Cyhoeddiad Newydd: Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Cyhoeddwyd 02/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Dydd Mawrth, 6 Tachwedd, bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).

Bydd y Bil yn gwahardd yr holl ffioedd sy'n gysylltiedig â rhoi, adnewyddu neu barhau â chytundeb meddiannu safonol ac eithrio'r rhai a ganiateir yn benodol gan y Bil. Nid yw contractau meddiannu safonol yn ymadrodd fydd yn gyfarwydd i lawer o bobl ar hyn o bryd, ond bydd yn disodli tenantiaethau byrddaliad sicr pan ddaw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym, yn ôl pob tebyg yn 2019.

Mae ymchwil Llywodraeth Cymru ei hun yn awgrymu bod y rhan fwyaf o asiantau gosod yn codi ffioedd ar denantiaid am ystod o wasanaethau, gan gynnwys gwiriadau credyd, rhestrau eiddo a ffioedd gweinyddu cyffredinol. Nid yw'r Bil yn rhestru'r holl daliadau a gaiff eu gwahardd (byddai cynhyrchu rhestr gynhwysfawr yn anodd iawn), ond, yn hytrach, mae'n rhestru'r taliadau a ganiateir - a elwir yn daliadau a ganiateir. Yr unig daliadau a ganiateir yn y Bil yw'r rhent, blaendal diogelu, blaendal cadw, wedi'i gyfyngu i rent wythnos, a thaliadau diofyn. Gall taliadau diofyn gynnwys pethau fel talu rhent yn hwyr a chost allweddi newydd os caiff y rhai gwreiddiol eu colli. Bydd y Bil hefyd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru osod uchafswm ar lefel y blaendaliadau diogelu rywbryd yn y dyfodol, os yw'n credu ei bod yn angenrheidiol, a diwygio'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ei gwneud yn ofynnol i asiantau arddangos eu ffioedd i denantiaid a landlordiaid (Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015).

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil. Cyhoeddodd ei adroddiad a'i argymhellion ddydd Gwener 26 Hydref. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ystod o randdeiliaid a chlywodd farn gyferbyniol am rinweddau'r ddeddfwriaeth. Er bod grwpiau tenantiaid, asiantaethau cynghori a rhanddeiliaid eraill sy'n gweithio gyda thenantiaid yn y sector rhentu preifat yn cefnogi'r Bil mewn sawl ffordd, nid oedd tystion a oedd yn cynrychioli asiantau gosod a landlordiaid yn credu y byddai'r Bil yn cyflawni nodau Llywodraeth Cymru. Tynnodd grwpiau tenantiaid sylw at y rhwystr ariannol y gall ffioedd ei greu o ran cael mynediad at neu symud o fewn y sector rhentu preifat, gan weld y Bil fel datblygiad cadarnhaol wrth fynd i'r afael â'r mater hwnnw. Fodd bynnag, cyfeiriodd asiantau gosod a landlordiaid at y tebygolrwydd o gynyddu rhenti ac effaith economaidd negyddol bosibl ar y sector asiantaeth osod, gan gynnwys colli swyddi.

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, ond mae ei adroddiad yn tynnu sylw at faterion sy'n peri pryder ac yn gwneud nifer o argymhellion. Mae rhai o'r pryderon y mae'n tynnu sylw atynt yn ymwneud ag effeithiolrwydd y darpariaethau gorfodi, gan gynnwys lefel y cosbau ariannol, a'r angen i sicrhau y dylai'r Bil, lle y gwneir taliadau gwaharddedig, ei gwneud hi mor syml â phosibl i'r rhain gael eu had-dalu. Roedd y Pwyllgor yn gweld rôl bwysig hefyd i Rhentu Doeth Cymru i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu'n effeithiol.

Mae adroddiad llawn ac argymhellion y Pwyllgor ar gael ar dudalen hafan y Bil. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil hefyd wedi cynhyrchu Crynodeb byr o'r Bil, sy'n rhoi trosolwg o gefndir y polisi a chanllaw fesul adran i'r Bil.

Mae’r papur hwn yn cynnwys crynodeb o’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).

Cyhoeddiad Newydd: Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) (PDF, 3280KB)


Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru