Cyhoeddiad Newydd: Cynigion ynghylch trefniadaeth ysgolion

Cyhoeddwyd 27/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae'r Hysbysiad Hwylus hwn yn nodi'r gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i awdurdodau lleol a chyrff eraill sy’n gwneud cynigion ar gyfer ad-drefnu ysgolion (fel cau neu uno ysgolion) a'r gweithdrefnau y mae'n rhaid eu dilyn. Newidiwyd y broses gan ddeddfwriaeth y Cynulliad yn 2013 a chan ganllawiau Llywodraeth Cymru yn dilyn hynny (y Cod Trefniadaeth Ysgolion). Roedd y camau hyn yn symudiad tuag at sefyllfa lle byddai’r awdurdodau lleol eu hunain, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, yn gwneud y penderfyniadau terfynol, ar wahân i eithriadau a nodwyd. Cynigion ynghylch trefniadaeth ysgolion blog-cy
Gwasanaeth Ymchwil Cynullaid Cenedlaethol Cymru.