Delwedd y clawr: Ffotograff tirwedd ongl uchel o dyrbinau gwynt a choetir ar ochr bryn.

Delwedd y clawr: Ffotograff tirwedd ongl uchel o dyrbinau gwynt a choetir ar ochr bryn.

Cyllideb Garbon 4: Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn argymell gostyngiad o 56% mewn allyriadau o lefelau 2023

Cyhoeddwyd 05/08/2025

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, daeth stormydd gaeaf niweidiol yn sgil tanau gwyllt mawr yn ystod gwanwyn poethaf Cymru erioed. Mae newid hinsawdd yn cynyddu amlder a dwyster digwyddiadau tywydd eithafol yn y DU, gydag effeithiau difrifol i Gymru. Er mwyn helpu i liniaru effeithiau mwyaf difrifol newid hinsawdd, a chyd-fynd â chytundebau rhyngwladol, mae Cymru wedi ymrwymo i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050.

Mae’r llwybr i sero net yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn pennu cyllidebau carbon sy’n capio allyriadau dros gyfnodau o bum mlynedd. Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU (y Pwyllgor) ei gyngor ar bennu lefel y Bedwaredd Gyllideb Garbon, sy’n cwmpasu’r cyfnod 2031-2035. Mae’r erthygl hon yn edrych ar argymhellion y Pwyllgor, sut mae’r rhain yn croestorri â pholisi presennol Llywodraeth Cymru, a rhai ymatebion cynnar.

Beth yw’r Pwyllgor Newid Hinsawdd?

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn gorff cynghori annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008. Ei ddiben yw cynghori’r DU a llywodraethau datganoledig ar faterion sy’n ymwneud â newid hinsawdd. Mae ei rolau ffurfiol yng Nghymru yn cynnwys:

  • cynghori Llywodraeth Cymru ar gynlluniau lleihau allyriadau;
  • monitro cynnydd tuag at nodau hinsawdd presennol; a
  • darparu argymhellion ar ymaddasu i’r hinsawdd.

Y Bedwaredd Gyllideb Garbon: Targedu gostyngiad o 73% mewn allyriadau

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai’r targed allyriadau ar gyfer y Bedwaredd Gyllideb Garbon fod 73% yn is na’r flwyddyn waelodlin 1990 – sy’n cyfateb i ostyngiad o 56% o lefelau 2023, a ddangosir yn y graff isod. Gostyngodd allyriadau Cymru 38% rhwng 1990 a 2023.

Allyriadau tiriogaethol, targedau a chyllidebau carbon Cymru, 1990 i 2050 

Ffynhonnell: Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol y DU (NAEI), Llywodraeth Cymru, Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU

Sut y gellid cyflawni’r gyllideb?

Nid yw’r Pwyllgor yn nodi’n benodol sut y dylai Llywodraeth Cymru gyflawni ei thargedau. Mae’n awgrymu ‘Llwybr Cytbwys’ – model o sut y gallai allyriadau ym mhob sector newid i gyrraedd targedau lleihau statudol. Mae hyn yn cyd-fynd ag argymhellion lefel uchel, a drafodir isod.

Yn y pen draw, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw datblygu polisïau penodol i gyflawni ei thargedau. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn nodi yn Strategaeth Sero Net Cymru ei pholisïau i gyflawni’r Ail Gyllideb Garbon (2021-2025).

Amaethyddiaeth: llai o dda byw ac arferion sy’n newid

Roedd amaethyddiaeth yn gyfrifol am 15% o allyriadau Cymru yn 2023. Mae’r Pwyllgor yn rhagweld gostyngiad o 30% mewn allyriadau amaethyddol erbyn 2033, a gyflawnir mewn rhannau cyfartal drwy ddefnyddio arferion a thechnolegau ffermio carbon isel (e.e. lleihau allyriadau gwrtaith a defnyddio peiriannau trydan), a thrwy leihau nifer y gwartheg a’r defaid 19% o’i gymharu â lefelau 2022.

Mae’r argymhelliad o ran da byw eisoes wedi bod yn ddadleuol – gwrthododd NFU Cymru y cyngor yn gadarn, a dywed y byddai’n arwain at effeithiau niweidiol ar yr economi a chymunedau gwledig.

Defnyddio tir: diwygio’r targedau plannu coetir

Gall coed, perthi a mawndir gael gwared ar nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer drwy gloi carbon mewn biomas a phridd. Mae’r Pwyllgor yn awgrymu nod plannu coed llai uchelgeisiol ar gyfer 2030 na’r hyn a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021. Fodd bynnag, mae’n argymell creu 220,000 hectar o goetir newydd erbyn 2050, yn uwch na’r targed presennol o 180,000 hectar. Mae nifer y coed sydd wedi’u plannu mewn gwirionedd hyd yma wedi gostwng yn gyson ymhell yn fyr o darged Llywodraeth Cymru.

Plannu coed - data cronnus gwirioneddol a rhagamcanol, 2020 i 2050 

Ffynhonnell: Forest Research, Llywodraeth Cymru, Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU

Mae’r Pwyllgor hefyd yn rhagweld cynnydd yn y coed a’r perthi sy’n cael eu plannu ar ffermydd. Yn ddadleuol, roedd Cynllun Ffermio Cynaliadwy drafft gwreiddiol Llywodraeth Cymru yn gofyn am o leiaf 10% o orchudd coed ar ffermydd. Yn lle’r rhwymedigaeth hon, cyflwynwyd “cynllun cyfle i blannu coed a pherthi” yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy terfynol, gyda chymhellion dewisol ar gyfer plannu coed a pherthi ychwanegol.

Trafnidiaeth arwyneb: mwy o ddefnydd o gerbydau trydan

Cyfrannodd trafnidiaeth arwyneb 16% o gyfanswm allyriadau Cymru yn 2023, gan sicrhau mai hwnnw yw’r ail sector sy’n llygru fwyaf. Mae’r Pwyllgor yn modelu gostyngiad o 48% yn allyriadau’r sector hwn erbyn 2033, wedi’i sbarduno gan y defnydd o gerbydau trydan. Mae’r Pwyllgor yn rhagweld y bydd cerbydau trydan yn sicrhau cyfran o 89% o werthiannau ceir newydd yng Nghymru erbyn 2030. Mae mandad gan Lywodraeth y DU yn golygu bod rhaid i bron pob car a fan newydd fod yn rhai nad ydynt yn cynhyrchu unrhyw allyriadau erbyn 2035.

Mae’r Llwybr hefyd yn rhagweld y bydd 6% o’r teithiau a wneir ar hyn o bryd mewn car yn cael eu cwblhau drwy drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Nod cynlluniau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw gostwng 10% y pellter sy’n cael ei deithio mewn car fesul person rhwng 2019 a 2030.

CAdeiladau: pympiau gwres ac inswleiddio

Mae systemau gwresogi sy’n seiliedig ar danwydd ffosil yn golygu bod adeiladau preswyl yn ffynonellau sylweddol o allyriadau. Dim ond 9% o gartrefi sy’n defnyddio pwmp gwres trydan ar hyn o bryd, ond mae’r Pwyllgor yn disgwyl i hyn godi i 23% erbyn 2033. Mae’n nodi bod Cymru a’r DU gyfan yn fawr ar ei hôl hi o ran gosodiadau pwmp gwres o’i gymharu â gwledydd eraill Ewrop.

Mae’r Pwyllgor yn disgwyl i ostyngiadau allyriadau pellach gael eu cyflawni drwy osod mesurau arbed ynni (fel inswleiddio) mewn cartrefi, defnyddio offer cartref effeithlon, a newid mewn ymddygiad.

Gyda’i gilydd, mae’r Pwyllgor yn disgwyl gostyngiad o 20% mewn allyriadau adeiladau o’r datblygiadau hyn.

Gwastraff: llai o ddefnydd a dal a storio carbon

Mae allyriadau gwastraff wedi gostwng 69% er 1990 – y mwyaf mewn unrhyw sector. Mae’r Pwyllgor yn rhagweld gostyngiad pellach o 26% erbyn 2033, a byddai ei hanner yn dod o atal cynhyrchu gwastraff. Byddai’r rhan fwyaf o’r gweddill yn dod o ddefnyddio mesurau dal a storio carbon yn nwy ffatri Ynni o Wastraff Cymru.

Sectorau sydd wedi’u cadw’n ôl yn bennaf: chwyldro ynni adnewyddadwy a thrydaneiddio

Roedd sectorau sydd wedi’u cadw’n ôl yn bennaf – y rhai lle mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am fwyafrif y liferi polisi – yn cynnwys 57% o allyriadau Cymru yn 2023 (a ddangosir isod), ond maent hefyd wedi dioddef gostyngiadau absoliwt mwy er 1990 na sectorau sydd wedi’u datganoli’n bennaf. Bydd datgarboneiddio sectorau sydd wedi’u cadw’n ôl ymhellach, sydd wedi’i sbarduno gan bolisi Llywodraeth y DU, yn bwysig wrth gyflawni’r Bedwaredd Gyllideb Garbon.

Allyriadau tiriogaethol Cymru yn 2023 yn ôl sector

Ffynhonnell: NAEI

*Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ystyried bod ‘trafnidiaeth wyneb’ ac ‘adeiladau’ wedi’u datganoli’n rhannol.

†Mae newid defnydd tir, gan gynnwys coedwigaeth a mawndiroedd, yn sinc net o nwyon tŷ gwydr. Felly mae 'allyriadau' y sector hwn yn negyddol.

Mae’r Pwyllgor yn disgwyl i ffynonellau ynni adnewyddadwy (gwynt a solar yn bennaf) ddarparu 78% o gyflenwad trydan Cymru erbyn 2033, gan arwain at ostyngiad o 85% mewn allyriadau sy’n gysylltiedig â chyflenwi trydan o’i gymharu â 2022.

Mae allyriadau sy’n gysylltiedig â chyflenwi tanwydd, yn bennaf o burfeydd olew, yn gostwng 52% erbyn 2033 yn y Llwybr Cytbwys. Daw tua hanner y gostyngiad hwn o’r galw llai am olew sy’n gysylltiedig â defnyddio cerbydau trydan. Mae gostyngiadau pellach yn deillio o leihau gollyngiadau yn y rhwydwaith cyflenwi nwy a thrydaneiddio generaduron tanwydd ffosil.

Ar hyn o bryd, mae hedfanaeth yn cynnwys llai nag 1% o allyriadau Cymru. Mae’r Pwyllgor yn rhagweld ychydig o newid rhwng nawr a 2033, ond mae’r galw llai a mabwysiadu tanwydd hedfan cynaliadwy yn atal cynnydd pellach.

Disgwylir i allyriadau diwydiannol ostwng 78% rhwng 2022 a 2033 yn y Llwybr Cytbwys – mae'r mwyafrif helaeth o hyn yn deillio o drydaneiddio prosesau diwydiannol sy’n cynnwys gwres. Daeth mwy na hanner allyriadau diwydiannol Cymru cyn 2024 o’r ffwrneisi chwyth glo-ddwys yng ngwaith dur Port Talbot, sef ail ffynhonnell fwyaf allyriadau’r DU yn 2023. Caeodd y ffwrneisi chwyth ddiwedd 2024 ac mae ffwrnais arc drydan yn cymryd eu lle.

Gwersi o Bort Talbot

Mae’r gwaith o bontio i economi werdd yn cyflwyno heriau, yn ogystal â chyfleoedd. Mae adroddiad y Pwyllgor yn mynd i’r afael â meysydd o’r economi y gall y trawsnewidiad Sero Net effeithio’n andwyol arnynt. Mae’n beirniadu ffordd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ymdrin â chau ffwrneisi chwyth Port Talbot a’i effaith ar weithwyr, gan ddweud y dylai cynllun pontio mwy rhagweithiol a phenderfynol fod wedi’i roi ar waith i liniaru effeithiau ar yr economi leol. Mae’n cymell llywodraethau i ddysgu gwersi o’r profiad ac yn eu hannog i fod yn fwy beiddgar wrth ymyrryd i liniaru effeithiau andwyol lle nad yw’r sector preifat ar ei ben ei hun yn gallu gwneud hynny.

Beth nesaf?

Mae gan Lywodraeth Cymru 25 mlynedd i atal cyfraniad Cymru at newid hinsawdd. Ar hyn o bryd, mae ar y trywydd iawn i gyflawni’r Ail Gyllideb Garbon, ond yn nodi y bydd cyflawni’r Drydedd Gyllideb Carbon “yn heriol dros ben a bydd angen penderfyniadau anodd ar draws pob portffolio gweinidogol”. Rhaid i Lywodraeth Cymru bennu lefel y Bedwaredd Gyllideb Garbon mewn Rheoliadau, gan ystyried cyngor y Pwyllgor, cyn diwedd 2025.

Erthygl gan Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.