Cyhoeddwyd 27/06/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
27 Mehefin 2014
Erthygl gan Richard Bettley a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gosododd y Gweinidog Cyllid (Jane Hutt AC)
gynnig y Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2014-15 ar 24 Mehefin 2014. Yn ogystal, cyflwynwyd
nodyn esboniadol a
thablau yn dangos y dyraniadau i'r prif grwpiau gwariant (MEG). Mae'r gyllideb atodol hon yn diwygio
Cyllideb Derfynol 2014-15, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2013. Yn ei
datganiad, eglurodd y Gweinidog brif ddiben y gyllideb hon:
Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Derfynol 2014-15 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr. Mae’n nodi hefyd nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn a throsglwyddiadau ag Adrannau Llywodraeth y DU. Mae hefyd yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.
Ceir crynodeb o sut y caiff y gwariant yn ôl disgresiwn ('Terfyn Gwariant Adrannol') ei neilltuo i adrannau gwahanol o Lywodraeth Cymru yng Nghyllideb Atodol 2014-15 isod. Mae cyfanswm y Terfyn Gwariant Adrannol wedi cynyddu £53 miliwn, neu 0.3%, o gymharu â chyllideb 2014-15 a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Rhagfyr 2014.