Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.
Beth yw’r prif heriau a chyfleoedd wrth geisio gwella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru?
Roedd pryderon difrifol, hirsefydlog wedi’u mynegi ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru cyn y pandemig COVID-19. Roedd nifer o bwyllgorau’r Senedd wedi nodi amserau aros hir, trothwyon uchel ar gyfer triniaeth a bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir. Mae pryderon newydd wedi’u mynegi ynghylch effaith barhaus y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth, ac ar rai grwpiau yn benodol.
Nid yw effeithiau hirdymor y pandemig ar iechyd meddwl wedi’u deall yn llawn eto. Mae’n glir bod iechyd meddwl wedi gwaethygu a bod yr effaith ar grwpiau gwahanol wedi bod yn anghyfartal. Pobl ifanc a phobl sy’n byw mewn tlodi sydd wedi wynebu’r effaith fwyaf.
Salwch meddwl yng Nghymru/yn y Deyrnas Unedig
Effaith y pandemig
Dywedodd dros hanner yr oedolion a thri chwarter y bobl ifanc a gymerodd ran mewn arolwg fod eu hiechyd meddwl wedi bod yn waeth yn ystod misoedd cynnar y pandemig. Erbyn hyn, mae’n glir bod COVID-19 wedi cael effeithiau emosiynol sylweddol ar y boblogaeth. Mae pobl wedi wynebu lefelau uwch o straen a gorbryder, yn ogystal â phrofedigaeth. Maent hefyd wedi cael llai o gyfleoedd i fanteisio ar eu technegau arferol ar gyfer ymdopi (er enghraifft, gweld ffrindiau a theulu a gwneud ymarfer corff).
Er y gellir disgrifio trallod llawer o bobl fel ymateb ‘arferol’ i sefyllfa hynod anarferol, mae’n bosibl y bydd angen cymorth ar y bobl hyn o hyd. Hefyd, mae’n bosibl y bydd symptomau pobl oedd â phroblemau iechyd meddwl cyn y pandemig wedi gwaethygu. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020, pwysleisiodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd fod yn rhaid sicrhau cymorth priodol i bawb sydd mewn angen. Hefyd, mae’n rhaid i’r cymorth a roddir ymateb i’r ystod o anghenion o ran iechyd meddwl – o ymyrraeth gynnar ar lefel isel i wasanaethau mwy arbenigol a gofal mewn argyfwng.
Cydnabyddir y bu effaith anghymesur ar iechyd meddwl a llesiant rhai grwpiau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- pobl sydd eisoes ag anghenion o ran cymorth iechyd meddwl;
- pobl ar incwm isel neu y mae eu statws o ran cyflogaeth wedi newid, neu bobl hunangyflogedig;
- gweithwyr y GIG a gweithwyr gofal, a staff eraill ar yr reng flaen;
- cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig;
- oedolion hŷn; a
- phlant a phobl ifanc.
Plant a phobl ifanc
Yn ystod y pandemig, mae pobl ifanc wedi nodi eu bod yn wynebu ystod o faterion o ran eu hiechyd meddwl, sy’n cynnwys lefelau uwch o orbryder a theimladau o unigrwydd a llai o fynediad at wasanaethau iechyd meddwl a’r gwasanaethau eraill y maent fel arfer yn dibynnu arnynt. Ofnir y gallai’r amhariad ar addysg, cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer pobl ifanc gael effaith sylweddol, hirdymor ar eu llesiant.
Ym mis Hydref 2020, cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd adroddiad dilynol yn seiliedig ar yr adroddiad pwysig a gyhoeddwyd ganddo yn 2018, sef Cadernid Meddwl. Mae’r adroddiad dilynol yn amlinellu cynllun i wella cymorth emosiynol a chymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.
Y prif heriau a chyfleoedd sy’n wynebu Llywodraeth nesaf Cymru
Rheoli nifer y cleifion sy’n aros am driniaeth ynghyd â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau
Disgwylir iddi gymryd nifer o flynyddoedd i wasanaethau’r GIG a rhestri aros ddychwelyd i’r un lefelau â’r gwasanaethau a’r rhestri aros cyn y pandemig. Nid oedd iechyd meddwl mewn sefyllfa gref cyn y pandemig COVID-19, gyda llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at gymorth amserol a phriodol. Mae cynnydd wedi’i wneud mewn rhai meysydd, fel y gwaith a wnaed mewn ysgolion i wella’r cymorth ar gyfer llesiant meddyliol disgyblion. Fodd bynnag, mae bylchau mewn darpariaeth yn parhau ac nid yw Llywodraethau blaenorol wedi llwyddo i’w cau. Er enghraifft, mae mynediad at therapïau seicolegol ledled Cymru yn parhau’n heriol.
Er bod gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi’u categoreiddio fel gwasanaeth hanfodol yn ystod y pandemig, nid oedd llawer o bobl wedi llwyddo i gael mynediad at y gwasanaethau hyn neu fe wnaethant oedi cyn gofyn am gymorth. Mae pryderon wedi’u mynegi ynghylch lefel uchel yr anghenion sydd heb eu diwallu, gyda chyflyrau rhai pobl sydd eisoes â phroblemau iechyd meddwl yn dirywio.
Mae cynllun adfer Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (Mawrth 2021) yn rhybuddio y gallai’r GIG gael ei orlwytho gan atgyfeiriadau am gymorth iechyd meddwl. Yn nodedig, mae’r cynllun yn nodi y bydd y duedd hon yn cael ei llywio gan effeithiau economaidd-gymdeithasol y pandemig (yn hytrach nag anghenion meddygol/anghenion iechyd meddwl arbenigol).
Bydd gan dechnoleg fwy o rôl wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl
Yn ystod y pandemig, mae rhagor o wasanaethau iechyd meddwl wedi’u darparu o bell, ac mae nifer yr apwyntiadau wyneb yn wyneb wedi gostwng yn sylweddol. Gall gwasanaethau o bell/ar-lein fod yn ffordd effeithiol o ddiwallu rhai anghenion, ond mae’n bosibl nad ydynt yn addas neu’n hygyrch i bawb. Er enghraifft, nid oes gan oddeutu 13 y cant o aelwydydd yng Nghymru fynediad at y rhyngrwyd.
Mae gwerthusiad diweddar o wasanaethau ymgynghori fideo yn awgrymu bod ‘brwdfrydedd mawr’ am ymgynghori fideo yng Nghymru, gyda photensial uchel o ran cynaliadwyedd a defnydd hirdymor y tu hwnt i’r pandemig. Yn y dyfodol, mae’n debygol y bydd dulliau cyfunol o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu defnyddio, gyda chyfuniad o wasanaethau wyneb yn wyneb a gwasanaethau o bell. Bydd mynd i’r afael â’r ‘bwlch digidol’ felly’n hollbwysig.
Mae angen gwasanaethau iechyd meddwl gwell, ond ni fydd hyn yn ddigon ar ben ei hun.
Neges glir gan randdeiliaid yw nad yw ‘iechyd meddwl’ yn dod o dan ymbarél y GIG yn unig – mae’n fater iechyd cyhoeddus sydd â phwysigrwydd ehangach o lawer. Mae atal salwch meddwl yn gyfrifoldeb ar draws adrannau’r Llywodraeth a phob sector o’r gymdeithas. Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl:
Prevention of mental health problems is possible through effective societal, community and individual support, but it cannot happen within the health sector alone – action must be taken in the spaces where people are born, raised and live (in the home, in schools, their communities and workplaces).
Canolbwyntio’n fwy ar iechyd meddwl
Ym mis Hydref 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn ddiweddaraf ei chynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl i ymateb i’r pandemig. Hefyd, cafodd Gweinidog ei phenodi sy’n gyfrifol am iechyd meddwl a llesiant. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn cynnwys rhagor o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, gan gydnabod bod gwella iechyd meddwl y cyhoedd yn cwmpasu gwaith y Llywodraeth gyfan:
Gellir gweld buddsoddiad pellach mewn iechyd meddwl ar draws y llywodraeth, yn unol â'n dull atal a diogelu iechyd meddwl a lles, gan gynnwys cymorth cyflogaeth, cyngor ar ddyledion, cymorth tai, chwaraeon a mynediad at fannau gwyrdd.
Ym mis Rhagfyr 2020, sefydlodd Llywodraeth Cymru Fwrdd Cyflawni a Goruchwylio Gweinidogol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl i gryfhau’r trefniadau llywodraethu sy’n gysylltiedig â’i strategaeth iechyd meddwl ac i ddatblygu’r gwaith hwn yn gynt.
Edrych tua’r dyfodol
Mae’r pwyslais cynyddol ar iechyd meddwl yn gyffredinol wedi’i groesawu. Fodd bynnag, a fydd hyn yn ddigon i’n galluogi i fynd i’r afael ag effeithiau’r pandemig a gweithredu mewn modd sy’n cwmpasu’r system gyfan, sef yr hyn sydd ei angen arnom i wella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru?
Mae yna gonsensws bod iechyd meddwl wedi’i dangyllido’n barhaus (nid dim ond yng Nghymru, ond ledled y byd). Er gwaethaf y baich o ran afiechyd y mae problemau iechyd meddwl yn ei achosi, mae iechyd meddwl yn denu cyfran isel o’r gwariant cyffredinol ar iechyd. Mae cyfran lai fyth o wariant ar waith ymchwil ym maes iechyd yn cael ei gwario ar ymchwil ynghylch iechyd meddwl. Mae pryderon yn parhau y bydd iechyd meddwl yn cael llai o flaenoriaeth yn yr ymateb parhaus i’r pandemig a’r broses o adfer gwasanaethau gofal iechyd arferol.
Mae’r sector a phwyllgorau’r Senedd wedi bod yn galw am ragor o gydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol ers cryn amser. Mae’n bosibl bod siwrnai hir o’n blaenau cyn inni gyrraedd pen y daith honno. Bydd arweinyddiaeth ymroddedig, polisi cydgysylltiedig a dyraniadau cyllidebol priodol yn hanfodol i wella iechyd meddwl y cyhoedd a llunio gwasanaethau iechyd meddwl sy’n addas at y dyfodol.
Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru