Y Cynulliad i drafod egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Cyhoeddwyd 17/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

17 Mawrth 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg Gosodwyd y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2016, a chafodd ei gyflwyno yn y Cyfarfod Llawn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 29 Tachwedd 2016. Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ar 21 Mawrth 2017. Mae'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn ymwneud â sefydlu'r fframwaith cyfreithiol, gweinyddol a gweithredol i ddisodli'r Dreth Dirlenwi yng Nghymru ym mis Ebrill 2018. Mae'r Dreth Dirlenwi ar hyn o bryd yn dreth a godir gan y DU ar gael gwared ar ddeunydd fel gwastraff drwy ei roi mewn safleoedd tirlenwi a ganiateir o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol. Cyflwynwyd y dreth bresennol ym 1996 fel elfen allweddol i sbarduno newid mewn ymddygiad amgylcheddol drwy roi cymhelliant i ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi, gan ailgylchu, ailddefnyddio ac adennill mwy o wastraff. Ers i'r dreth gael ei chyflwyno, mae wedi cyfrannu at ostyngiad sylweddol yng nghyfran y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi, a chynnydd mewn cyfraddau ailgylchu. Y Bil hwn yw’r trydydd mewn cyfres o filiau sy'n ymwneud â datganoli’r pwerau treth yn Neddf Cymru 2014. Rhagflaenwyd y Bil hwn gan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a sefydlodd y fframwaith cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol a'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), a fydd yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp o fis Ebrill 2018. Ceir rhagor o wybodaeth am gefndir y Bil, trosolwg o'i rannau, crynodeb o'i oblygiadau ariannol, a geirfa Gymraeg yn y Crynodeb o'r Bil (PDF, 844KB) a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil. Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid adroddiad (PDF, 1MB) ar ei ystyriaeth o egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yng Nghyfnod Un ar 10 Mawrth 2017. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn pennu nifer o argymhellion gyda'r nod o gryfhau'r ddeddfwriaeth. Er enghraifft, byddai'r Pwyllgor yn hoffi gweld cyfraddau arfaethedig y trethi, rhestr o ddeunyddiau cymwys a darpariaethau ar gyfer rhyddhad ar ddyled ddrwg, wedi'u cynnwys ar wyneb y Bil. Er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â rhai o'r darpariaethau hyn, mae'r Pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus nad yw is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i'r un faint o waith craffu â Bil. Mae'r Pwyllgor hefyd yn credu bod angen sicrwydd ar fusnesau pan ddaw i ddefnyddio deddfwriaeth treth newydd, ac y byddai cynnwys manylion o'r fath yn y gyfraith ei hun yn helpu i fynd i'r afael â phryderon. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth sylweddol mewn perthynas â phwysigrwydd Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Cynllun Cymunedol yn cael ei gynnwys ar wyneb y Bil i ddangos ymrwymiad i'r cynllun wrth symud ymlaen, ond mae'n derbyn y gallai rhai o'r manylion gael eu pennu mewn rheoliadau. Trafododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol briodoldeb y darpariaethau yn y Bil o ran pwerau i greu is-ddeddfwriaeth. Hefyd, cyhoeddwyd ei adroddiad (PDF, 2MB) ar 10 Mawrth 2017. Yn amodol ar y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), bydd y Bil yn symud ymlaen at drafodion Cyfnod Dau (sef trafodaeth fanwl ar y Bil ac unrhyw welliannau a gynigir gan Bwyllgor). Disgwylir y bydd trafodion Cyfnod Dau wedi dod i ben erbyn 26 Mai 2017.
Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Llun: o Flickr gan Adam Levine. Dan drwydded Creative Commons.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Y Cynulliad i drafod egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) (PDF, 159KB)