Cyhoeddiad Newydd: Materion Ewrop, Rhifyn 29

Cyhoeddwyd 09/05/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/10/2020   |   Amser darllen munudau

09 Mai 2014 Erthygl gan Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Caiff y rhifyn diweddaraf o Materion Ewropeaidd, y ddogfen reolaidd sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar faterion Ewropeaidd a'i weithgareddau rhyngwladol, ei gyhoeddi heddiw. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol o ystyried mai heddiw yw Diwrnod Ewrop, ac o ystyried y bydd etholiadau i Senedd Ewrop yn cael eu cynnal ar draws yr UE rhwng 22 a 25 Mai. Bydd Cymru, wrth gwrs, yn ethol pedwar Aelod newydd o Senedd Ewrop o Gymru i gynrychioli ein buddiannau yn y ddeddfwrfa a gaiff ei hethol yn uniongyrchol yn yr UE, ac ystyrir y berthynas rhwng y Cynulliad ac Aelodau Senedd Ewrop o Gymru, a Senedd Ewrop yn fwy cyffredinol, i fod yn arbennig o bwysig. Mae Materion Ewrop yn rhoi manylion ynghylch gwaith diweddar a pharhaus pwyllgorau'r Cynulliad ar faterion yr UE. Er enghraifft, yr ymchwiliad gan y Pwyllgor Menter a Busnes i gyfleoedd cyllido'r UE ar gyfer 2014-2020 a disgwylir adroddiad ar hyn yn ddiweddarach y tymor hwn, a'r ddadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE y disgwylir iddi gael ei thrafod yn y cyfarfod llawn ar 4 Mehefin. Mae hefyd yn rhoi manylion am weithgareddau Ewropeaidd a rhyngwladol Aelodau'r Cynulliad, gan gynnwys y ddau gynrychiolydd ar Bwyllgor y Rhanbarthau - Mick Antoniw AC a Rhodri Glyn Thomas AC - yn ogystal â manylion ynghylch ymwelwyr pwysig rhyngwladol â'r Senedd, er enghraifft, Llysgennad Groeg i'r DU a fydd yn cwrdd â'r Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, a chadeiryddion y pwyllgorau ar 15 Mai i drafod Llywyddiaeth Groeg o'r UE. Yn dilyn yr etholiadau, bydd blog Pigion y Gwasanaeth Ymchwil yn rhoi’r newyddion diweddaraf am y datblygiadau mwyaf perthnasol ar lefel yr UE sydd o ddiddordeb i'r Cynulliad a Chymru. Gallwch hefyd ddilyn ein ffrwd Twitter a gaiff ei ddiweddaru bob dydd gyda newyddion o'r Cynulliad yn ogystal ag ail-drydar ystod eang o negeseuon Twitter o'r UE: @SeneddEurope Materion Ewrop, Rhifyn 29 blog-cy