Cyhoeddiad newydd: Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) – Crynodeb o’r newidiadau yng Nghyfnod 2

Cyhoeddwyd 20/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Gosodwyd y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) ('y Bil') gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2016. Cyflwynwyd y Bil yn y Cyfarfod Llawn gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 29 Tachwedd 2016.

Y Bil hwn yw'r trydydd Bil i sefydlu trefniadau treth ddatganoledig yng Nghymru ac mae'n cael ei ragflaenu gan y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

Diben y Bil hwn yw gwneud darpariaethau ar gyfer cyflwyno'r dreth Trafodiadau Tir, a fydd yn disodli Treth Tirlenwi'r DU yng Nghymru ym mis Ebrill 2018.

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r prif newidiadau a wnaed i'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) (‘y Bil’) yn ystod trafodion Cyfnod 2.

Cynhelir trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Mehefin 2017 i ystyried gwelliannau i'r Bil (fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2).

Bill Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) - Crynodeb o'r newidiadau yng Nghyfnod 2 (PDF, 820KB).


Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun: o Flickr gan Adam Levine. Dan drwydded Creative Commons.