Cynhaliwyd Araith y Frenhines ar 21 Mehefin 2017, yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2017. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi na fydd Araith y Frenhines y flwyddyn nesaf felly mae'r cynigion deddfwriaethol yn cwmpasu cyfnod o ddwy flynedd.
Mae'r araith yn cynnwys cynigion ar gyfer 19 darn o ddeddfwriaeth, y mae 8 ohonynt yn ymwneud â'r DU yn gadael yr UE. Mae yna 3 Bil drafft hefyd. Yn wahanol i areithiau blaenorol y Frenhines, mae mwyafrif y ddeddfwriaeth arfaethedig yn ymwneud â materion sydd wedi'u cadw i'r DU neu faterion Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, o ran amaethyddiaeth a physgodfeydd, mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn ymgynghori'n eang â'r gweinyddiaethau datganoledig ar raddau briodol unrhyw ddeddfwriaeth. Araith y Frenhines 2017 (PDF, 939KB)
Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.