Cyhoeddwyd 03/03/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
03 Mawrth 2016
Erthygl gan Martin Jennings a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynhelir dadl ar gynnig cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer
Cyllideb Derfynol 2016-17 yn y
Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth 2016.
Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi’r
adroddiad craffu hwn ar y gyllideb.
Y prif newidiadau rhwng Cyllideb Ddrafft a Chyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru yw:
Refeniw - dyraniadau o £2.5 miliwn o gronfeydd wrth gefn:
Mae’r Gyllideb Derfynol yn gwrthdroi toriad arfaethedig o £374,000 i Gyngor Llyfrau Cymru. Caiff y cyllid hwn ei drosglwyddo o’r llinell cyllideb ar gyfer “Sectorau”.
Cyfalaf - dyraniadau trafodion ariannol (benthyciad) o £100 miliwn a £20 miliwn o gronfeydd wrth gefn.
- £50 miliwn ar gyfer buddsoddi mewn rhwydweithiau trafnidiaeth
- £10 miliwn ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol
- £10 miliwn ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
- £10 miliwn ar gyfer datblygiadau obstetreg, newyddanedig a phediatrig ledled Cymru
- £10 miliwn ar gyfer rhaglen Ysgolion ac Addysg yr Unfed Ganrif ar Hugain
- £5 miliwn ar gyfer y gronfa Twf Gwyrdd, £3 miliwn ar gyfer Arbed Cartrefi Cynnes a £2 miliwn ar gyfer y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol
- O ran cyllido benthyciadau, £10 miliwn ar gyfer y cynllun Tir ar gyfer Tai a £10 miliwn ar gyfer y Gronfa Benthyciadau Canol Trefi
Roedd y Gyllideb Ddrafft yn cyhoeddi’n wreiddiol ostyngiad o £41.1 miliwn ar gyfer Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) o’i gymharu â’r cyllid ar gyfer y sector addysg uwch yn 2015-16. Mae’r Gyllideb Derfynol yn lleihau hyn i ostyngiad o £20 miliwn. Ni fydd y trosglwyddiad technegol o £21.1 miliwn o gyllideb CCAUC i linell gyllideb lle telir grant ffioedd dysgu bellach yn digwydd yn 2016-17. Mae dogfen y Gyllideb Derfynol hefyd yn ymrwymo i ddarparu
£10 miliwn yn rhagor i gyllideb CCAUC: £5 miliwn ar gyfer darpariaeth ran amser a £5 miliwn ar gyfer ymchwil. Bwriedir dangos y trosglwyddiad hwn yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2016-17 yn hytrach na’r Gyllideb Derfynol.
Mae’r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi craffu ar gyllidebau
Comisiwn y Cynulliad,
Swyddfa Archwilio Cymru ac
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cyfeirir at y rhain yng nghynnig y gyllideb.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg