Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 – Cyllideb gyntaf y Senedd newydd

Cyhoeddwyd 01/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/07/2021   |   Amser darllen munud

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2021-22 (y Gyllideb Atodol) ar 22 Mehefin 2021. Dyma'r Gyllideb Atodol gyntaf ers cynnal etholiad Senedd Cymru 2021, a dyma’r gyllideb gyntaf, felly, i gael ei phennu gan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru yn y Chweched Senedd. Mae'r erthygl hon yn crynhoi'r dyraniadau allweddol sydd wedi'u cynnwys yn y Gyllideb Atodol hon.

Mae'r Gyllideb Atodol yn cynnig newidiadau i'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2021-22 (y Gyllideb Derfynol), gan gynnwys cyfres o benderfyniadau gwariant a gafodd eu gwneud yn ystod y cyfnod yn dilyn y Gyllideb Derfynol. Mae'n dyrannu swm ychwanegol o £1.2 biliwn mewn adnoddau refeniw a chyfalaf i adrannau (sef y 'Terfynau Gwariant Adrannol', neu’r DELs), sy’n cynrychioli cynnydd o 6.2 y cant o'i gymharu â'r Gyllideb Derfynol. I roi hyn yn ei gyd-destun, yn y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21, cafwyd cynnydd o £2.5 biliwn mewn adnoddau refeniw a chyfalaf i adrannau, sef cynnydd cyffredinol o 13.9 y cant, wrth i Lywodraeth Cymru geisio mynd i'r afael â'r heriau cynnar o ymateb i argyfwng COVID-19.

Mae'r ffeithlun isod yn dangos y newidiadau a gafwyd mewn dyraniadau adrannol yn y Gyllideb Atodol ddiweddaraf hon:

Prif ffigurau’r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2021-22, sy’n dangos y newidiadau o’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2021-22 (£m).

Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL): £18,363 miliwn (i fyny £1,209 miliwn neu 7.0 y cant). DEL Cyfalaf: £2,578 miliwn (i fyny £9 miliwn neu 0.4 y cant). Cyfanswm DEL: £20,941 miliwn (i fyny £1,218 miliwn neu 6.2 y cant). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £1,867 miliwn (i lawr £380 miliwn neu 16.9 y cant). Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £22,807 miliwn (i fyny £838 miliwn neu 3.8 y cant).

Tabl yn dangos cyfanswm y dyraniadau refeniw a chyfalaf yn ôl adran. Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £9,744 miliwn (i fyny £128 miliwn, neu 1.5 y cant). Cyllid a Llywodraeth Leol: £4,728 miliwn (i fyny £352 miliwn neu 8.0 y cant). Newid Hinsawdd: £2,633 miliwn (i fyny £126 miliwn neu 5.0 y cant). Addysg a'r Gymraeg: £2,438 miliwn (i fyny £519 miliwn neu 27 y cant). Economi: £596 miliwn (i fyny £91 miliwn neu 17.9 y cant). Materion Gwledig: £356 miliwn (dim newid). Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu: £322 miliwn (i fyny £1 miliwn, neu 0.3 y cant). Cyfiawnder Cymdeithasol: £124 miliwn (i fyny £2 miliwn, neu 1.3 y cant).

*Heb gynnwys tua £700 miliwn mewn incwm ardrethi annomestig.

**Yn cynnwys dyraniad o £387 miliwn mewn refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.

CD: Y Gyllideb Derfynol wedi’i hailddatgan ar gyfer 2021-22.

CAG: Cyllideb Atodol Gyntaf 2021-22

Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 i gael yr union ffigurau.

Gwneir cymariaethau â'r Gyllideb Derfynol sydd wedi’i hailddatgan ar gyfer 2021-22, sy'n adlewyrchu'r newidiadau a welwyd o ran y portffolios gweinidogol yn dilyn etholiad Senedd Cymru 2021. Cafodd y newidiadau hyn eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 13 Mai 2021. Mae rhagor o wybodaeth wedi'i chynnwys yn Atodiad 1 o'r Gyllideb Atodol.

Addysg a'r Gymraeg sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn ei ddyraniad, a hynny mewn termau absoliwt a chanrannol (sef cynnydd o £519.0 miliwn neu 27 y cant). Mae hyn yn cyfrif am 42.6 y cant o gyfanswm y cynnydd a welwyd yn y Gyllideb Atodol. Gyda'i gilydd, mae dwy adran (Addysg a'r Gymraeg, a Chyllid a Llywodraeth Leol) yn cyfrif am dros 70 y cant o gyfanswm yr adnoddau ychwanegol a ddyrannwyd.

Dyraniadau

Mae'r Gyllideb Atodol yn nodi cyfres o gyhoeddiadau cyllido allweddol, gyda swm o £706 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer yr adferiad yn sgil COVID-19, gan gynnwys:

Dyraniadau COVID-19 yn y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2021-22 (£m)

Dyraniadau o arian wrth gefn COVID-19. Cymorth Busnes (cyfanswm): £407.2 miliwn, sy’n cynnwys Rhyddhad Ardrethi Busnes: £352.2 miliwn; a Chymorth i Fusnes yn y Dyfodol: £55 miliwn. Iechyd (cyfanswm): £100 miliwn. Economi a thrafnidiaeth: £70 miliwn. Diwylliant: £30 miliwn. Addysg (cyfanswm): £98.4 miliwn, sy’n cynnwys Addysg Awyr Agored: £2 miliwn; Plant a Phobl Ifanc: £5 miliwn; Adnewyddu a Diwygio Addysg: £19.25 miliwn; Pontio ôl-16 a Dal i Fyny: £33 miliwn ac Adfer, Dysgu a Chynnydd: £39.15 miliwn.

Mae'r Gyllideb Atodol hefyd yn cynnwys dyraniadau eraill o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys £26 miliwn ar gyfer lansio Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i Gymru ar gyfer Dysgu, a fydd yn disodli rhaglen Erasmus +. Mae swm o £16 miliwn hefyd i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, sy’n cynnwys £11 miliwn mewn cyllid refeniw a £5 miliwn mewn cyfalaf, sy'n rhan o grant gwerth £42.6 miliwn i helpu’r maes awyr i “ailstrwythuro ei weithrediadau, a sicrhau ei hyfywedd hirdymor” dros y “tymor canolig”.

Mae swm ychwanegol o £387 miliwn wedi’i ddyrannu i Addysg a'r Gymraeg ar gyfer benthyciadau i fyfyrwyr, sy'n cyfrif am dri chwarter y cynnydd cyffredinol a welwyd ar gyfer yr adran honno (£519 miliwn). Mae’r swm hwn wedi’i ddyrannu fel adnodd anghyllidol (a elwir weithiau yn adnodd 'nad yw’n arian parod'), sydd wedi'i glustnodi ac nad yw felly ar gael i Lywodraeth Cymru at ddibenion ariannu ei chynlluniau gwariant.

Sut mae'r sefyllfa ariannu wedi newid?

Mae dogfennau’r Gyllideb Atodol yn dangos cynnydd net o £1.39 biliwn mewn adnoddau cyllidol o'i gymharu â'r Gyllideb Derfynol. I raddau helaeth, roedd hyn yn adlewyrchu’r £1.35 biliwn mewn cyllid canlyniadol a gafwyd o dan fformiwla Barnett; hynny yw, arian a ddaeth i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i benderfyniadau gwariant a wnaed gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru. Mae symiau ychwanegol o £735.3 miliwn a £614.7 miliwn wedi'u dyrannu o ganlyniad i gyhoeddiadau a wnaed yng Nghyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer 2021 ac yn ei Phrif Amcangyfrifon Cyflenwi ar gyfer 2021-22, yn y drefn honno.

Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) ragolygon treth wedi'u diweddaru ar gyfer Cymru. Roedd y rhagolygon hyn yn darogan cynnydd o 21.3 y cant yn y Dreth Trafodiadau Tir (cynnydd o £49.2 miliwn, i fyny o £231 miliwn), a chynnydd o 4.9 y cant yn y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (cynnydd o £1.6 miliwn, i fyny o £32.7 miliwn). Fodd bynnag, yn ôl y rhagolygon ar gyfer Ardrethi Annomestig, disgwylir i incwm ostwng £379.5 miliwn o £1.1 biliwn, sef gostyngiad o 34.5 y cant, yn sgil y seibiant ardrethi busnes y cyfeirir ato uchod.

Mae'r Gyllideb Atodol yn cadarnhau bod swm o £2 biliwn heb ei ddyrannu yn cael ei ddal gan Lywodraeth Cymru mewn cronfeydd wrth gefn. Mae £1.3 biliwn o’r swm hwn yn ymwneud ag adnoddau cyllidol sydd ar gael ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd. Ym mis Chwefror 2021, cytunodd Llywodraeth y DU y gallai Llywodraeth Cymru gario swm o £650 miliwn mewn cyllid COVID-19 drosodd o 2020-21 i’w wario yn y flwyddyn ariannol hon, gan gydnabod yr amgylchiadau eithriadol a oedd yn bodoli a chan ymateb i alwadau am hyblygrwydd. Mae hyn ar ben y terfynau y cytunwyd arnynt yn y Fframwaith Cyllidol (gallwch ddarllen mwy am y Fframwaith Cyllidol yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd).

Mae Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan ei bwriad i fenthyg y swm llawn o £150 miliwn a ganiateir o dan y Fframwaith Cyllidol, sy'n cyfyngu benthyca cyfalaf blynyddol i'r swm hwnnw. Mae hyn yn cyferbynnu â'r Drydedd Gyllideb Atodol ar gyfer 2020-21, pan gafwyd cadarnhad na fyddai Llywodraeth Cymru, wedi iddi adlewyrchu’r uchafswm a ganiateir yn ei chyllidebau blaenorol ar gyfer 2020-21, yn tynnu unrhyw fenthyca cyfalaf ar gyfer y flwyddyn honno wedi’r cyfan. Mewn ymateb i feirniadaeth gan y gwrthbleidiau, nododd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i geisio sicrhau terfynau benthyca uwch, gan ailddatgan ei hymrwymiad i fenthyg y swm llawn a oedd ar gael yn 2021-22.

Beth nesaf?

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal sesiwn graffu gyda Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ar 2 Gorffennaf 2021. Yn dilyn hynny, bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad. Bydd y Gyllideb Atodol hefyd yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Gorffennaf 2021. Gallwch wylio’r ddwy sesiwn dan sylw yn fyw ar SeneddTV. Mae rhagor o wybodaeth am effeithiau Cyllidebau Llywodraeth Cymru ers 2020-21 wedi'i chynnwys yn ein herthygl.


Erthygl gan Owain Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru