Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 ar 10 Rhagfyr 2024.
Cliciwch yma i archwilio dyraniadau allweddol y gyllideb.
Mae'r ffeithluniau isod yn crynhoi'r dyraniadau allweddol fesul adran y llywodraeth a sut mae'r rhain wedi newid ers y llinellau sylfaen diwygiedig yn 2024-25.
Newidiadau rhwng y Terfynau Gwariant Adrannol yng Nghyllideb Ddrafft 2025-26 o Llinellau Sylfaen Diwygiedig 2024-25
Newidiadau rhwng y Prif Grwpiau Gwariant yng Nghyllideb Ddrafft 2025-26, o Linellau Sylfaen Diwygiedig 2024-25
* Heb gynnwys £1.1 biliwn o incwm o ardrethi annomestig.
** Yn cynnwys dyraniad o £261 miliwn o refeniw anghyllidol oherwydd benthyciadau myfyrwyr.
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu. Cyfeirier at Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 i gael y ffigurau union gywir.
Llinellau Sylfaen Diwygiedig
Mae Llywodraeth Cymru fel arfer yn nodi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod drwy gymharu dyraniadau arfaethedig yn erbyn cynlluniau Cyllideb Derfynol ar gyfer y flwyddyn gyfredol.
Fodd bynnag, mae Cyllideb Ddrafft 2025-26 yn cymharu dyraniadau ariannol yn erbyn llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2024-25.
Mae hwn yn ddull gwahanol i flynyddoedd blaenorol gan fod y llinell sylfaen ar gyfer cymharu wedi'i haddasu i gyfrif am gytundebau cyflog sy’n uwch na'r hyn gyllidebwyd ar eu cyfer yn 2024-25 a chynnydd mewn costau pensiwn i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y derbyniwyd cyllid canlyniadol ar ei gyfer bellach gan Lywodraeth y DU. Mae nifer o newidiadau eraill hefyd wedi'u gwneud i’r gymhariaeth llinell sylfaenol hon. Heb wneud rhai addasiadau o'r fath, byddai cynnydd o flwyddyn i flwyddyn wedi ymddangos yn sylweddol uwch.
Dywedodd Dadansoddiad Cyllid Cymru fod materion llinell sylfaen yn gwneud craffu ar y cynlluniau gwariant hyn yn anos na’r arfer yn ei ddadansoddiad o Gyllideb Ddrafft 2025-26.
Effaith peidio cytuno ar gyllideb
Cytunir ar Gyllideb Llywodraeth Cymru drwy bleidlais yn y Senedd ar Gynnig Cyllideb Flynyddol, sy'n debygol o fod ar 4 Mawrth, ac mae cwestiynau wedi cael eu codi yn y cyfryngau ynglŷn ag effaith y Senedd yn peidio cytuno i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.
Os na chaiff penderfyniad ar y Gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol ei phasio cyn dechrau'r flwyddyn ariannol honno, yna i ddechrau mae 75% o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol ar gael. Mae'r ffigur hwn yn cynyddu i 95% os na chytunir ar benderfyniad ar y Gyllideb erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Gall y Senedd gyflwyno ac ystyried Cynnig y Gyllideb Flynyddol yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi, felly dim ond nes y bydd y Senedd wedi cytuno ar gynnig y byddai'r ffigurau uchod yn berthnasol.
Cyn y gellir pasio Cynnig y Gyllideb Flynyddol, mae'n rhaid cytuno ar benderfyniad Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT)
Ar gyfer 2019-20 ymlaen, gwnaeth Llywodraeth y DU ostwng y tair cyfradd treth incwm a delir gan drethdalwyr Cymru 10c mewn punt. Yna cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei chyfraddau ei hun ar gyfer pob band, sef 10c ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu bod trethdalwyr Cymru yn talu 10c o bob cyfradd treth incwm i Lywodraeth Cymru, a’r gweddill yn cael ei dalu i Lywodraeth y DU.
Os yw'r Senedd yn methu â chytuno ar gynnig WRIT, erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi, mae WRIT yn mynd yn sero. Mae hyn yn golygu y byddai treth incwm berthnasol sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn dreth ar brif gyfraddau’r DU ar gyfer cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol yn gostwng 10 pwynt canran i drethdalwyr Cymru.
Os na chytunir ar benderfyniad WRIT, gallai hefyd arwain at ostyngiad yn refeniw Llywodraeth Cymru o bron i £3.5 biliwn, allan o gyfanswm cyllideb o tua £26 biliwn.
Y camau nesaf
Mae gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft 2025-26 ar waith ar hyn o bryd gan bwyllgorau cyllid a pholisi Senedd Cymru.
Bydd dadl y Gyllideb Ddrafft yn cael ei chynnal ar y 4 Chwefror, a gallwch wylio’n fyw ar SeneddTV.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Cyllideb Derfynol ar gyfer 2025-26 ar 25 Chwefror, gyda phleidlais ar y Cynnig Cyllideb Derfynol ar 4 Mawrth
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Gyllideb Ddrafft ar linell amser a geirfa.Cyllideb Ddrafft Ymchwil y Senedd
Erthygl gan Bozo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru