blociau pren wedi'u paentio fel baneri Cymru ac Wcráin yn cwrdd yn y canol

blociau pren wedi'u paentio fel baneri Cymru ac Wcráin yn cwrdd yn y canol

Cymru ac Wcráin: bedair blynedd yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 18/02/2026

Ddydd Mawrth 24 Chwefror 2026, bydd hi’n bedair blynedd, neu’n 1,461 o ddiwrnodau, ers i Rwsia lansio ei hymosodiad llawn ar Wcráin. Yn y dyddiau dilynol, dros 2,000 cilomedr i ffwrdd yn y Senedd, unodd pleidiau gwleidyddol Cymru i gondemnio hyn, wrth i faner Wcráin gael ei chodi ac i oleuadau'r adeilad ddisgleirio’n felyn a glas. Roedd yr ymateb mor eang ag effeithiau'r rhyfel, a ail-luniodd y drefn fyd-eang mewn wythnosau.

Saith mlynedd ynghynt, mabwysiadodd NATO Ddatganiad Cymru ar dir cartref yn 2014. Yn gynharach y flwyddyn honno, cafodd Crimea ei chipio gan Rwsia, a phan ymgynullodd arweinwyr y gorllewin yng Nghasnewydd chwe mis yn ddiweddarach, fe wnaethant ddefnyddio Datganiad yr uwchgynhadledd i rybuddio bod gweithredoedd ymosodol Rwsia yn erbyn Wcráin wedi herio ein gweledigaeth o Ewrop gyfan, rydd, a heddychlon.

Mae'r erthygl hon yn nodi pedair blynedd ers yr ymosodiad. Mae'n olrhain cefnogaeth y Senedd a Llywodraeth Cymru i Wcráin ac yn dilyn ein herthyglau blaenorol, a restrir ar waelod y dudalen hon, gyda lincs i wybodaeth ddefnyddiol arall.  

Cefnogaeth drawsbleidiol i Wcráin

Nid yw cefnogaeth yr Aelodau i Wcráin wedi diflannu. Yn dilyn rhodd gychwynnol o £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru, anfonwyd offer a chyflenwadau meddygol. Mae Aelodau wedi ymweld ag Wcráin, gan gynnwys Mick Antoniw AS ac Alun Davies AS, sy'n parhau i anfon cerbydau a chyflenwadau yn rheolaidd â gwerth o fwy nag £1 miliwn hyd yn hyn.

Mae'r Senedd wedi pasio sawl cynnig trawsbleidiol yn condemnio Rwsia, yn mynegi undod ag Wcráin a'i phobl, ac yn rhybuddio am effeithiau parhaol y rhyfel, megis yr effaith ar ddiogelwch bwyd byd-eang. Dros y pedair blynedd diwethaf, cafodd Wcráin ei chrybwyll tua 600 o weithiau yn nogfennau a thrafodion y Senedd.

Mae enghreifftiau o alwadau gan Aelodau unigol yn cynnwys cefnogaeth i ymchwiliad gan y Llys Troseddol Rhyngwladol, i longau cargo o Rwsia gael eu dargyfeirio i ffwrdd o borthladdoedd Cymru ac i embargos ynni ac economaidd. Fe wnaeth Aelodau dalu teyrnged i luoedd arfog Cymru yn amddiffyn ystlys ddwyreiniol NATO yn Estonia, codi pryderon am fasnachu menywod a phlant er mwyn camfanteisio arnynt yn rhywiol Fe wnaethant hefyd amlinellu’r camau a gymerwyd gan Gomisiwn y Senedd i ddadfuddsoddi o ddaliannau yn Rwsia.

Rhannu diwylliant, rhannu hanes

Bob mis Tachwedd, mae'r Senedd yn coffáu Holodomor, y newyn dinistriol a achoswyd yn Wcráin gan Stalin ac a ddatgelwyd gyntaf gan Gareth Jones, y newyddiadurwr o Gymru, ym 1933.

92 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ymchwiliodd Aelodau o Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i rôl Cymru yn y cytundeb partneriaeth 100 mlynedd rhwng y DU ac Wcráin. Mewn gohebiaeth â'r Pwyllgor, fe wnaeth y Prif Weinidog amlinellu "cefnogaeth ddiwyro [Llywodraeth Cymru] i'r Wcráin a'i phobl" a rôl Cymru o ran cyflawni'r cytuniad hanesyddol.

Caiff hyn ei adlewyrchu hefyd yn y gefnogaeth gan gymdeithas sifil. Ar gyfer digwyddiad i ddathlu pobl o Wcráin yng Nghymru, fe wnaeth Cyngor Ffoaduriaid Cymru ystyried yr hanes y mae’r ddwy wlad yn ei rannu, gan gynnwys y diwydiant mwyngloddio a gwerthfawrogiad dwfn o farddoniaeth a llenyddiaeth. Mae casgliad y Sefydliad Materion Cymreig ynglŷn â’r rhyfel yn cynnig dadansoddiad manwl, tra bod arddangosfeydd celf wedi'u cynnal yng Nghaerffili, Pwllheli, Abertawe a thu hwnt. Ym mis Medi 2025, gwnaeth British Council Cymru yr achos o blaid pam mae’r cysylltiadau diwylliannol ag Wcráin yn bwysicach nag erioed ar ôl i'w swyddfa yn Kyiv gael ei bomio:

Even from 1,400 miles away, we can choose connection over silence. Creativity over destruction. Hope over fear. Culture reminds us of our shared humanity. And right now, that matters more than ever.

Cenedl Noddfa

O'r tri llwybr fisa i'r rhai sy'n ceisio noddfa a agorwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth y DU, dim ond y cynllun Cartrefi i Wcráin sy'n parhau i fod ar agor. Mae Cartrefi i Wcráin yn parhau i ganiatáu i unigolion noddi ffoaduriaid a darparu llety, ond bu sawl newid i'r cynllun gwreiddiol.

Drwy’r cynllun hwn, daeth Llywodraeth Cymru yn 'uwch-noddwr', gan ddarparu llety cychwynnol a chymorth uniongyrchol i ychydig dros 3,000 o'r 8,328 amcangyfrifedig o ffoaduriaid Wcráin a ddaeth i Gymru drwy'r cynllun.

Nifer y ceisiadau am fisa a fisâu a roddwyd drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin fel ym mis Medi 2025

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU

Ynghyd â nawdd, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth ychwanegol fel rhan o'i rhaglen Cenedl Noddfa, gan gynnwys darparu llinell gymorth am ddim, cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ddarparu gwasanaeth cymorth arbenigol Wcráin, ac ariannu'r elusen Settled i ddarparu cyngor mewnfudo. Hyd at fis Ebrill 2024, bu hefyd yn cynnig teithio am ddim ar fysiau a threnau.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Reform UK wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y cynllun Cenedl Noddfa, gan godi materion ynghylch y gost a'r ffaith mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am reolaeth fewnfudo. Mae’r polisi wedi cael ei feirniadu’n ehangach, er bod Aelodau unigol o'r ddwy blaid yn parhau i fynegi cefnogaeth tuag at ffoaduriaid Wcráin.

Yn ddiweddar, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod £58.22 miliwn wedi'i wario ar yr ymateb i Wcráin. Mae hyn yn cyfrif am 91% o holl wariant Cenedl Noddfa rhwng 2019 a 2025, sy'n dangos y cyfeiriwyd mwyafrif llethol cyllideb y rhaglen at gefnogi pobl a ddaeth o Wcráin.

Croeso Cymreig

Amcangyfrifir bod 4,936 o bobl o Wcráin wedi cael eu noddi gan unigolion sy’n byw yng Nghymru ac mae yna lawer o enghreifftiau o gymunedau yn dod at ei gilydd i’w croesawu. Mae enghreifftiau fel Ukrainian Hub Cymru yng Nghaerdydd yn dangos ymdrechion i ddarparu cymorth. Fe wnaeth y Prif Weinidog ddadorchuddio plac coffa yn y ganolfan hon, a oedd yn dweud “it began as a response to a crisis but blossomed into something remarkable”.

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU

Mae pobl o Wcráin hefyd wedi cael eu helpu i integreiddio i fywyd yng Nghymru, gan sefydlu busnesau yng Nghymru, cyfrannu at brosiectau cymunedol a'r sector addysg, a dysgu Cymraeg.

Mae cyrff cyhoeddus Cymru a'r trydydd sector wedi chwarae rôl hanfodol yn cefnogi'r cynllun Cartrefi i Wcráin ac yn cyhoeddi canllawiau ar ba gymorth sydd ar gael i ffoaduriaid Wcráin. Mae awdurdodau lleol hefyd wedi ymrwymo i ddadfuddsoddi o Rwsia, gan gynnwys hyd at £200 miliwn mewn cynlluniau pensiwn

Fel rhan o'i ymchwiliad yn 2025 i gydlyniant cymdeithasol yng Nghymru, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol dystiolaeth gan ffoaduriaid o Wcráin a rannodd eu profiadau cadarnhaol o’u hamser yng Nghymru a'r gefnogaeth a gafwyd gan noddwyr.

Canfu adroddiad gan y Groes Goch Brydeinig, er bod rhai pobl o Wcráin wedi bwriadu dechrau dychwelyd pan oedd yn ddiogel, fod eu safbwyntiau wedi newid wrth iddynt ddechrau ailadeiladu eu bywydau yn y DU. Fel y dywedodd un person o Wcráin sy'n byw yng Nghymru wrthynt:

My son is why I’m so desperate to stay. In Ukraine, he struggled and had no friends. Here, he’s thriving in a great school and, for the first time, has close friends.

Mae penderfyniadau sy'n newid bywydau yn parhau i fod yn nwylo Llywodraeth y DU

Er bod llawer o bobl o Wcráin wedi ymgartrefu ac adeiladu bywyd yng Nghymru, mae penderfyniadau ynghylch a allant aros yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth y DU o hyd. Yn wahanol i fisâu safonol neu ganiatâd statws ffoaduriaid, nid yw cynlluniau fisa Wcráin yn cynnig llwybr i breswyliad parhaol. I ddechrau, caniataodd y fisâu arhosiad o dair blynedd ar y mwyaf.

Ym mis Ionawr 2024, cadarnhaodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, ei bod hi'n trafod yr angen am eglurder a llwybr i breswylio i bobl o Wcráin gyda Gweinidogion y DU yn rheolaidd. Roedd y Gweinidog hefyd yn cydnabod y gallai fod angen i Lywodraeth y DU weithio gyda Llywodraeth Wcráin i ddatblygu cynlluniau tymor hwy.

Ers mis Chwefror 2025, mae deiliaid fisa wedi gallu gwneud cais i'w estyn am 18 mis arall. Ers hynny, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ail estyniad o ddwy flynedd ychwanegol.

Mae cytundeb heddwch yn parhau i fod yn rhith

Wrth i'r rhyfel fynd i mewn i'w bumed flwyddyn, mae'r Center for Strategic and International Studies (melin drafod nid-er-elw yn Washington D.C.) wedi rhagweld y gallai colledion Wcreinaidd a Rwsiaidd gyrraedd dwy filiwn erbyn gwanwyn 2026.

Yn ôl y sôn, mae’r Arlywydd Zelensky yn paratoi i gyhoeddi etholiadau arlywyddol a refferendwm ar gytundeb heddwch 20 pwynt a arweiniwyd gan UDA. Dywedodd wrth y cyfryngau fod UDA wedi gosod dyddiad ym mis Mehefin i Wcráin a Rwsia lunio setliad heddwch.

Y tu mewn i'r Senedd, nid yw'r gefnogaeth i Wcráin wedi pylu. Mae baner Wcráin yn dal i chwifio y tu allan.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Llywodraeth y DU:

Llywodraeth Cymru:

Erthyglau gan Ymchwil y Senedd:

Erthygl gan Sara Moran, Claire Thomas a Nigel Barwise, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru