Mae’r DU a’r llywodraethau datganoledig yn cyhoeddi amrywiaeth o ddata amaethyddol bob blwyddyn, a’r mwyaf cynhwysfawr o’r rhain yw Arolwg Amaethyddol mis Mehefin. Mae’r papur briffio hwn yn tynnu sylw at ymchwil ystadegau amaethyddol allweddol ac yn rhoi trosolwg ar strwythur y diwydiant ffermio yng Nghymru. Mae’n cynnig dadansoddiad cymharol o’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru a’r sector amaethyddol drwy’r DU gyfan.
Cyhoeddiad newydd: Y Sector Ffermio yng Nghymru (PDF, 563KB)
Erthygl gan Chris Wiseall, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Chris Wiseall gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i'r Briff Ymchwil hwn gael ei chwblhau.