Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18

Cyhoeddwyd 21/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Rhagfyr 2016 Erthygl gan Owen Holzinger a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ffeithlun yn dangos y prif ffigurau ar gyfer Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. Cafodd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi ar 20 Rhagfyr. Cyhoeddwyd datganiad yr hydref ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb ddrafft ac arweiniodd hynny at newidiadau yn y cyllid sydd ar gael ar gyfer Cymru. Roedd datganiad yr Hydref yn cynnwys £442 miliwn mewn cyfalaf ychwanegol a £35.8 miliwn mewn refeniw dros bum mlynedd (2016-17 i 2020-21). Mae hyn yn cynnwys £23.4 miliwn o refeniw (o hyn, mae £13.7 miliwn yn ymwneud â chyllid o ganlyniad i bolisi ardoll prentisiaethau'r DU) a £70.9 miliwn o gyfalaf ar gyfer 2017-18. Mae'r prif newidiadau rhwng Cyllideb ddrafft a Chyllideb derfynol Llywodraeth Cymru fel a ganlyn: Dyrannwyd £46 miliwn o gyllid refeniw o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2017-18, gan gynnwys:
  • refeniw ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol;
  • £1.7 miliwn yn ychwanegol i ddarparu cymorth ariannol i bobl yr effeithiwyd arnynt gan waed halogedig a gyflenwyd gan y GIG;
  • refeniw ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes;
  • £6 miliwn yn ychwanegol i helpu i atal digartrefedd;
  • refeniw ychwanegol o £15.5 miliwn ar gyfer prentisiaethau (gan gynnwys £0.5 miliwn ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu);
  • cyllid refeniw ychwanegol o £3.2 miliwn i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.
Mae cyllid cyfalaf ychwanegol o £52 miliwn wedi cael ei ddyrannu o'r cronfeydd wrth gefn yn 2017-18, (mae £337 o gyfalaf wedi'i ddyrannu dros gyfnod o bedair blynedd 2017-18 i 2020-21), gan gynnwys:
  • £6.5 miliwn o gyfalaf ychwanegol i wella'r ystâd iechyd a chyflymu arloesedd yn 2017-18 (£41.5 miliwn dros bedair blynedd hyd at 2020-21);
  • cyfalaf ychwanegol o £20 miliwn yn 2017-18 i gyflymu'r ymrwymiad i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn diwedd y Cynulliad hwn (£53.4 miliwn dros bedair blynedd);
  • £7 miliwn yn ychwanegol i gefnogi cynlluniau ffyrdd a thrafnidiaeth (£83 miliwn o gyfalaf dros bedair blynedd, gan gynnwys £15 miliwn ar gyfer y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol);
  • £10 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gyfer mesurau arbed ynni (£40 miliwn dros bedair blynedd);
  • £3 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gyfer mesurau lliniaru llifogydd (£33 miliwn dros bedair blynedd);
  • £5 miliwn o gyfalaf ychwanegol gefnogi cymunedau gwledig (£20 miliwn dros bedair blynedd);
  • swm ychwanegol o £50 miliwn ar gyfer adfywio dros bedair blynedd (£0 yn 2017-18);
  • cyfalaf ychwanegol o £16 miliwn dros bedair blynedd i 'adeiladu twf a ffyniant' (£0 yn 2017-18).
Dylid nodi, gan fod rhai o'r dyraniadau hyn yn cael eu gwneud dros bedair blynedd, mai'r cynnydd yn y DEL Cyfalaf ar gyfer 2017-18 yw £121.1 miliwn o gymharu â chyllideb atodol gyntaf 2016-17. Yn dilyn y dyraniadau hyn, mae'r gyllideb derfynol yn cynnwys £200 miliwn o refeniw yn y cronfeydd arian parod wrth gefn a £127 miliwn yn y cronfeydd cyfalaf wrth gefn a fydd ar gael i'w ddyrannu yn 2017-18. Bu nifer o fân addasiadau technegol rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, a amlinellir isod:
  • Symudiadau rhwng adrannau ar ôl cytuno ar wariant ac ad-daliadau ar gyfer cynllun Buddsoddi i Arbed 2017-18.
  • Addasiadau i gyllideb Swyddfa Archwilio Cymru yn sgil gosod amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru.
  • Addasiadau i ddyraniad y Llwybrau Diogel i Ysgolion (£0.5 miliwn) i drosglwyddo arian o refeniw i gyfalaf.
Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad craffu ar y gyllideb ddrafft. Caiff cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Derfynol 2017-18 ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Ionawr 2017.