View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Cafodd Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 25 Mehefin 2013. Mae’n cysoni strwythurau cyllidebol 2013-14 â’r newidiadau ym mhortffolios y Gweinidogion a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013. Mae hefyd yn nodi nifer o drosglwyddiadau gyda Llywodraeth y DU ac yn cynnig dyraniadau o gronfeydd wrth gefn, yn ogystal â symudiadau rhwng ac o fewn portffolios.
Diben y papur hwn yw cyfrannu at y gwaith o graffu ar y gyllideb atodol. Mae’n rhoi manylion y newidiadau cyffredinol i floc Cymru a dyraniadau i bortffolios Llywodraeth Cymru o’u cymharu â Chyllideb Derfynol 2013-14 wedi’i hailddatgan. Mae hefyd yn rhoi manylion y newidiadau a wnaed ar ôl cysoni’r strwythurau cyllidebol â’r newidiadau ym mhortffolios y Gweinidogion a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013.Erthygl gan Dr Eleanor Roy, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ffynhonnell: Llun o Flikr gan Community Friend. Dan drwydded Creative Commons