Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae dyfarniadau’r Goruchaf Lys wedi chwarae rhan allweddol yn y ffordd y caiff datganoli a’r broses ddeddfu eu deall a’u gweithredu yng Nghymru.
Yn ogystal â dylanwadu ar weithrediad darnau penodol o ddeddfwriaeth, mae'r achosion hefyd wedi dylanwadu ar y setliad datganoli.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar ddyfarniadau allweddol y Goruchaf Lys.
Pryd y bydd achos yn cyrraedd y Goruchaf Lys?
Mae cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd (ei chylch gwaith i wneud cyfreithiau) yn cael ei ddiffinio yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.
Os caiff cymhwysedd deddfwriaethol ei gwestiynu, rhaid i'r Goruchaf Lys wneud dyfarniad ar hyd a lled pwerau cyfreithiol y Senedd.
Mae achos yn cyrraedd y Goruchaf Lys pan fydd Bil yn cael ei atgyfeirio iddo gan swyddog y gyfraith. Gall Cwnsler Cyffredinol Cymru (Llywodraeth Cymru) neu Dwrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr (Llywodraeth y DU) atgyfeirio Bil ar ôl iddo gael ei basio gan y Senedd a chyn iddo gael ei gyflwyno i gael Cydsyniad Brenhinol.
Gellir cael atgyfeiriadau statudol neu apêl yn ymwneud â ”mater datganoli", neu apêl achosion o lysoedd is drwy'r broses farnwrol arferol.
Llwyddiannau cychwynnol Llywodraeth Cymru
Gwnaed dau ddyfarniad cychwynnol gan y Goruchaf Lys o blaid Llywodraeth Cymru, ac roedd goblygiadau sylweddol iddynt o ran dehongli’r setliad datganoli.
Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)
Yn 2012, atgyfeiriodd y Twrnai Cyffredinol ar y pryd, Dominic Grieve AS, y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Llys. Hwn oedd y tro cyntaf i bwerau o dan Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio i atgyfeirio Bil.
Y Bil hwn oedd y cyntaf i gael ei basio gan y Cynulliad ers iddo gael rhagor o bwerau deddfu sylfaenol yn 2011.
Roedd atgyfeiriad y Twrnai Cyffredinol yn ymwneud ag Adrannau 6 a 9 o’r Bil, a oedd yn dileu’r angen i Ysgrifennydd Gwladol y DU gadarnhau is-ddeddfau.
Dyfarnodd y Goruchaf Lys yn unfrydol fod gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol i ddileu pwerau cadarnhau yr Ysgrifennydd Gwladol, gan nodi y byddai'r dileu yn:
incidental to, and consequential on, the primary purpose of removing the need for confirmation by the Welsh Ministers of any byelaw made under the scheduled enactments
ac
the primary purpose of the Bill cannot be achieved without that removal.
Derbyniwyd y dyfarniad gan y ddwy ochr, gyda Llywodraeth y DU yn nodi ei fod wedi helpu i ddeall ble mae’r ffin ddatganoli yn gorwedd.
Bil Sector Amaethyddol (Cymru)
Yn 2013, pasiodd y Cynulliad y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) mewn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr. Drwy’r Bil, roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu cadw system ar gyfer rheoleiddio cyflogau gweithwyr amaethyddol.
Atgyfeiriodd y Twrnai Cyffredinol y Bil i'r Goruchaf Lys, gan ddadlau ei fod yn ymwneud â’r meysydd cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol a gadwyd yn ôl, yn hytrach nag amaethyddiaeth.
Barnodd y Goruchaf Lys fod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, gan benderfynu bod angen edrych y tu hwnt i’r diffiniad o amaethyddiaeth a oedd yn y geiriadur, ac ystyried bwriadau’r Bil. Yn y cyd-destun hwn, roedd y Llys o’r farn bod amaethyddiaeth yn cyfeirio at bob agwedd ar weithgarwch amaethyddol diwydiannol neu economaidd.
Nododd y Llys hefyd nad oedd cyflogaeth na chysylltiadau diwydiannol wedi’u rhestru fel eithriadau i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, tra bod agweddau eraill ar gyflogaeth (megis cynlluniau pensiwn) wedi'u heithrio. Cyfeiriodd at hyn fel tystiolaeth nad oedd unrhyw fwriad gan Senedd y DU i greu cyfyngiadau mwy cyffredinol ar gymhwysedd y Cynulliad yn y maes hwn.
Dyfarnodd y Llys y gallai’r Cynulliad ddeddfu ar bynciau nad ydynt wedi’u nodi fel eithriadau, neu ”bynciau tawel”, ar yr amod bod prif ddiben Bil yn ymwneud yn deg ac yn realistig â phwnc datganoledig.
Cyfeiriodd y cyfreithiwr cyfansoddiadol Ann Sherlock at y dyfarniad hwn fel “eglurhad sylweddol” o gymhwysedd y Cynulliad.
Croesawodd y Prif Weinidog Carwyn Jones AC y “dyfarniad eithriadol o bwysig”, ond awgrymodd fod dryswch ynghylch cymhwysedd yn rheswm dros symud y Cynulliad i fodel cadw pwerau (rhagor o wybodaeth isod).
Gwthio'r ffiniau
Yn 2015, am y tro cyntaf, dyfarnodd y Goruchaf Lys fod Bil y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad.
Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)
Byddai'r Bil wedi galluogi Gweinidogion Cymru i adennill costau a wariwyd gan GIG Cymru wrth ddarparu triniaeth i ddioddefwyr clefydau sy’n gysylltiedig ag asbestos. Byddai'r costau hynny'n cael eu hadennill gan bwy bynnag yr oedd yn ofynnol iddo dalu iawndal i'r dioddefwyr.
Cafodd y Bil ei atgyfeirio i'r Goruchaf Lys gan Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Theodore Huckle CF. Hwn oedd y tro cyntaf i Gwnsler Cyffredinol atgyfeirio Bil. Er bod y Cwnsler Cyffredinol yn credu bod y Bil o fewn cymhwysedd y Cynulliad, dywedodd ei fod yn briodol datrys y mater yn ymwneud â chymhwysedd y Bil hwn cyn i’r Bil ddod i rym, o ystyried bod eraill wedi codi amheuon ynghylch cymhwysedd y Cynulliad. Teimlwyd ei bod yn well i’r Goruchaf Lys ddyfarnu yn y modd hwn, yn hytrach na chaniatáu i’r rhai â buddiannau preifat herio’r Bil ar ôl ei ddeddfu.
Dyfarnodd y Goruchaf Lys nad oedd y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a'i fod yn anghydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol oherwydd ei effaith ar hawliau digolledwyr. Fodd bynnag, roedd y barnwyr yn anghytuno ynghylch maint a chwmpas y cymhwysedd.
Newid o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau
Dylanwadodd pa mor aml yr oedd deddfwriaeth y Senedd yn cael i hatgyfeirio i’r Goruchaf Lys ar drafodaethau ar ddiwygio’r setliad datganoli.
Argymhellodd ail adroddiad Comisiwn Silk y dylid symud o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau, ble y "byddai’r setliad yn nodi’n glir derfynau’r cymhwysedd datganoledig" ac y gallai'r sawl sy’n deddfu "wneud hynny’n fwy hyderus".
Nododd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, fod Llywodraeth Cymru “yn llwyr gefnogi” yr argymhelliad, ond rhybuddiodd nad oedd achos dros dynnu pwerau oddi ar y Cynulliad drwy’r broses.
Mynegodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad bryderon y byddai Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU wedi trosi'r “pynciau tawel” a nodwyd gan y Llys yn gymalau cadw ac felly wedi arwain at gam yn ôl o ran cymhwysedd, gan wrthdroi’r dyfarniad ar y Bil Sector Amaethyddol (Cymru).
Yn dilyn hynt Deddf Cymru 2017, symudodd y Cynulliad i fodel cadw pwerau; roedd pob maes wedi’i ddatganoli, ac eithrio’r rhai a restrir yn Atodlenni 7A a 7B.
Er i hyn arwain at leihad mewn achosion yn y Goruchaf Lys, dengys achosion ar gymhwysedd Senedd yr Alban (lle mae'r model cadw pwerau wedi bod ar waith erioed) fod uwchgyfeirio dal yn bosibl.
Brexit a'r Goruchaf Lys
Ers 2016, mae anghytundebau ynghylch y broses o adael yr UE ac ailsefydlu pwerau wedi arwain at heriau cyfreithiol gan y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU fel ei gilydd. Mae dyfarniadau dilynol wedi arwain at ragor o eglurder pwysig.
Yn benodol, yn 2017 dyfarnodd y Goruchaf Lys nad oes modd gorfodi Confensiwn Sewel drwy gamau cyfreithiol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein herthygl Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y gyfres hon.
Dehongli datganoli
Mae rôl y Goruchaf Lys wrth ddehongli’r setliad datganoli yng Nghymru wedi bod, ac yn parhau i fod, yn arwyddocaol. Mewn trafodaethau a thystiolaeth ddiweddar yn ymwneud ag a yw Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, cafwyd sawl cyfeiriad at allu’r Goruchaf Lys i weithredu fel canolwr terfynol ar y materion hyn.
Pe bai dadleuon pellach ynghylch ffiniau cyfreithiol yn codi, mae'n debygol y bydd dyfarniadau'r Llys yn chwarae rhan allweddol unwaith eto.
Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru