r Grŵp yn dwyn Sipsiwn, Roma a Theithwyr ynghyd â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau’r sector gwirfoddol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgynghori ar ganllawiau drafft diwygiedig ar reoli a dylunio safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, yn ogystal â chanllawiau ar gyfer cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr.
Yn y pen draw, bydd cynnydd yn cael ei fesur nid trwy ddata ar leiniau carafanau, na chyfrif faint o arian sydd wedi’i wario, ond trwy edrych ar p’un a yw bywydau Sipsiwn a Theithwyr wedi gwella. Mae’r dystiolaeth gan y gymuned ei hun yn awgrymu nad oes llawer iawn wedi newid yn y tair blynedd diwethaf, ac mae’n ymddangos mai ychydig sy’n obeithiol y bydd pethau’n newid er gwell yn fuan.
Gallwch wylio’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor yn fyw ar Senedd TV ar ddydd Mercher 7 Mai, neu weld y trawsgrifiad tua 24 awr yn ddiweddarach.
Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru