Cyhoeddiad Newydd: Cyfres y Gyllideb

Cyhoeddwyd 20/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyfres y Gyllideb 1: Ariannu datganoli yng Nghymru Diweddarwyd: Mehefin 2013 Hwn yw’r Hysbysiad Hwylus cyntaf yng Nghyfres y Gyllideb, ac mae’n egluro’r trefniadau presennol yng nghyswllt ariannu datganoli yng Nghymru. Mae’n egluro sut y mae Cymru yn cael ei chyllid gan Lywodraeth y DU, sut y mae fformiwla Barnett yn gweithredu, a datblygiadau diweddar mewn cysylltiad â diwygio’r drefn ariannu. Mae’n egluro hefyd y categorïau a’r cyfyngiadau a ddefnyddir yng nghyswllt ariannu, a sut y caiff arian ei dalu i Gronfa Gyfunol Cymru, a’i dynnu ohoni.

Cyfres y Gyllideb 2: broses gyllidebol yng Nghymru Diweddarwyd: Mehefin 2013 Dyma’r ail Hysbysiad Hwylus yng Nghyfres y Gyllideb, ac mae’n amlinellu tri phrif gymal y broses gyllidebol yng Nghymru: cynigion y gyllideb ddrafft, cynnig y gyllideb flynyddol a chynnig y gyllideb atodol. Mae’n esbonio’r gofynion ym mhob cam o’r broses, fel y’u nodir mewn deddfwriaeth a’r Rheolau Sefydlog, a hefyd yn nodi cyfleoedd ar gyfer gwaith craffu yn ystod y broses. Mae’n esbonio sut y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ‘dal llinynnau’r pwrs’ ac yn awdurdodi defnyddio arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru a chyrff a ariennir yn uniongyrchol.

Cyfres y Gyllideb 3: Craffu ar y gyllideb Diweddarwyd: Mehefin 2013 Dyma’r trydydd Hysbysiad Hwylus yng Nghyfres y Gyllideb, ac mae’n egluro rôl y ddeddfwrfa wrth graffu ar gyllideb y Llywodraeth. Mae’n nodi egwyddorion sylfaenol craffu ariannol, yn rhoi ychydig o arweiniad wrth fynd drwy ddogfennau’r gyllideb ac yn nodi ffynonellau gwybodaeth eraill y gellir eu defnyddio i helpu i graffu ar y gyllideb. Mae hefyd yn rhoi peth cyngor ar gyfer y gwaith craffu, a hynny ar ffurf cwestiynau y gellid eu gofyn wrth ystyried y gyllideb, gan roi’r rhain yng nghyd-destun egwyddorion craffu ariannol.

Cyfres y Gyllideb 4: Geirfa’r Gyllideb Diweddarwyd: Mehefin 2013


Erthygl gan Ellie Roy, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o Flikr gan Community Friend. Dan drwydded Creative Commons