Cyllideb Atodol Cyntaf 2016-17: Prif ffigurau a chraffu’r Pwyllgor Cyllid

Cyhoeddwyd 08/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

08 Gorffennaf 2016
Erthygl gan Gareth Thomas a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Bydd y Cynulliad yn trafod Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf. Mae'r erthygl hon yn rhoi gwybodaeth gefndirol am y gyllideb atodol a gwaith Pwyllgor Cyllid y Cynulliad i graffu ar y dyraniadau a geir ynddi. Clywodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth lafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am y newidiadau yn y gyllideb atodol, ac mae wedi cyhoeddi adroddiad sy'n cynnwys argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet. Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17 Prif bwrpas y gyllideb atodol yw ailstrwythuro er mwyn adlewyrchu'r newidiadau ym mhortffolios Gweinidogion Llywodraeth newydd Cymru.  Mae'r erthygl a gyhoeddwyd gennym ar y blog ym mis Mehefin 2016 yn nodi manylion y dyraniadau ychwanegol a wnaed yn y gyllideb atodol. Gosodwyd y gyllideb atodol gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 21 Mehefin 2016. Yn ogystal, cyflwynwyd nodyn esboniadol a thablau yn dangos y dyraniadau i'r adrannau. Mae'r ffeithlun a'r siart cylch isod yn nodi prif ffigurau'r gyllideb atodol. Ffeithlun yn dangos prif ffigurau Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17. [caption id="attachment_5961" align="alignnone" width="682"]Siart cylch yn dangos dyraniadau'r gyllideb i adrannau Llywodraeth Cymru Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r Gwasanaeth Ymchwil o Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2016-17[/caption] Adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y gyllideb atodol Clywodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 28 Mehefin, ac roedd yn fodlon ar y cyfan ar y cynigion yn y gyllideb atodol. Gwnaeth bedwar argymhelliad i Lywodraeth Cymru yn ei adroddiad.  Mae'r rhain wedi'u seilio ar y prif feysydd a drafodwyd gydag Ysgrifennydd y Cabinet ac maent yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn:
  • Costau'r etholiad: Roedd y £7.7 miliwn a ddyrannwyd i dalu am gost etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016 yn is na chostau'r etholiad blaenorol a gynhaliwyd yn 2011, yn rhannol am fod costau etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, a gynhaliwyd ar yr un diwrnod, wedi'u rhannu â Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru barhau i fanteisio ar gyfleoedd o'r fath i leihau'r gost o gynnal etholiadau i drethdalwyr.
  • Ardal Fenter Glannau Port Talbot: Nododd y Pwyllgor fod £1.5 miliwn wedi'i ddyrannu yn y gyllideb i gynllun rhyddhad ardrethi busnes yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot. Fodd bynnag, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi mwy o dystiolaeth yn y dyfodol sy'n nodi'r rhesymeg y tu ôl i ddyraniadau'r gyllideb, fel y cynllun rhyddhad ardrethi busnes, gan gynnwys manylion am yr effaith economaidd a ragwelir.
  • Tryloywder y gyllideb: Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno gwybodaeth i sicrhau ei bod yn bosibl olrhain dyraniadau i adrannau a phrosiectau mawr yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Dylai hyn gynnwys galluogi cymariaethau i gael eu gwneud pan fydd portffolios Ysgrifenyddion Cabinet yn newid.
  • Newidiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru yn y dyfodol: Ar 28 Mehefin,  mynegodd Canghellor y Trysorlys y farn y byddai angen i'r Prif Weinidog newydd gynyddu trethi a gwneud toriadau pellach o ran gwariant. Felly, argymhellwyd y dylai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am drafodaethau â Thrysorlys y DU ynghylch unrhyw benderfyniadau a allai arwain at newidiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru yn y misoedd nesaf.