1,089 o ddyddiau yn ôl, bu i ymosodiad Rwsia ar raddfa lawn ar Wcráin ar 24 Chwefror 2022 orfodi bron saith miliwn o Wcraniaid i geisio diogelwch a chefnogaeth mewn man arall.
Erbyn 26 Tachwedd 2024, roedd bron 8,000 o drigolion Wcráin wedi ffoi i Gymru gan ddefnyddio llwybrau a agorwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Mae'r erthygl hon yn nodi tair blynedd ers dechrau’r rhyfel drwy gyflwyno'r ystadegau diweddaraf ar ffoaduriaid, ac ar effaith y rhyfel ar fasnach Cymru gydag Wcráin a Rwsia.
Mae'r erthygl hon yn dilyn ein herthyglau blaenorol a oedd yn nodi dwy flynedd ers dechrau’r rhyfel, ac ar yr ymateb cychwynnol, ar Y rhai sy’n cyrraedd o Wcrain ac ar effeithiau cynnar y rhyfel yng Nghymru a thu hwnt.
Cynlluniau ffoaduriaid
Mae’n dorcalonnus bod angen y gefnogaeth hon o hyd wrth i’r gwrthdaro barhau. Nid yw'r goresgyniad yn dangos unrhyw arwyddion o ddod i ben wrth i ni nesáu at drydydd pen-blwydd y goresgyniad… Byddwn yn parhau i sefyll mewn undod. Mae bywydau Wcreinaidd a Chymreig wedi plethu dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, ac mae'r edafedd hyn wedi plethu gyda'i gilydd o fewn gwead anhygoel ein cymunedau,
yn ôl Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ar 19 Tachwedd 2024.
Mewn ymateb i ymosodiad Rwsia, agorodd Llywodraeth y DU dri llwybr fisa ar gyfer y rhai a oedd yn chwilio am noddfa:
- Mae cynllun Cartrefi i Wcráin yn parhau ar agor ar gyfer ceisiadau ac mae’n caniatáu i unigolion noddi ffoaduriaid a darparu llety. Ym mis Chwefror 2024, tynhaodd Llywodraeth flaenorol y DU y meini prawf cymhwyster ar gyfer pwy allai ddod yn noddwr Cartrefi i bobl Wcráin, o unrhyw un sydd â chaniatâd i fyw yn y DU am chwe mis i ddinasyddion Prydeinig a thrigolion parhaol yn unig. Mae hefyd wedi lleihau hyd y fisâu newydd a roddwyd o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin o 36 mis i 18 mis. Yn Ionawr 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y gall rhieni (neu warcheidwaid cyfreithiol) sy’n meddu ar ganiatâd o dan unrhyw rai o Gynlluniau Wcráin wneud cais i noddi eu plentyn o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin.
- Roedd y Cynllun Teuluoedd o Wcráin yn caniatáu i wladolion Wcreineg cymwys ymuno ag aelodau o'r teulu a oedd eisoes yn byw yn y DU i ymestyn eu harhosiad. Daeth y cynllun i ben ar 19 Chwefror 2024.
- Roedd y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin (UES) yn caniatáu i wladolion Wcráin ac aelodau agos eu teulu wneud cais i aros yn y DU. Ym mis Mai 2024, cafodd y Cynllun Estyn ei gau i bob unigolyn, ac eithrio plant a anwyd yn y DU i rieni ar fisâu Wcráin.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n dod yn 'uwch noddwr' Cartrefi i Bobl Wcráin ym mis Mawrth 2022.
O 16 Rhagfyr 2024, roedd ychydig dros 200,000 o ffoaduriaid o Wcrain wedi cyrraedd y DU drwy'r cynlluniau Cartrefi i Wcrain a’r Cynllun Teuluoedd Wcráin. Daeth 5% o’r teuluoedd hyn i Gymru, gyda Llywodraeth Cymru yn noddi tua 40% (3,348) ohonynt.
Dyfodol ansicr
Yn wahanol i fisâu safonol neu ganiatâd statws ffoaduriaid, nid yw cynlluniau fisa Wcráin yn cynnig preswyliad parhaol. I ddechrau, caniataodd y fisâu arhosiad o dair blynedd ar y mwyaf. Bydd y rhai a gyrhaeddodd y DU yn fuan ar ôl y goresgyniad yn gweld eu fisâu yn dod i ben o'r mis hwn, oni bai eu bod yn gwneud cais i’w hadnewyddu am 18 mis arall.
Er y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd, mae arolwg a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Ebrill 2024 wedi canfod bod 68% o ymatebwyr wedi dweud eu bod yn bwriadu parhau i fyw yn y DU hyd yn oed os oeddent yn teimlo ei bod yn ddiogel dychwelyd i'r Wcráin.
Ystadegau diweddaraf o ran Cymru
Erbyn 26 Tachwedd 2024, roedd 3,348 o ffoaduriaid o Wcráin wedi cyrraedd Cymru drwy nawdd Llywodraeth Cymru a 4,600 o ffoaduriaid o Wcrain wedi cael eu noddi gan unigolion. Er y gwyddom faint o bobl o Wcráin sydd wedi dod i Gymru drwy'r cynlluniau, nid ydym yn gwybod faint sydd wedi gadael ers hynny, naill ai i fynd yn ôl i Wcráin neu i adleoli o fewn y DU.
Mae ychydig dros 2,000 o Wcraniaid hefyd wedi cael fisâu sy'n caniatáu iddyn nhw ddod i Gymru ond nad ydynt wedi cyrraedd hyd yma. Ym mis Tachwedd 2024, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai angen i’r rhai oedd â chaniatâd i deithio ond nad oeddent wedi teithio i’r DU erbyn 13 Chwefror 2025 gyflwyno cais newydd. Mae'r dyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Amlygodd swyddog Llywodraeth Cymru y mater hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ym mis Rhagfyr 2024, a sicrhaodd yr Aelodau, pe bai hyn yn arwain at gynnydd sydyn yn nifer yr Wcraniaid sy’n teithio i Gymru, bod “cynlluniau wrth gefn ar waith”. Nid oes sicrwydd ynglŷn â faint sydd wedi ail-ymgeisio.
Nifer y ceisiadau am fisa a fisâu a roddwyd drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin
Ffynhonnell: Llywodraeth y DU
Nifer y fisâu a roddwyd a nifer y bobl a gyrhaeddodd Gymru rhwng mis Ebrill 2022 a mis Tachwedd 2024
Ffynhonnell: Llywodraeth y DU
Archwilio Cymru yn amlygu pwysau ar wasanaethau cyhoeddus
Ym mis Mawrth 2024, adroddodd Archwilio Cymru fod “Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n dda gyda phartneriaid mewn amgylchiadau anodd i letya a chefnogi Wcreiniaid.” Er gwaethaf gwerthusiad cadarnhaol o’r dull gweithredu cyffredinol, amlygodd ei adroddiad y pwysau a roddwyd ar y gwasanaethau cyhoeddus.
Mae rhagor o fanylion am gymhwysedd a phrosesau ymgeisio ar gael yn Gwneud cais i gynllun Estyniad Caniatâd Wcráin. |
Masnach Cymru gydag Wcráin a Rwsia
Mae masnach Cymru gyda'r ddwy wlad yn parhau ar raddfa lai. Er bod masnach â Rwsia wedi gostwng yn fwy sydyn ers i’r rhyfel ddechrau, mae Cymru’n parhau i fasnachu rhagor o ran gwerth â Rwsia nag y mae ag Wcráin.
Ymhlith partneriaid masnachu Cymru, mae Wcráin yn safle 82 ar gyfer mewnforion a safle 67 ar gyfer allforion. Mae Rwsia yn safle 86 ar gyfer mewnforion a 65 ar gyfer allforion.
Ers 2020, mae Cymru wedi allforio rhagor o nwyddau i Wcráin nag y mae'n ei fewnforio, ond mae’r rhyfel wedi effeithio ar fewnforion i raddau helaethach.
Mae'r ystadegau diweddaraf, hyd at y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, yn dangos bod gwerth masnach gydag Wcráin wedi gostwng 19.9% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sef o £14.1 miliwn i £11.3 miliwn. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o 28% yng ngwerth mewnforion i Gymru o’r Wcráin (o £2.5 miliwn i £1.8 miliwn) a gostyngiad o 18.8% yng ngwerth allforion o Gymru i Wcráin (o £11.7 miliwn i £9.5 miliwn).
Roedd prif allforion Cymru i Wcrain yn ôl gwerth mewn peiriannau ac offer trafnidiaeth (£2.4 miliwn) a'i phrif fewnforion o Wcráin oedd haearn a dur (£0.5 miliwn).
Mae’r siart isod yn dangos masnach rhwng Cymru ac Wcráin mewn nwyddau dros gyfnod o ddeng mlynedd. Mae mewnforion haearn a dur yn cyfrif am werthoedd mewnforio cynyddol rhwng 2017-2019.
Masnach rhwng Cymru ac Wcráin yn ôl gwerth (2013-2023)
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru Masnach nwyddau rhyngwladol - dangosfwrdd rhyngweithiol
Rhwng 2021 a 2022, gostyngodd gwerth masnach nwyddau rhwng Cymru a Rwsia 58.7% i £191.5 miliwn. Roedd hyn yn cynnwys cwymp o 55% yng ngwerth mewnforion Rwsiaidd i Gymru a gostyngiad o 70.5% yng ngwerth allforion o Gymru i Rwsia.
Mae’r ystadegau diweddaraf, hyd at y flwyddyn yn diweddu fis Medi 2024, yn dangos gostyngiadau sydyn parhaus mewn gwerth masnach o 31.2%, sef o £17 miliwn i £11.7 miliwn, o gymharu â’r cyfnod blaenorol. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad mewn gwerthoedd mewnforio o Rwsia i Gymru o 74% o £5 miliwn i £1.3 miliwn a gostyngiad mewn gwerthoedd allforio o Gymru i Rwsia o 13.3%, sef o £12 miliwn i £10.4 miliwn.
Prif allforion Cymru yn ôl gwerth i Rwsia oedd cynnyrch llaeth ac wyau adar (£6.7 miliwn) a’i phrif fewnforion o Rwsia oedd metelau (£0.9 miliwn).
Masnach rhwng Cymru a Rwsia yn ôl gwerth (2013-2023)
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Masnach nwyddau rhyngwladol:dangosfwrdd rhyngweithiol
Partneriaeth 100 mlynedd: gwawr newydd ar gyfer cysylltiadau rhwng y DU ac Wcráin
Fel rhan o’i waith craffu ar gytundebau rhyngwladol, bu'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystyried partneriaeth 100 mlynedd newydd rhwng y DU ac Wcráin. Cyhoeddwyd y Cytundeb Partneriaeth gan Lywodraeth y DU ar 20 Ionawr 2025. Cadarnhaodd Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Chwefror fod ymgynghori wedi digwydd â Llywodraeth Cymru ar destun y Cytundeb.
Mae naw “colofn” cydweithredu yn cynnwys amddiffyn a diogelwch, cyfnewidiadau o ran diwylliant a rhwng ysgolion, Cynllun Dilysu Grawn, deialog strategol reolaidd rhwng y llywodraethau, a rhagor.
Dywedodd David Lammy AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, y Gymanwlad a Datblygu, Llywodraeth y DU
If Putin wins in Ukraine, the post-war order […] which has kept us all safe for more than eight decades, will be seriously undermined.
Foundational principles of sovereignty and territorial integrity will be shaken, and a more dangerous world will result.
That is why the Government will not falter […] and it is why we stand firmly with Ukraine, today, tomorrow, and for generations to come.
Yr wythnos hon, bydd Unol Daleithiau America a Rwsia yn cyfarfod yn Sawdi Arabia i drafod dyfodol Wcráin. Bydd arweinwyr gwleidyddol Ewrop hefyd yn cyfarfod ar gyfer trafodaethau brys ym Mharis. Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud ei fod wedi paratoi ac yn barod i gyfrannu at sicrwydd diogelwch i Wcrain drwy roi ein milwyr ein hunain ar waith os bydd angen.
Mae rhagor o wybodaeth am gefnogaeth y DU i Wcráin ar gael ar wefan Llywodraeth y DU. |
Erthygl gan Claire Thomas, Sara Moran a Maddy Phillips, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru