Cymuned a anghofiwyd – cynnydd cyfyngedig wrth ddarparu safleoedd diwylliannol priodol ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru

Cyhoeddwyd 22/11/2022   |   Amser darllen munudau

Heb weithredu brys, bydd y gymuned Sipsiwn, Roma a theithwyr yn “parhau i gael eu trin fel dinasyddion eilradd yng Nghymru” yn ôl adroddiad Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd. Roedd hyn yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor ar ddarparu safleoedd ar gyfer y gymuned Sipsiwn, Roma a theithwyr.

Canfu’r Pwyllgor fod y sefyllfa sy’n wynebu cymunedau teithwyr yng Nghymru yn “bryderus”, ac amlygodd ddiffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod digon o safleoedd diwylliannol priodol yn cael eu darparu yng Nghymru.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ddydd Mercher 23 Tachwedd. Dylid ystyried yr erthygl hon ochr yn ochr â'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio mynd i’r afael ag agweddau sy’n ymwneud â “diffyg darpariaeth safle ac ansawdd gwael llety Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru”.   

A yw awdurdodau lleol yn cwrdd â’u dyletswyddau statudol?

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith ers 2014 i awdurdodau lleol yng Nghymru asesu anghenion llety’r gymuned Sipsiwn, Roma a theithwyr, a diwallu’r angen hwnnw a nodwyd. Roedd Sipsiwn a Theithwyr Cymru yn nodi fod Cymru, drwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014, i’w gweld yn “ceisio sefydlu deddfwriaeth a pholisïau sy’n gadarnhaol” ar gyfer y gymuned deithiol. Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd bwerau i gyfarwyddo awdurdod lleol i ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn ei asesiad, os yw’n amlwg ei fod wedi methu â gwneud hynny.

Mae rhanddeiliaid, yn gyffredinol, yn gweld y fframwaith deddfwriaethol a’r fframwaith polisi sy’n cefnogi datblygu safleoedd ar gyfer y gymuned Sipsiwn, Roma a theithwyr yng Nghymru fel rhai cadarn ac egwyddorol. Clywodd y Pwyllgor, fodd bynnag, fod rhwystredigaeth ynghylch gweithredu hyn a’i ddarparu yn lleol. Dywedodd Travelling Ahead, rhanddeiliad allweddol sy’n cefnogi teuluoedd Sipsiwn, Roma a theithwyr wrth y Pwyllgor fod teuluoedd yn amau a yw’r ddyletswydd i ddiwallu anghenion llety teithwyr o unrhyw werth o gwbl, gan mai ychydig iawn o ganlyniadau sydd ar lawr gwlad.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth nad oes un awdurdod lleol wedi gwneud yr hyn y mae’r fframweithiau’n ceisio’i gyflawni. Mae’r corff Sipsiwn a Theithwyr Cymru yn cytuno gan ddweud mai methiant mwyaf y ddeddfwriaeth yw “nad yw awdurdodau lleol yn cael eu dwyn i gyfrif pan na fyddant yn diwallu’r anghenion ac yn bodloni’r dyletswyddau fel y’u nodir”. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i wella atebolrwydd a monitro.

Roedd y Pwyllgor o’r farn fod angen trefniadau monitro mwy effeithiol a chadarn er mwyn gwneud cynnydd digonol. Mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn “tynhau’r modd y mae’n monitro ac yn dwyn awdurdodau lleol i gyfrif os nad ydynt yn cyflawni eu dyletswyddau statudol”. 

Dod o hyd i le i'w alw'n gartref

Tynnodd awdurdodau lleol sylw at yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i safleoedd addas sy’n diwallu anghenion y gymuned Sipsiwn, Roma a theithwyr, gan gynnwys materion yn ymwneud â chaffael tir a chynllunio.

Mae diffyg tir addas a chynnydd cyfyngedig o ran datblygu safleoedd newydd yn cynyddu'r pwysau ar y ddarpariaeth bresennol. Dywed adroddiad y Pwyllgor fod safleoedd yn aml yn orlawn ac mae “dirfawr angen eu hatgyweirio”. Mae llawer o safleoedd heb gyfleusterau priodol ar gyfer yr ifanc, maent yn aml wedi’u lleoli mewn mannau amhriodol, ymhell o wasanaethau lleol ac mewn ardaloedd yr ystyrir eu bod yn creu “cyn lleied ag y bo modd o elyniaeth”. Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi bod cymunedau teithwyr yn rhy aml yn cael eu hunain wrth ymyl ffyrdd prysur a seilwaith, a bod hyn yn amddifadu’r gymuned Sipsiwn, Roma a theithwyr o unrhyw gysylltiad â’r amgylchedd naturiol.

Mae’r Pwyllgor yn disgrifio’r sefyllfa hon fel un “annerbyniol”, barn a rennir gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a haerodd ei bod yn gwbl annerbyniol eu cael [y safleoedd] yn ymyl ffyrdd prysur a heb eu lleoli’n briodol ger ysgolion. Mae’r Pwyllgor yn nodi “mae taer angen gweithio gyda'r cymunedau i gael dealltwriaeth o'r hyn sy'n iawn ac yn briodol ar eu cyfer”.

Nid yw pob teulu yn dymuno byw ar safleoedd awdurdod lleol, ac mae llawer yn chwilio am eu darn o dir eu hunain i sefydlu cartref. Yn rhy aml, fodd bynnag, mae teuluoedd yn wynebu brwydrau cyfreithiol costus gydag ychydig iawn o gefnogaeth i lywio drwy’r system gynllunio. Mae'n faes y mae'r Pwyllgor yn dymuno gweld Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith a chynnydd ynddo i helpu teuluoedd i gael y cyngor arbenigol sydd ei angen. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gomisiynu rhaglen beilot tair blynedd i ddarparu cyngor annibynnol dibynadwy i bobl sy’n awyddus i ddatblygu safleoedd preifat.

Beth yw’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a sut y bydd yn helpu?

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn gosod gweledigaeth ar gyfer Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Fe’i datblygwyd mewn cydweithrediad ag amrywiaeth eang o gymunedau, gan gynnwys y gymuned Sipsiwn, Roma a theithwyr. Mae’r Cynllun Gweithredu yn nodi bod pobl yn y gymuned hon yn arbennig yn aml yn canfod eu hunain ar:

ymylon cymdeithas ac yn wynebu hiliaeth”, a “chyfyngir ar eu dewisiadau mewn bywyd a gwrthodir llety diwylliannol briodol iddynt.

Ategwyd y thema hon drwy gydol ymchwiliad y Pwyllgor a dywedodd Travelling Ahead, wrth y Pwyllgor y “byddai rhai o’r pethau sydd wedi mynd ymlaen yn lleol ac yn rhanbarthol yn annerbyniol pe baent yn ymwneud ag unrhyw grŵp arall, neu unrhyw grŵp o ddinasyddion neu grŵp ethnig lleiafrifol arall”.

Mae’r Cynllun Gweithredu â’r nod o:

  • greu rhwydwaith cenedlaethol o ddarpariaeth dramwy er mwyn hwyluso bywydau teithwyr;
  • adolygu’r polisi cyllido presennol ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr;
  • adolygu canllawiau safleoedd er mwyn sicrhau y caiff anghenion cymunedau o ran dyluniad a lleoliad eu hadlewyrchu’n well; a
  • sicrhau y caiff y mecanweithiau cyfreithiol presennol eu defnyddio’n llawn i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth bresennol.

Er ei fod yn croesawu’r Cynllun Gweithredu, roedd y Pwyllgor yn dal heb ei argyhoeddi y bydd yr ymrwymiadau ynddo “yn gwella’r sefyllfa”. Mae ei argymhellion i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • gosod amserlen ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd y Cynllun o ran helpu i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a theithwyr; a
  • chynnwys cynghorwyr cymuned mewn rhaglenni hyfforddi ar gyfer aelodau etholedig ar “ddiwylliant, anghenion a chryfderau cymunedau Sipsiwn a Theithwyr”.

Amser i weithredu nid siarad

Derbyniodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol pob un o’r 21 argymhelliad y Pwyllgor yn eu cyfanrwydd, gan nodi eu bod “yn gyson â'n cynlluniau presennol ac ar gyfer y dyfodol”.

Roedd un argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro sut y bydd yn defnyddio ei phwerau i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau. Dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol i gefnogi datblygiad cynlluniau cadarn sy’n diwallu anghenion Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Hyd yma, ymddengys nad oes llawer o symud tuag at ddefnyddio pwerau Gweinidogol i orfodi awdurdodau lleol i ddiwallu yr angen a aseswyd pryd bynnag y bydd wedi methu â gwneud hynny. Gallai galwadau i ddefnyddio pwerau o’r fath gynyddu, fodd bynnag, os bydd awdurdodau’n methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn y dyfodol.

Yn ôl unigolyn o gymuned y teithwyr a oedd yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor, mae Cymru […] yn arwain gyda’r polisi a chydag amrywiaeth a chyda chydraddoldeb a’r pwyslais ar ddiwylliant a thraddodiad. Ac eto, ar lefel leol, mae'n teimlo’n rhy aml fel pe bai yn methu â chyrraedd y nod.

A dyma’r her i Lywodraeth Cymru – er ei bod wedi sefydlu’r hyn a ystyrir yn fframwaith deddfwriaethol a pholisi cymharol gadarn i alluogi cynnydd, os bydd yn methu â throsi hyn yn ganlyniadau gweledol yn lleol, bydd y cymunedau Sipsiwn, Roma a theithwyr, fel y nodwyd gan Gynghrair Hil Cymru, yn teimlo fel pe bai Llywodraeth Cymru wedi methu a chyflawni’r hyn a fwriedir.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru