Cyhoeddiad newydd: Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Cyhoeddwyd 16/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Diben ac effaith arfaethedig Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yw disodli’r ddeddfwriaeth bresennol – Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (‘Deddf 2005’), ac mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer pwerau newydd ynglŷn â swyddogaethau ymchwilio’r Ombwdsmon, ymestyn rôl yr Ombwdsmon ynglŷn â gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion , a darpariaethau i bennu ffurf cwyn mewn canllawiau, a allai gynnwys cwynion llafar.

Cyhoeddiad newydd: Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (PDF, 1356KB)


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru