Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-2023 – Dysgu rhagor am y gyllideb

Cyhoeddwyd 22/12/2021   |   Amser darllen munud

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 ar 20 Rhagfyr. 

Cliciwch i ddysgu rhagor am ddyraniadau allweddol y gyllideb.

Mae'r ffeithluniau isod yn crynhoi'r dyraniadau allweddol yn ôl adran y llywodraeth a sut mae'r rhain wedi newid ers y llynedd.

Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL): £18,827m (i fyny £2,458m neu 15.0 y cant). DEL Cyfalaf: £2,607m (i fyny £122m neu 4.9 y cant). Cyfanswm DEL: £21,434m (i fyny £2,580m neu 13.7 y cant). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £2,299m (i fyny £53m neu 2.3 y cant). Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £23,733m (i fyny £2,632m neu 12.5 y cant).

Tabl yn dangos cyfanswm y dyraniadau refeniw a chyfalaf yn ôl adran. Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £10,137m (i fyny £966m, neu 10.5 y cant). Cyllid a Llywodraeth Leol: £4,609m (i fyny £489m neu 11.9 y cant). Newid Hinsawdd: £2,756m (i fyny £363m neu 15.2 y cant). Addysg a'r Gymraeg: £2,531m (i fyny £622m neu 32.6 y cant). Economi: £527m (i fyny £48m neu 9.9 y cant). Materion Gwledig: £393m (i fyny £37m neu 10.3 y cant). Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu: £354m (i fyny £32m, neu 10.1 y cant). Cyfiawnder Cymdeithasol: £127m (i fyny £22m, neu 21.0 y cant).

 

*Heb gynnwys tua £1 biliwn mewn incwm ardrethi annomestig.

**Yn cynnwys dyraniad o £459 miliwn mewn refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.

Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 i gael yr union ffigurau.

Ceir eglurhad o derminoleg y gyllideb yng ngeirfa’r gyllideb.


Erthygl gan Martin Jennings Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru