Pierhead in Cardiff Bay

Pierhead in Cardiff Bay

Cyhoeddi data newydd am y rhai sy’n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau’r Senedd

Cyhoeddwyd 20/12/2023   |   Amser darllen munudau

Mae pwyllgorau’r Senedd yn rhan bwysig o ddemocratiaeth Cymru. Maent yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am yr hyn y mae’n ei wneud a’i wario, yn craffu ar gyfreithiau drafft, ac yn ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl Cymru.

Mae’r pwyllgorau’n dibynnu’n drwm ar dystiolaeth gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau i wneud eu gwaith. Mae hyn yn eu helpu i benderfynu ar y materion i ymchwilio iddynt, lle mae’r problemau, a beth yw’r atebion posibl. Mwya’n y byd o dystiolaeth y gellir ei chasglu gan bobl â safbwyntiau gwahanol, gorau’n y byd yw dealltwriaeth y pwyllgor o broblem benodol.

Pam mae pwyllgorau’n monitro amrywiaeth y dystiolaeth y maent yn ei chasglu?

Ers 2021, mae pwyllgorau’r Senedd wedi casglu data am y bobl a'r grwpiau sy’n rhoi tystiolaeth ysgrifenedig, yn rhoi tystiolaeth lafar mewn sesiynau pwyllgor, ac yn cymryd rhan yn y gwaith o ymgysylltu â dinasyddion.

Mae hyn yn eu helpu i ddeall pwy sy’n cyfrannu at waith y pwyllgorau. Mae hefyd yn eu helpu i weld pa leisiau sydd ar goll ac yn amlygu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag ymgysylltu. Caiff y data ei gasglu drwy gyfrwng arolwg gwirfoddol a anfonir at bawb sy'n cymryd rhan mewn gwaith pwyllgor.

Gallwch ddarllen mwy am y cynllun peilot a chanlyniadau cynllun peilot 1 yn erthygl y llynedd.

Mae'r erthygl hon yn crynhoi prif ganfyddiadau'r data a gasglwyd yng nghynllun peilot 2, rhwng mis Medi 2022 a mis Ebrill 2023.

Beth mae’r data’n ei ddweud wrthym?

  • Bu cynnydd sylweddol mewn cyfraddau ymateb, o 18% yng nghynllun peilot 1 i 41% yng nghynllun peilot 2 (sy’n cyfateb i 369 o ymatebion).
  • Cymerodd 74% o ymatebwyr ran mewn gwaith pwyllgor ar ran sefydliad, 19% yn rhinwedd eu swyddi, a rhoddodd 7% dystiolaeth bersonol.
  • Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr unigol (tua 60 y cant) a sefydliadau (tua 8 y cant) wedi cymryd rhan mewn gwaith pwyllgor o’r blaen.
  • Roedd yr ymatebion yn dangos gostyngiad mawr yn y nifer sy’n cyfrannu o bell – o 89% o ymatebwyr yng nghynllun peilot 1 (roedd rhywfaint o’r gwaith yn mynd rhagddo yn ystod cyfyngiadau COVID) i 41% yng nghynllun peilot 2.
  • Cyfrannodd cyfran gynyddol yn Saesneg yn unig (75% yng nghynllun peilot 1 a 90% yng nghynllun peilot 2).

Cynrychiolaeth sectoraidd

Mae'r graff canlynol yn dangos cyfran yr ymatebion arolwg ar gyfer pob sector ac yn nodi gwahaniaethau gyda data System Rheoli Busnes y Senedd.

Ymatebion i’r arolwg fesul sector (cliciwch ar bwynt bwled neu floc ar y graff)

 
 

Dywedodd 26% o’r ymatebwyr a gymerodd ran yn rhinwedd eu swydd neu ar ran sefydliad eu bod yn cynrychioli’r sector cyhoeddus – sy’n llai na’r 33% yng nghynllun peilot 1.

Roedd cynrychiolaeth dda o'r trydydd sector/sector gwirfoddol o hyd, sef 30% o ymatebwyr.

Roedd 14% o’r ymatebwyr yn cynrychioli cyrff proffesiynol ac undebau llafur sy’n uwch na’r 8% yng nghynllun peilot 1.

Roedd 11% o’r ymatebwyr yn dod o’r sector academaidd/ymchwil, sy’n uwch na’r 8% yng nghynllun peilot 1. Nid oedd tua hanner yr ymatebwyr hyn wedi cymryd rhan mewn gwaith pwyllgor o’r blaen.

Roedd y nifer y cyfrannwyr o’r sector preifat yn dal yn isel, sef llai na 5% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg (yr un fath â chynllun peilot 1). Fel cyfeirbwynt, mae 69% o weithlu Cymru yn cael eu cyflogi yn y sector preifat.

Daeth llai na 20% o’r dystiolaeth o ffynonellau eraill, gan gynnwys: Gweinidogion neu swyddogion o lywodraethau cenedlaethol neu ddatganoledig eraill; Aelodau o Senedd Cymru, eu staff cymorth neu staff y Comisiwn; cyrff diwydiant neu reoleiddwyr; grwpiau cymunedol neu grwpiau ymgyrchu; cynrychiolwyr grwpiau ieuenctid, disgyblion ysgol, myfyrwyr neu Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Nid yw gwerthoedd llai na 5% yn cael eu dangos er mwyn rheoli datgelu. Mae meintiau’r bocsys yn fras ar gyfer y sector preifat a grwpiau ffynonellau eraill.

Cynrychiolaeth ddaearyddol

Mae'r graff isod yn dangos canran yr ymatebwyr arolwg yn ôl ardal breswyl. Mae cymharu â chanran poblogaeth Cymru yn dangos a yw ardaloedd yn cael eu gorgynrychioli neu eu tangynrychioli.

Map a graff yn dangos dosbarthiad yr ymatebwyr arolwg o gymharu â'r boblogaeth yn ôl rhanbarthau Cymru. Gogledd Cymru: 9 y cant o'r ymatebion, 20 y cant o'r boblogaeth. Canolbarth a Gorllewin Cymru: 10 y cant o'r ymatebion, 18 y cant o'r boblogaeth. De-orllewin Cymru: 10 y cant o'r ymatebion, 18 y cant o'r boblogaeth. Canol De Cymru: 39 y cant o'r ymatebion, 23 y cant o'r boblogaeth. De-ddwyrain Cymru: 11 y cant o'r ymatebion, 21 y cant o'r boblogaeth. Lloegr: 18 y cant o'r ymatebion. Arall: 3 y cant o'r ymatebion.

Ffynhonnell: Y data ar gyfer ardaloedd etholaethol Senedd Cymru: 2021.

Mae 'arall' yn cynnwys yr Alban, y tu allan i'r DU, ac yn well ganddynt beidio â dweud.

Cynrychiolaeth ddemograffig

  • O’i gymharu â data Cyfrifiad Cymru 2021, roedd data’r arolwg yn dangos bod pobl 35-59 oed wedi’u gorgynrychioli.

Graff yn cymharu canran yr ymatebion i'r arolwg gyda chanran poblogaeth Cymru. Dan 35 oed: 16 y cant o’r ymatebion, 28 y cant o’r boblogaeth. 35-39 oed: 9 y cant o’r ymatebion, 7 y cant o’r boblogaeth. 40-44 oed: 12 y cant o’r ymatebion, 7 y cant o’r boblogaeth. 45-49 oed: 12 y cant o’r ymatebion, 7 y cant o’r boblogaeth. 50-54 oed: 18 y cant o’r ymatebion, 8 y cant o’r boblogaeth. 55-59 oed: 15 y cant o’r ymatebion, 9 y cant o’r boblogaeth. 60+ oed: 18 y cant o’r ymatebion, 34 y cant o’r boblogaeth.

  • Nododd 55% o’r ymatebwyr eu bod yn fenywod, o’i gymharu â 51% o boblogaeth Cymru. Fodd bynnag, roedd y ganran hon yn amrywio’n ôl y pwyllgor roeddent yn cyfrannu ato.

Graff o ymatebwyr oedd yn nodi eu bod yn fenywod, fesul pwyllgor. Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 27%. Economi, Masnach a Materion Gwledig, 31%. Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, 31%. Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 33%. Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, 42%. Llywodraeth Leol a Thai, 57%. Cyllid, 64%. Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 70%. Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 71%. Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 74%.

At hyn, roedd menywod tua'r un mor debygol â dynion o roi tystiolaeth lafar ond roedd mwy o lawer yn barod i roi tystiolaeth ysgrifenedig a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu.

Tystiolaeth lafar: benywaidd 49%, gwrywaidd 51%. Tystiolaeth ysgrifenedig: benywaidd 62%, gwrywaidd 37%. Gweithgareddau ymgysylltu: benywaidd 60%, gwrywaidd 40%.

  • Ni nododd yr un o’r ymatebwyr eu bod yn draws, o’i gymharu â 0.4% o boblogaeth Cymru.
  • Roedd gan 12% o’r ymatebwyr anabledd, o’i gymharu â 21% o’r boblogaeth. Roedd y rhain yn cynrychioli 7% o’r rhai a roddodd dystiolaeth lafar, 11% o'r rhai a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig, a 24% o'r rhai a gymerodd ran mewn gweithgareddau ymgysylltu.

Tystiolaeth lafar: Anabl 7%, Ddim yn anabl 93%. Tystiolaeth ysgrifenedig: Anabl 11%, Ddim yn anabl 89%. Gweithgareddau ymgysylltu: Anabl 24%, Ddim yn anabl 76%.

  • Nododd 92% o’r ymatebwyr mai eu grŵp ethnig oedd ‘Gwyn’, o’i gymharu â 94% o’r boblogaeth. 3% o’r ymatebwyr ddywedodd mai eu grŵp ethnig oedd Asiaidd Cymreig, Asiaidd neu Brydeinig Asiaidd (yn unol â'r boblogaeth), ac roedd 0-5% yn perthyn i bob un o’r grwpiau ethnig eraill (gan gynnwys grwpiau ethnig Cymysg/Aml-ethnig, Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, a grwpiau ethnig eraill). (Gweler y nodiadau data i gael rhagor o wybodaeth). Roedd 94% o'r ymatebwyr a roddodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig yn dweud eu bod yn Wyn, o’i gymharu ag 80% o bobl a gymerodd ran mewn gweithgareddau / ymweliadau ymgysylltu.

Tystiolaeth lafar/ysgrifenedig: pob grŵp ethnig arall 6%, gwyn 94%. Gweithgareddau ymgysylltu: pob grŵp ethnig arall 20%, gwyn 80%.

  • Nododd 49% o’r ymatebwyr mai eu hunaniaeth genedlaethol oedd Cymreig neu Gymreig a Phrydeinig, o’i gymharu â 63% o’r boblogaeth.
  • Dywedodd dros hanner (56%) yr ymatebwyr nad oedd ganddynt grefydd (o'i gymharu â 47% o'r boblogaeth). Roedd 41% yn Gristnogion, a’r ganran a oedd yn Fwslimiaid, Hindŵiaid, Bwdhyddion, Sikhiaid, neu’n perthyn i grefyddau eraill, oedd 0-5% (bob un).
  • Dywedodd 88% o'r ymatebwyr eu bod heterorywiol / syth, o'i gymharu ag 89% o'r boblogaeth. Dyweodd 5% o'r ymatebwyr eu bod yn hoyw neu’n lesbiaidd (o'i gymharu â 2% o'r boblogaeth), ac roedd 5% yn ddeurywiol (o'i gymharu ag 1% o'r boblogaeth).
  • Dywedodd 84% o’r ymatebwyr nad oedd ganddynt gyfrifoldeb dros ofalu am rywun oherwydd cyflyrau iechyd hirdymor, salwch neu broblemau cysylltiedig â heneiddio (ychydig yn uwch na’r 80% yng nghynllun peilot 1), o’i gymharu â 90% o'r boblogaeth.
  • Roedd y rhai sy'n cael eu haddysgu hyd at lefel gradd neu uwch yn parhau i gael eu gorgynrychioli, sef 95% o'r ymatebwyr, o'i gymharu â 32% o'r boblogaeth. Roedd y rhai sy'n cael eu cyflogi’n amser llawn, yn rhan amser, yn achlysurol neu’n afreolaidd hefyd yn cael eu gorgynrychioli, sef 88% o'r ymatebwyr, o'i gymharu â 54% o'r boblogaeth.
  • Roedd 20% o’r ymatebwyr o’r farn eu bod yn dod o gefndir difreintiedig, sy’n uwch na’r 15-20% yng nghynllun peilot 1. O’r ymatebwyr a gymerodd ran mewn gweithgareddau / ymweliadau ymgysylltu, roedd 30-35% o gefndir difreintiedig (o’i gymharu ag 19% o’r rhai a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig, ac 17% o’r rhai a roddodd dystiolaeth lafar).

Y profiad o roi tystiolaeth

  • Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr (91%) yn dweud eu bod yn fodlon neu’n fodlon iawn ar eu profiad o gymryd rhan mewn gwaith pwyllgor. Dywedodd 84% y byddent yn ‘debygol iawn' o gymryd rhan mewn gwaith pwyllgor eto, pe baent yn cael cyfle i wneud hynny, o’i gymharu â 76% yng nghynllun peilot 1.

Beth nesaf?

Ar 3 Gorffennaf, penderfynodd Fforwm y Cadeiryddion barhau i fonitro amrywiaeth yng nghyd-destun y rhai sy’n rhoi tystiolaeth i’r pwyllgorau dros weddill tymor y Senedd hon. Mae’r pwyllgorau hefyd yn ymgymryd â gwaith i wella’r canllawiau ynghylch cymryd rhan yn eu gwaith ac yn datblygu hyfforddiant newydd i staff sy'n cynorthwyo’r pwyllgorau.

Gallwch ddarllen mwy am y cynllun peilot.

Nodiadau am y data
  • Niw yw data sy'n ymwneud â llai na deg ymateb yn cael ei ddangos, a dangosir ystod data yn ei le.
  • Rhaid bod yn ofalus wrth gymharu â chynllun peilot 1 gan nad oes modd cymharu’r data’n uniongyrchol.
  • Nododd 89% o'r ymatebwyr eu bod yn hapus i gael eu holi amdanynt eu hunain, felly mae'r adran cynrychiolaeth ddemograffig yn seiliedig ar yr ymatebion hynny’n unig. Mae hefyd yn eithrio'r rhai a ddewisodd beidio ag ateb cwestiynau unigol neu a atebodd 'well ganddynt beidio â dweud'.
  • Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu.

Erthygl gan Hannah Johnson, Claire Thomas a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru