Cymru, Erthygl 16 a Phrotocol Gogledd Iwerddon

Cyhoeddwyd 24/11/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Protocol Gogledd Iwerddon (“y Protocol”) yn rhan o’r Cytundeb Ymadael, sy'n gosod telerau ymadawiad y DU â'r UE. Sefydlodd drefniadau newydd ar gyfer tir y DU-UE sy’n ffinio rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, un o Aelod-wladwriaethau’r UE.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi galw ar yr UE i aildrafod y Protocol oherwydd ei fod yn arwain at nifer o broblemau. Mae'n rhestru rhai ohonynt fel amhariad ar gadwyni cyflenwi, costau uwch, a llai o ddewis i ddefnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r Arglwydd David Frost wedi rhybuddio dro ar ôl tro, ac yn fwyaf diweddar ar 20 Tachwedd, y gallai'r DU ddefnyddio Erthygl 16 os na wneir newidiadau i'r Protocol. Mae erthygl 16 yn caniatáu cymryd mesurau diogelu os yw'r Protocol yn arwain at rai anawsterau, neu at ddargyfeiriadau masnach. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y byddai hyn yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth yn hytrach na’n well, ac y dylid ei osgoi.

Mae'r erthygl hon yn egluro Erthygl 16, sut mae'n ymwneud â newidiadau i'r Protocol yn y dyfodol a pham ei bod yn bwysig i Gymru.

Pam mae Llywodraeth y DU eisiau newid y Protocol?

Cytunwyd ar y Protocol yn 2019 ond nid yw ar waith yn llawn eto oherwydd bod y DU a'r UE yn anghytuno ar sut y dylai'r trefniadau newydd weithio.

Mae gwiriadau newydd ar y ffiniau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon naill ai wedi'u gohirio ar y cyd gan y DU a'r UE, neu wedi'u gohirio’n unochrog gan y DU. Mae hyn yn golygu nad yw effaith lawn y Protocol wedi ei theimlo eto.

Protocol Gogledd Iwerddon: eglurhad

Cytunwyd yn y Protocol y byddai Gogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rhai o reolau’r UE, tra gallai gweddill y DU (fel Prydain Fawr) newid ei rheolau.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r gwiriadau sydd fel rheol yn ofynnol gan yr UE ar gynhyrchion sy'n dod i mewn i'w farchnad gael eu cynnal wrth gyrraedd Gogledd Iwerddon o Gymru, Lloegr a'r Alban. Mae'r BBC wedi cynhyrchu ffeithlun i ddangos hyn.

Dywedir weithiau fod hyn fel petai wedi creu ffin ym Môr Iwerddon.

Mae'r trefniadau'n ei gwneud yn ofynnol i borthladdoedd Cymru sefydlu swyddi rheoli ffiniau newydd, a ddisgrifir gan Lywodraeth Cymru fel un o'r rhaglenni cyflenwi seilwaith mwyaf a mwyaf cymhleth y mae'n ymwneud ag ef.

Mae Llywodraeth y DU eisiau aildrafod y Protocol oherwydd ei fod yn anhapus â rhai o'i delerau a’r effeithiau y maent yn eu cael. Mae'r UE wedi dweud na fydd yn aildrafod y Protocol ond ei fod yn barod i drafod atebion gyda'r DU. Mae'r ddau wedi cyflwyno cynigion ar sut i ddatrys y sefyllfa ac mae trafodaethau'n parhau.

Ble mae Erthygl 16 yn dod i mewn?

Nid yw erthygl 16 yn darparu ar gyfer aildrafod na gwneud newidiadau parhaol i'r Protocol.

Yn hytrach, mae’n caniatáu i’r DU a’r UE gymryd mesurau diogelu os yw'r Protocol yn arwain at rai anawsterau, neu at ddargyfeiriadau masnach. Disgrifir hyn fel:

...anawsterau economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol difrifol sy'n debygol o barhau.

Os yw naill ai'r DU neu'r UE yn credu bod y Protocol wedi arwain at anawsterau o'r fath, neu at ddargyfeiriadau masnach, gallant ddefnyddio mesurau diogelu i geisio unioni’r sefyllfa. Mae erthygl 16 hefyd yn darparu y gall y parti arall ymateb i fesurau diogelu gyda'i fesurau ail-gydbwyso ei hun.

Mae Atodiad 7 y Protocol yn nodi'r weithdrefn i'w dilyn gan y DU a'r UE wrth ddefnyddio Erthygl 16.

Pa fath o fesurau y gellid eu cymryd?

Nid yw erthygl 16 yn disgrifio pa fesurau a ganiateir, ond mae'n gosod rhai rheolau ar gyfer mesurau:

Mesurau Erthygl 16

Mae’n rhaid i fesurau diogelu fod yn “briodol” ac wedi'u cyfyngu o ran eu cwmpas a'u hyd i'r hyn sy'n gwbl angenrheidiol i unioni'r sefyllfa.

Mae’n rhaid i fesurau ail-gydbwyso fod yn “gymesur” ac yn gwbl angenrheidiol i unioni anghydbwysedd a achosir gan fesurau diogelu.

I'r ddau, mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i fesurau sy'n tarfu leiaf ar y Protocol yn gyffredinol.

Yn ei gynigion, a nodir mewn papur gorchymyn, mae Llywodraeth y DU yn cysylltu Erthygl 16 â newid y Protocol:

Yn hytrach na defnyddio Erthygl 16, byddai'n well gennym ddod o hyd i lwybr cydsyniol. Bellach, mae angen sgyrsiau brys a all geisio dod o hyd i gydbwysedd newydd ar gyfer y Protocol.

Fodd bynnag, mae academyddion wedi nodi nad yw mesurau Erthygl 16 yn darparu opsiwn i aildrafod neu newid y Protocol. Dywed Yr Athro Robert Howse o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Efrog Newydd nad yw Erthygl 16:

...yn fath o ddarpariaeth a gynlluniwyd i sbarduno aildrafod na hyd yn oed wneud addasiadau parhaol i ymrwymiadau neu fecanweithiau penodol yn y Protocol.

Mae'r UE wedi dweud yn ei gynigion ei fod am ddod o hyd i ateb “parhaol”.

Sut gallai hyn effeithio ar Gymru?

Bydd y ffordd y caiff anghytundebau mewn perthynas â'r Protocol eu datrys yn cael effaith sylweddol ar Gymru, gan gynnwys ei masnachwyr, allforwyr, porthladdoedd a phobl.

  1. Os caiff Erthygl 16 ei rhoi mewn grym, bydd yr effaith ar Gymru yn dibynnu ar ba fesurau diogelu a ddewisir. Yn yr un modd ar gyfer mesurau ail-gydbwyso posibl yr UE mewn ymateb, os cymerir mesurau o’r fath. Mae rhai cyfryngau, gan gynnwys Euronews, wedi awgrymu y gallai'r UE atal Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE, y cytundeb sy'n sefydlu eu perthynas newydd.

    Dywedodd yr Arglwydd Frost wrth Dŷ'r Arglwyddi ym mis Hydref ei fod yn disgwyl y byddai mesurau Erthygl 16 yn cael eu gweithredu drwy is-ddeddfwriaeth. Gallai hyn ofyn am weithredu gan Lywodraeth Cymru.

    Dywedodd y Prif Weinidog ddydd Gwener y byddai masnach Cymru yn cael ei heffeithio’n arbennig o wael gan unrhyw ddirywiad mewn cysylltiadau masnachu rhwng y DU a’r UE. Dywedodd y byddai sbarduno Erthygl 16 yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth, nid yn well, a bod gan Gymru ddiddordeb uniongyrchol mewn gweld bod sbarduno Erthygl 16 yn cael ei osgoi.
  2. Os gwneir newidiadau i'r Protocol, bydd y graddau y maent yn effeithio ar Gymru hefyd yn dibynnu ar natur newidiadau o'r fath. Er enghraifft, mae'r DU eisiau disodli rheolau rheoli cymorthdaliadau y Protocol a symleiddio'r rheolau presennol ar gyfer masnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, a ddisgrifir fel beichiau yn ei bapur gorchymyn. Gallai newidiadau a wneir gan ddeddfwriaeth y DU ei gwneud yn ofynnol i gael ystyriaeth Llywodraeth Cymru a / neu'r Senedd.

Dywedir bod yr anghydfod wedi arwain at oedi cyn cwblhau cyfranogiad y DU yn rhaglenni ymchwil a gofod yr UE, a Mariya Gabriel, Comisiynydd yr UE, yn dweud bod angen mynd i’r afael â materion eraill y DU-UE yn gyntaf. Mae hyn wedi arwain at oedi cyn talu i ymchwilwyr a chwmnïau'r DU ac yn ddiweddar achosodd i Brifysgol Caerdydd leisio ei phryderon.

Gallai materion o fewn cylch gwaith y Senedd hefyd gael eu heffeithio, gan gynnwys trefniadau ehangach y DU-UE , y rhaglen fframweithiau cyffredin, gweithrediad Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 a darnau eraill o ddeddfwriaeth ar ôl Brexit, a materion allanol.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru