Cyhoeddiad Newydd: Y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin: Cwotâu a gwahardd taflu pysgod yn ôl i'r môr
Cyhoeddwyd 19/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
19 Mehefin 2014
Gwasanaeth Ymchwil Cynullaid Cenedlaethol Cymru
Ar 1 Ionawr 2014, cyflwynodd yr UE Bolisi Pysgodfeydd Cyffredin (PPC) diwygiedig. Un o'r agweddau allweddol ar y diwygiadau a gyhoeddwyd oedd cyflwyno rhwymedigaeth lanio, sydd hefyd yn cael ei galw'n waharddiad ar daflu pysgod yn ôl i'r môr. Cyflwynir y diwygiad hwn yn raddol fesul pysgodfa hyd at 2019. Nod y gwaharddiad yw lleihau'r achosion o ddychwelyd pysgod i'r môr, yn aml pan fyddant yn farw neu ar fin marw, o ganlyniad i'r system gwotâu.
Y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin: Cwotâu a gwahardd taflu pysgod yn ôl i'r môr