Gyda’r Gyllideb Ddrafft wedi’i chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024, mae’r Ddadl ar y Gyllideb Derfynol ar 4 Mawrth 2025 yn nodi diwedd y broses ar gyfer pennu cyllideb Llywodraeth Cymru.
Yn yr erthygl hon rydym yn edrych yn fanwl ar y newidiadau rhwng y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Derfynol. Gallwch ddarllen rhagor am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn ein herthygl sy’n edrych ar bum peth a ddysgwyd gennym yn ystod y gwaith craffu eleni.
Cyllideb Derfynol ychwanegol gydweithrediadol o £109 miliwn i osgoi cyfyngder
Cytunir ar Gyllideb Llywodraeth Cymru drwy bleidlais yn y Senedd ar Gynnig y Gyllideb Flynyddol, sydd i’w chynnal ar 4 Mawrth 2025. Gan fod Llafur Cymru yn Llywodraeth leiafrifol, mae’n ofynnol bod o leiaf un Aelod arall yn pleidleisio o blaid y Gyllideb er mwyn iddi gael ei phasio. Ddiwedd y llynedd, codwyd cwestiynau yn y cyfryngau ynghylch y posibilrwydd na fyddai’r Senedd yn cytuno ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. Roedd ein herthygl yn gynharach eleni yn edrych ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 yn amlinellu effaith hyn pe bai’n digwydd.
Mae’r tebygolrwydd y bydd cynnig y gyllideb yn cael ei basio wedi cynyddu’n sylweddol. Ar 4 Chwefror, pleidleisiodd y Senedd o blaid y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26, ac ymatalodd un Aelod ynddi, sef Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Tynnodd y cyfryngau sylw at gytundeb posibl ynglŷn â chyllid ychwanegol rhwng Jane Dodds AS a Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi’r Gyllideb Derfynol. Cadarnhawyd y cydweithio yn y nodyn esboniadol ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2025-26 , sy'n datgan bod:
[…]mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Jane Dodds AS… i gytuno ar dros £100m o fuddsoddiad ychwanegol, mewn meysydd lle’r ydym yn rhannu blaenoriaethau.
Yn dilyn cyhoeddi’r Gyllideb Derfynol, dywedodd Jane Dodds AS:
Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi sicrhau’r arian sydd ei angen i gyflawni blaenoriaethau allweddol fy mhlaid o wella gofal cymdeithasol, cynyddu gofal plant o safon, mynd i’r afael â llygredd dŵr, gwella’r ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus a diogelu’r gwasanaethau hanfodol sy’n cael eu rhedeg gan y cynghorau.
Cyllideb Derfynol 2025-26
Yn dilyn gwaith craffu gan y Pwyllgor, a dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2025-26 ar 20 Chwefror 2025.
Mae'r Gyllideb Derfynol yn cynnwys £30 miliwn o gyllid adnoddau ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i “dargedu oedi wrth ryddhau cleifion o ysbytai a darparu mwy o ofal a chymorth mewn cymunedau lleol”.
Croesawodd rhanddeiliaid y £30 miliwn o gyllid adnoddau i “ariannu’r gost o ymestyn gofal plant Dechrau'n Deg yn ardal pob awdurdod lleol.” Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod gofal plant ar gael i’r “mwyafrif o blant dwy flwydd oed a nodwyd yn y cynlluniau hynny yn 2025-26”. Bydd y gyfradd fesul awr ar gyfer gofal plant hefyd yn codi i £6.40, i leddfu pwysau costau ar ddarparwyr.
Mae dyraniadau eraill a wnaed yn y Gyllideb Derfynol yn cynnwys:
- £10 miliwn o gyllid adnoddau i'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig a £5 miliwn i fynd i'r afael â llygredd dŵr;
- Dros £4 miliwn o gyllid adnoddau ar gyfer y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth, cyhoeddi, y sector creadigol a’r sector chwaraeon;
- £8 miliwn o gyllid adnoddau i gefnogi cyflwyno tocynnau bws am £1 ar gyfer pobl ifanc 16 i 21 mlwydd oed;
- £1.25 miliwn tuag at welliannau i reilffordd Calon Cymru rhwng Abertawe a'r Amwythig;
- £5 miliwn o gyllid cyfalaf i wella mannau chwarae ac i adnewyddu meysydd chwarae;
- £5 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf i osod systemau gwresogi carbon isel mewn canolfannau hamdden.
Mae'r ffeithluniau isod yn crynhoi'r dyraniadau allweddol yn ôl adran y llywodraeth a sut mae'r rhain wedi newid ers y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26.
Dyraniadau Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26
Newidiadau rhwng y Prif Grwpiau Gwariant yn y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2025-26, o gymharu â’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26
* Heb gynnwys tua £1.1 biliwn o incwm o ardrethi annomestig.
** Gan gynnwys dyraniadau o £261 miliwn o refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 i weld yr union ffigurau.
Mae pryderon ariannu yn parhau ar gyfer y sector addysg uwch
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru gynlluniau i ddileu swyddi o ganlyniad i brinder cyllid.
Er bod y cyllid ychwanegol tuag at ofal cymdeithasol yn y Gyllideb Derfynol wedi’i groesawu gan y Coleg Nyrsio Brenhinol, fe wnaethant nodi “pryderon cynyddol am ddyfodol addysg nyrsio yng Nghymru”, a gofyn am wybodaeth am gynlluniau o ran cyllid ar gyfer addysg nyrsio yn dilyn cynnig Prifysgol Caerdydd y byddai’n cau ei hysgol Nyrsio.
Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £18.5 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf yn ystod y flwyddyn ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 i gefnogi prifysgolion gyda gwaith “cynnal a chadw ystadau a phrosiectau digidol i leihau costau gweithredu”. Nododd Llywodraeth Cymru fod y cyllid hwn yn ychwanegol at y £21.9 miliwn y disgwylir iddo gael ei godi yn sgil cynnydd mewn ffioedd dysgu a £10 miliwn ychwanegol mewn cyllid grant i'r sector.
Roedd Prifysgolion Cymru yn croesawu’r £18.5 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf yn ystod y flwyddyn ond mewn ymateb i’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2025-26 dywedodd y sefydliad:
[…] mae’n anodd gweld sut mae’r gyllideb hon yn darparu sefyllfa gynaliadwy i brifysgolion Cymru wrth symud ymlaen. Pe bai dim yn newid, mae Llywodraeth Cymru mewn perygl o weld prifysgolion yn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf heb y cymorth sydd ei angen arnynt.
Cyfraddau Treth Incwm Cymru
Ochr yn ochr â’r ddadl ar y Gyllideb Derfynol ei hun, bydd dadl ynghylch gosod Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC). Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid Cyfraddau Treth Incwm Cymru ar gyfer 2025-26, a fydd yn cadw CTIC yn 10c ar gyfer cyfraddau sylfaenol, cyfraddau uwch a chyfraddau ychwanegol.
Ystyr hyn yw y bydd trethdalwyr sy'n byw yng Nghymru a Lloegr yn parhau i dalu'r un faint o dreth incwm. Gallwch ddefnyddio'r Offeryn Treth Incwm Ymchwil y Senedd i helpu i gyfrifo faint y gallai fod angen i chi ei dalu mewn treth incwm.
Ymlaen tuag at y Gwanwyn – beth sy’n digwydd nesaf?
Mae 4 Mawrth yn ddiwrnod arwyddocaol i gyllid Cymru, oherwydd dyna pryd y mae’r Senedd i drafod y Gyllideb Derfynol, Cyfraddau Treth Incwm Cymru a’r Setliad Llywodraeth Leol.
Gallwch wylio pob un o’r trafodaethau hyn ar Senedd tv, darllen y trawsgrifiad ar ôl y cyfarfod neu ddilyn Ymchwil y Senedd ar X (Twitter gynt) i weld yr erthyglau diweddaraf sy’n trafod proses y gyllideb a rhagor.
Erthygl gan Božo Lugonja a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru