Beth nesaf ar gyfer hawliau dynol yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 10/12/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw yw Diwrnod Hawliau Dynol. Ar y diwrnod hwn ym 1948, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Mae'r ddogfen nodedig hon yn nodi’r hawliau sy’n gymwys i bawb – waeth beth fo'u hil, eu lliw, eu crefydd, eu rhyw, eu hiaith, eu barn wleidyddol neu farn arall, eu cefndir cenedlaethol neu gymdeithasol, eu heiddo, eu genedigaeth neu statws arall.

Ers hynny mae llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i amrywiaeth o gytuniadau hawliau dynol rhyngwladol. Y mwyaf arwyddocaol yw'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (y Confensiwn), sy'n diogelu'r hawl i fywyd, i ryddid, i fywyd preifat a theuluol, i ryddid gwasanaeth a rhyddid mynegiant, ymhlith pethau eraill.

Mae'r hawliau hyn yn gymwys yn y DU a Chymru o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus (fel awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a'r heddlu) barchu a diogelu'r hawliau hyn ym mhopeth a wnânt. Os bydd unrhyw achosion o dorri'r confensiwn, gall unigolion herio'r hawliau hyn drwy'r llysoedd.

Wrth i ni nodi'r dathliad rhyngwladol hwn, mae'r pandemig wedi ein hatgoffa bod anghydraddoldeb yn parhau ym mhob agwedd bron ar fywyd.

Mae datblygiadau eraill a allai gael effaith ar gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, gan gynnwys cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol a chyflwyno Bil Hawliau Dynol yn ei lle.

Dull penodol i Gymru o ymdrin â hawliau dynol

Er nad yw hawliau dynol wedi'u datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd nifer o gamau i wella a chryfhau hawliau pobl sy'n byw yng Nghymru.

Mae hawliau dynol rhyngwladol wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru drwy 'gorffori anuniongyrchol' gan ddefnyddio'r mecanwaith 'sylw dyledus'. Yn syml, mae hyn yn golygu bod dyletswyddau'n cael eu rhoi ar awdurdodau perthnasol i ystyried hawliau dynol penodedig wrth arfer swyddogaethau penodol.

Mae tair enghraifft o gorffori anuniongyrchol yng nghyfraith Cymru:

Mae Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru yn mynd ymhellach na Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Lloegr ac yn gorfodi Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus rhestredig i wneud Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb.

Mae Cymru hefyd wedi arloesi wrth ddeddfu ar gyfer llesiant drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau ar gydraddoldeb.

Rhoddwyd dyletswydd arall ar gyrff cyhoeddus Cymru (fel Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a byrddau iechyd) ar 31 Mawrth 2021. Mae’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o dan Ddeddf Cydraddoldeb y DU 2010 yn rhoi dyletswydd ar rai cyrff cyhoeddus yng Nghymru i ystyried sut y gall eu penderfyniadau strategol wella anghydraddoldeb o ran canlyniad i bobl sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi rhagor o ymrwymiadau o ran hawliau dynol yn ei Rhaglen Lywodraethu.

Cryfhau a hyrwyddo hawliau dynol

Ym mis Ionawr 2020, comisiynodd Llywodraeth Cymru waith ymchwil i ystyried sut i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Yn sgil y gwaith ymchwil, nodwyd nifer o faterion â'r fframwaith deddfwriaethol a pholisi presennol ar hawliau dynol a chydraddoldeb, gan gynnwys:

  • diffyg cysylltiad rhwng polisi a deddfwriaeth o ran hawliau dynol, cydraddoldeb a llesiant a diffyg eglurder ynghylch blaenoriaethau a chyfrifoldebau;
  • amserlenni anghyson ar gyfer cynllunio ac adrodd ar ddyletswyddau cydraddoldeb a llesiant;
  • bod deddfwriaeth llesiant yn aneffeithiol o ran diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol;
  • diffyg hawliau y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol a bwlch cyflawni rhwng polisi cydraddoldeb a hawliau dynol a phrofiadau bywyd pobl;
  • asesiadau gwael o'r effaith ar gydraddoldeb sy'n aml yn cael eu hystyried yn ymarfer 'blwch ticio', sy’n digwydd yn rhy hwyr yn y broses bolisi, a ddim yn cynnwys pobl yn yr asesiad;
  • diffyg hyder yn y dulliau monitro cyfredol i adlewyrchu cynnydd o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yn briodol;
  • rhwystrau i unigolion sydd am herio sut mae'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn eu trin, a chwestiynu sut y gwneir penderfyniadau yn eu cylch.

Deddf Hawliau Dynol i Gymru?

Mae'r adroddiad yn cynnwys 40 o argymhellion manwl i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, drwy gyflwyno Deddf Hawliau Dynol (Cymru).

Mae’r adroddiad yn argymell cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i weithredu hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru ac i wneud hawliau dynol rhyngwladol dethol yn rhan o gyfraith Cymru y gellir eu gorfodi gan lys neu dribiwnlys.

Nid oedd yr adroddiad yn cadarnhau pa hawliau dynol rhyngwladol y dylid eu mabwysiadu, ond awgrymodd y dylid dilyn trywydd tebyg i'r Alban. Mae Llywodraeth yr Alban wedi sefydlu tasglu annibynnol i ystyried yr opsiynau ar gyfer cyflwyno mathau cryfach o ymgorffori a mwy o atebolrwydd cyfreithiol am ddiffyg cydymffurfiaeth nag sydd ar gael ar hyn o bryd drwy'r dull 'sylw dyledus'.

Clywodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ym mis Tachwedd y bydd sefydlu tasglu yn fater brys os yw Llywodraeth Cymru am gyflwyno deddfwriaeth yn y Chweched Senedd.

Gallwch wylio sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor gydag awduron yr adroddiad ar Senedd TV neu ddarllen y trawsgrifiad.


Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru