Cyhoeddwyd 21/12/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
21 Rhagfyr 2016
Erthygl gan Owen Holzinger a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cafodd
cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi ar 20 Rhagfyr.
Cyhoeddwyd
datganiad yr hydref ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb ddrafft ac arweiniodd hynny at newidiadau yn y cyllid sydd ar gael ar gyfer Cymru. Roedd datganiad yr Hydref yn cynnwys £442 miliwn mewn cyfalaf ychwanegol a £35.8 miliwn mewn refeniw dros bum mlynedd (2016-17 i 2020-21). Mae hyn yn cynnwys
£23.4 miliwn o refeniw (o hyn, mae £13.7 miliwn yn ymwneud â chyllid o ganlyniad i bolisi ardoll prentisiaethau'r DU) a £70.9 miliwn o gyfalaf ar gyfer 2017-18.
Mae'r prif newidiadau rhwng
Cyllideb ddrafft a
Chyllideb derfynol Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:
Dyrannwyd £46 miliwn o gyllid refeniw o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2017-18, gan gynnwys:
- refeniw ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol;
- £1.7 miliwn yn ychwanegol i ddarparu cymorth ariannol i bobl yr effeithiwyd arnynt gan waed halogedig a gyflenwyd gan y GIG;
- refeniw ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes;
- £6 miliwn yn ychwanegol i helpu i atal digartrefedd;
- refeniw ychwanegol o £15.5 miliwn ar gyfer prentisiaethau (gan gynnwys £0.5 miliwn ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu);
- cyllid refeniw ychwanegol o £3.2 miliwn i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.
Mae cyllid cyfalaf ychwanegol o £52 miliwn wedi cael ei ddyrannu o'r cronfeydd wrth gefn yn 2017-18, (mae £337 o gyfalaf wedi'i ddyrannu dros gyfnod o bedair blynedd 2017-18 i 2020-21), gan gynnwys:
- £6.5 miliwn o gyfalaf ychwanegol i wella'r ystâd iechyd a chyflymu arloesedd yn 2017-18 (£41.5 miliwn dros bedair blynedd hyd at 2020-21);
- cyfalaf ychwanegol o £20 miliwn yn 2017-18 i gyflymu'r ymrwymiad i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn diwedd y Cynulliad hwn (£53.4 miliwn dros bedair blynedd);
- £7 miliwn yn ychwanegol i gefnogi cynlluniau ffyrdd a thrafnidiaeth (£83 miliwn o gyfalaf dros bedair blynedd, gan gynnwys £15 miliwn ar gyfer y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol);
- £10 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gyfer mesurau arbed ynni (£40 miliwn dros bedair blynedd);
- £3 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar gyfer mesurau lliniaru llifogydd (£33 miliwn dros bedair blynedd);
- £5 miliwn o gyfalaf ychwanegol gefnogi cymunedau gwledig (£20 miliwn dros bedair blynedd);
- swm ychwanegol o £50 miliwn ar gyfer adfywio dros bedair blynedd (£0 yn 2017-18);
- cyfalaf ychwanegol o £16 miliwn dros bedair blynedd i 'adeiladu twf a ffyniant' (£0 yn 2017-18).
Dylid nodi, gan fod rhai o'r dyraniadau hyn yn cael eu gwneud dros bedair blynedd, mai'r cynnydd yn y DEL Cyfalaf ar gyfer 2017-18 yw £121.1 miliwn o gymharu â chyllideb atodol gyntaf 2016-17.
Yn dilyn y dyraniadau hyn, mae'r gyllideb derfynol yn cynnwys £200 miliwn o refeniw yn y cronfeydd arian parod wrth gefn a £127 miliwn yn y cronfeydd cyfalaf wrth gefn a fydd ar gael i'w ddyrannu yn 2017-18.
Bu nifer o fân addasiadau technegol rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, a amlinellir isod:
- Symudiadau rhwng adrannau ar ôl cytuno ar wariant ac ad-daliadau ar gyfer cynllun Buddsoddi i Arbed 2017-18.
- Addasiadau i gyllideb Swyddfa Archwilio Cymru yn sgil gosod amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru.
- Addasiadau i ddyraniad y Llwybrau Diogel i Ysgolion (£0.5 miliwn) i drosglwyddo arian o refeniw i gyfalaf.
Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi
adroddiad craffu ar y gyllideb ddrafft.
Caiff cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer
Cyllideb Derfynol 2017-18 ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar
10 Ionawr 2017.