Cyhoeddwyd 11/10/2013
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
11 Hydref 2013
Mae'r nodyn hwn yn darparu rhai o brif ffigurau
Cyllideb Ddrafft 2014-15 Llywodraeth Cymru a osodwyd ar 8 Hydref.
Cyfanswm y gwariant a reolir (TME)
Cyfanswm y gwariant a reolir ar gyfer Llywodraeth Cymru (sef yr hyn a ddyrannwyd i adrannau) yn 2014-15 yw £15.7 biliwn, sy'n gynnydd o £182.6 miliwn, neu 1.2% o gyfanswm 2013-14. Mewn termau real, mae hyn yn ostyngiad o 0.7%. Dros gyfnod y gyllideb (rhwng 2013-14 a 2015-16), ceir cynnydd cyffredinol o £7.5 miliwn, neu 0.05%. Mewn termau real, mae hyn yn ostyngiad o 5.0%.
O'i gymharu â chynlluniau dangosol blaenorol, mae cyfanswm y gwariant a reolir ar gyfer adrannau Llywodraeth Cymru wedi cynyddu £144.8 miliwn, neu 0.9% ar gyfer 2014-15.
Terfyn Gwariant Adrannol refeniw a chyfalaf (DEL)
Mae newidiadau blynyddol i DEL refeniw a chyfalaf (sef pennu uchafswm cyllideb amlflwydd) ar gyfer adrannau Llywodraeth Cymru yn dangos:
- Cyfanswm y DEL a ddyrennir i adrannau Llywodraeth Cymru yn 2014-15 yw £15.3 biliwn, sy'n gynnydd o £109.1 miliwn, neu 0.7% o gyfanswn 2013-14. Mewn termau real, mae hyn yn ostyngiad o 1.2%.
- Dros gyfnod y gyllideb, cyfanswm y gostyngiad DEL yw £101 miliwn, neu 0.7%. Mewn termau real, mae hyn yn ostyngiad o 4.2%.
- Cyfanswm y DEL refeniw a ddyrennir i adrannau Llywodraeth Cymru yn 2014-15 yw £13.9 biliwn, sy'n gynnydd o £85.3 miliwn, neu 0.6% o gyfanswn 2013-14. Mewn termau real, mae hyn yn ostyngiad o 2.5%.
- Dros gyfnod y gyllideb, cyfanswm y gostyngiad DEL yw £197.9 miliwn, neu 1.4%. Mewn termau real, mae hyn yn ostyngiad o 5.0%.
- Cyfanswm y DEL cyfalaf a ddyrennir i adrannau Llywodraeth Cymru yn 2014-15 yw £1.4 biliwn, sy'n gynnydd o £194.5 miliwn, neu 15.9% o gyfanswn 2013-14. Mewn termau real, mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 13.7%.
- Dros gyfnod y gyllideb, mae cynnydd yng nghyfanswm y DEL cyfalaf o £96.9 miliwn, neu 7.9%. Mewn termau real, mae hyn yn gynnydd o £4.0%.
Bu newidiadau i DEL refeniw a chyfalaf ar gyfer adrannau Llywodraeth Cymru ers y cynlluniau dangosol adeg
Cyllideb Atodol 2013-14. Mae hyn yn dangos:
- bod cyfanswm y DEL a ddyrannwyd i adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 wedi cynyddu £158.4 miliwn, neu 1.0% o'i gymharu â chynlluniau dangosol blaenorol.
- bod y DEL refeniw a ddyrannwyd i adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 wedi gostwng £100.4 miliwn, neu 0.7% o'i gymharu â chynlluniau dangosol blaenorol.
- bod y DEL cyfalaf a ddyrannwyd i adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 wedi cynyddu £258.8 miliwn, neu 22.3% o'i gymharu â chynlluniau dangosol blaenorol.
Dyraniadau i'r Prif Grwpiau Gwariant (sef portffolios gweinidogol)
Mae Ffigur 1 isod yn dangos y cyfran o DEL Llywodraeth Cymru a ddyrannwyd i bob prif grŵp gwariant. Mae Tabl 1 yn dangos y bydd cyfran o'r gyllideb a ddyrannwyd i bob adran o Lywodraeth Cymru yn newid dros gyfnod y gyllideb:
- Bydd dyraniad uwch i wariant refeniw ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gwariant cyfalaf o ran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Thai ac Adfywio;
- Bydd dyraniad is o ran Llywodraeth Leol ac Addysg a Sgiliau
Ffigur 1: Cyfanswm dyraniadau DEL fesul prif grŵp gwariant
[caption id="attachment_495" align="aligncenter" width="625"]
Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r Gwasanaeth Ymchwil o gyllidebau Llywodraeth Cymru.[/caption]
Tabl 1: Canran o DEL Llywodraeth Cymru a ddyrannwyd i bob prif grŵp gwariant (MEG)
[caption id="attachment_496" align="aligncenter" width="625"]
Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r Gwasanaeth Ymchwil o gyllidebau Llywodraeth Cymru.
[/caption]
Erthygl gan Richard Bettley