Cyhoeddiad newydd: Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - Crynodeb o Fil

Cyhoeddwyd 14/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r Crynodeb o Fil yma wedi’i baratoi i gynorthwyo’r Cynulliad i graffu ar y Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Bydd y Bil yn cyfyngu ar yr Hawl i Brynu (gan gynnwys yr Hawl i Brynu a Gadwyd a'r Hawl i Brynu a Estynnwyd) a'r Hawl i Gaffael yng Nghymru ac, yn y pen draw, yn dod â nhw i ben. Diben datganedig Llywodraeth Cymru y Bil yw diogelu stoc tai cymdeithasol Cymru ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu caffael cartrefi drwy'r farchnad dai. Mae o’r farn bod y dull hwn o weithredu’n seiliedig ar egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac y bydd hefyd yn annog awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd.

Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) (PDF, 2940KB)

Clawr i'r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - Crynodeb


Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.