Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cyflwyno nifer o fesurau i wella ac amddiffyn yr amgylchedd yng Nghymru. Mae’n newid yr ymagwedd at faterion amgylcheddol, gan hybu dull systemig ac integreiddio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Mae’r papur briffio hwn yn canolbwyntio ar Ran 1 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol.
Cyhoeddiad newydd: Rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (PDF, 1238KB)
Erthygl gan Chris Wiseall a Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Chris Wiseall gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r papur briffio hwn gael ei gwblhau.