Cyfarpar a phibellau gwaith dur Tata ym Mhort Talbot gydag allyriadau ager yn y blaendir a'r machlud yn y cefndir.

Cyfarpar a phibellau gwaith dur Tata ym Mhort Talbot gydag allyriadau ager yn y blaendir a'r machlud yn y cefndir.

Bodloni sero-net: dal, defnyddio a storio carbon ar gyfer lleihau allyriadau CO2

Cyhoeddwyd 20/09/2022   |   Amser darllen munudau

Nwy tŷ gwydr yw carbon deuocsid (CO2), a chaiff ei ryddhau drwy brosesau naturiol megis echdoriadau llosgfynyddoedd a gweithgareddau dynol, gan gynnwys llosgi tanwydd ffosil. Mae gweithgareddau dynol wedi cynyddu'r crynodiad atmosfferig o CO2 dros 50 y cant ers dechrau'r chwyldro diwydiannol.

Mae'r crynodiad cynyddol o CO2 a nwyon tŷ gwydr eraill yn yr atmosffer yn ysgogi newid hinsawdd a chodi tymheredd cyfartalog byd-eang ac amlder a difrifoldeb digwyddiadau tywydd eithafol. Prif ffynonellau allyriadau CO2 yng Nghymru yw’r defnydd diwydiannol a domestig o danwydd ffosil ar gyfer gwres a phŵer, amaethyddiaeth, trafnidiaeth, a hedfannau rhyngwladol.

Ym mis Mawrth 2021, gwnaeth y Senedd ddeddfau ar gyfer cyfres o dargedau allyriadau i gyrraedd allyriadau sero-net erbyn 2050. Rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ar gyfer cyrraedd targedau sero-net yn dilyn argymhellion gan Bwyllgor Newid Hinsawdd Senedd y DU (CCC). Y prif lwybrau i leihau allyriadau yng Nghymru yw:

  • effeithlonrwydd adnoddau ac ynni;
  • defnyddio tanwydd carbon isel yn lle tanwydd ffosil;
  • cynyddu effeithlonrwydd adeiladau; a
  • dal a storio allyriadau CO2 sydd dros ben.

Mae ein cyhoeddiad newydd yn rhoi cefndir gwyddonol a thechnolegol i ddal, defnyddio a storio carbon (CCUS). Mae'n amlinellu'r rôl y gallai CCUS ei chwarae tuag at gyrraedd targedau allyriadau Cymru a'r cyfleoedd sy'n benodol i'r sector ar gyfer CCUS yng Nghymru. Mae hefyd yn crynhoi swyddogaeth cynhyrchu pŵer a alluogir gan CCUS mewn grid trydan carbon isel yn y dyfodol ac yn darparu cyd-destun polisi ehangach i Gymru a'r DU.

Darllenwch y briff yma: Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS) yng Nghymru

Ffigur 1: Egwyddor sylfaenol y system CCS

Ffynhonnell: Ymchwil Senedd Cymru o Bellona, CCS

Erthygl gan Michael High, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru