Mae’r Papur Briffio Ymchwil hwn yn rhan o gyfres o bapurau briffio ar ynni carbon isel yng Nghymru. Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar rôl ynni carbon isel mewn trafnidiaeth, ac yn rhoi trosolwg o danwydd carbon isel a thechnolegau trafnidiaeth.
Cyhoeddiad Newydd: Trafnidiaeth Carbon Isel (PDF, 2765KB)
Erthygl gan Robert Abernethy, Chloe Corbyn and Jeni Spragg, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Senedd Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Robert Abernethy a Jeni Spragg gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.