Mae’r canllaw hwn yn cyfeirio at ffynonellau cymorth i aelwydydd sy’n wynebu heriau o ran biliau ynni a/neu dlodi tanwydd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am grantiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a chymorth ehangach; cymorth a ddarperir gan gyflenwyr ynni a dŵr; cynlluniau effeithlonrwydd ynni; a ffynonellau eraill o gyngor a chymorth.
Erthygl gan Gareth Thomas, Claire Thomas a Liesl van de Vyver Blackman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Liesl van de Vyer Blackman gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a alluogodd yr erthygl hon i gael ei chwblhau.