Cyllideb Derfynol 2019-20 (1)

Cyhoeddwyd 11/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru 2019-20 yn cael ei thrafod yn y Cynulliad ar 15 Ionawr. Mae’r erthygl hon yn cynnwys gwybodaeth am y dyraniadau a wnaed yn y gyllideb a’r newidiadau ers y Gyllideb Ddrafft.

Cliciwch yma i ddysgu rhagor am y gyllideb gan ddefnyddio ein hofferyn rhyngweithiol.

Mae Cyllideb Derfynol 2019-20 yn cynnwys nifer o newidiadau ers y Gyllideb Ddrafft wreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Hydref:

Ers y Gyllideb ddrafft, dyrannwyd £111 miliwn ychwanegol i’r adrannau

Mae dwy ran o dair o'r cyllid ychwanegol wedi’i ddyrannu i’r adran Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a hynny drwy’r: setliad llywodraeth leol; cyfalaf; a drwy ryddhad ardrethi busnes, yn bennaf i’r sector manwerthu.

Dyma’r prif ddyraniadau ychwanegol ar gyfer 2019-20:

£77 miliwn i Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

  • £13m i roi setliad ‘arian gwastad’ i lywodraeth leol; swm ychwanegol o £1.2 miliwn i sicrhau nad oes unrhyw awdurdod lleol yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.5%; £7 miliwn i godi terfyn cyfalaf y sector gofal cymdeithasol i £50,000; a £30 miliwn o Gyllid Cyfalaf Cyffredinol ychwanegol.
  • Swm ychwanegol o £23.6 miliwn i wella ein cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr a £2.4m mwy ar gyfer rhyddhad ardrethi’n ôl disgresiwn. Mae hyn yn cyd-fynd â’r swm canlyniadol a gafwyd yn dilyn Cyllideb y DU yn ymwneud â’r gostyngiad manwerthu yn Lloegr a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y DU.

21.6 miliwn i Addysg

  • Gan gynnwys £7.5 miliwn at y gost o weithredu’r dyfarniad cyflog i athrawon, a dyraniadau eraill i: Dysgu seiliedig ar waith; Addysg Bellach; a grant datblygu disgyblion.

£5 miliwn i adran yr Economi a Thrafnidiaeth - gwasanaethau amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd

£4.9 miliwn i’r adran Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

£2.3 miliwn i’r adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Roedd y rhagolygon ar gyfer treth yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ychydig yn wahanol i’r rhagolygon yn y Gyllideb Ddrafft:

  • Roedd gostyngiad o £40m yn y rhagolygon ar gyfer treth incwm a hynny’n bennaf oherwydd y newid yn y lwfans personol. Ni fydd hyn yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru gan y bydd y grant bloc yn cael ei addasu yn y cyswllt hwn.
  • Ar sail rhagolygon economaidd diweddaraf yr OBR, bydd gostyngiad o £2m yn refenwi’r Dreth Trafodiadau Tir a chynnydd o £3m yn refeniw’r Dreth Dirlenwi.

Roedd Cyllideb Hydref 2018 y DU yn cynnwys cyllid ychwanegol i Llywodraeth Cymru

£425.9m ychwanegol ar gyfer 2019-20, er mai cyllid a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer y GIG oedd £333m o’r swm hwn ac roedd wedi'i gynnwys eisoes yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru. Y prif symiau canlyniadol eraill oedd £38m ar gyfer gofal cymdeithasol a £36m i ardrethi bunses.


Erthygl gan Martin Jennings, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru