Cyfraith Mark Allen: Yr ymgyrch dros fesurau diogelwch dŵr

Cyhoeddwyd 02/12/2022   |   Amser darllen munudau

Bob blwyddyn, mae tua 400 o bobl yn boddi yn y DU. Yng Nghymru, mae 45 o farwolaethau cysylltiedig â dŵr bob blwyddyn ar gyfartaledd, ac mae’r gyfradd boddi damweiniol bron i ddwbl cyfradd y DU gyfan.

Dim ond 18 oed oedd Mark Allen pan fu farw ym mis Mehefin 2018 ar ôl neidio i mewn i gronfa ddŵr rewllyd ar ddiwrnod poeth. Mae’r teulu’n credu y gallai fod wedi cael ei achub pe bai cortyn taflu ar gael ger y dŵr.

Ers hynny, mae cortynnau taflu, sef rhaff wedi'i gosod yn llac mewn bag a fydd yn rhyddhau wrth ei agor, wedi cael eu gosod wrth y gronfa ddŵr lle y bu Mark farw. Yn ôl Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, i rywun sydd wedi syrthio i’r dŵr, gall y cortynnau hyn fod yn achubiaeth.

Mae mam Mark wedi bod yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon, addysgu’r cyhoedd a gweithredu i hyrwyddo diogelwch dŵr ac atal boddi. Mae hyn yn cynnwys deiseb i’r Senedd a gafodd dros 11,000 o lofnodion, gan arwain y Pwyllgor Deisebau i ymchwilio i wella diogelwch dŵr ledled Cymru.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar pam rydym yn mynd i mewn i'r dŵr, beth sy'n digwydd pan fyddwn yn mynd yn rhy ddwfn, a pha gamau sydd yna i fynd i'r afael â diogelwch dŵr. Mae hefyd yn edrych ar ba waith pellach sydd ei angen, fel y mae adroddiad y Pwyllgor Deisebau yn ei argymell.

Chwaraeon dwr yng Nghymru

Mae’r arfordir 1,680 milltir o hyd o amgylch Cymru yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd ar gyfer chwaraeon dŵr, a bu twf sylweddol mewn gweithgarwch awyr agored dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys padlfyrddio a nofio dŵr agored.

Nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn nofio dŵr agored (neu nofio 'dŵr oer' neu 'gwyllt') wedi cynyddu'n aruthrol yn ddiweddar, yn enwedig ers dechrau’r pandemig Covid-19. Mae gan Gymru lawer o lefydd i nofio, a hynny mewn dyfroedd arfordirol a mewndirol, afonydd, llynnoedd a nifer gyfyngedig o gronfeydd dŵr.

Mynd i mewn i ddŵr dwfn

Gall nofio diawdurdod mewn cronfeydd dŵr gael effeithiau angheuol. Mae'r peryglon y mae Dwr Cymru yn tynnu sylw atynt yn cynnwys:

  • mae strwythurau concrit neu fetel sy’n gudd o dan wyneb y dŵr yn gallu dechrau gweithio heb rybudd; ac
  • mae hyd yn oed y nofwyr cryfaf yn gallu mynd i drafferthion mawr yn y cerrynt iasoer.

'Sioc dŵr oer' yw'r effaith ar y corff o fynd i mewn i ddŵr 15°C ac is – gall arwain at foddi.

Dywedodd cwmnïau dŵr wrth y Pwyllgor Deisebau mai eu blaenoriaeth yw atal pobl rhag mynd i mewn i’r dŵr, ond roeddent yn cydnabod y gall hyn fod yn anodd gyda llawer o gyrff dŵr mawr, a milltiroedd o draethlin i’w reoli. Pwysleisiwyd:

…nad yw cronfeydd dŵr yn gyrff naturiol o ddŵr ac y dylid eu hystyried fel 'ffatrïoedd ar gyfer dŵr' gydag offer a pheiriannau cudd ac argloddiau dwfn.

Maint y broblem

Mae mwy na 1,750 o ddigwyddiadau cysylltiedig â dŵr sy’n gofyn am ymateb brys bob blwyddyn – tua phump y dydd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau chwilio ac achub a golau glas, ond nid yw’n cynnwys digwyddiadau sy’n galw am gymorth gan achubwyr bywydau ar draethau.

Eglurodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sydd â dyletswydd statudol i ymateb i ddigwyddiadau dŵr mewndirol, fod digwyddiad achub fel arfer yn cynnwys tua 20 o ddiffoddwyr tân. Gall hyn gynnwys arbenigwyr yn achub nofwyr neu bobl mewn cychod, er enghraifft.

Mae'n mae'n debygol y bydd y galw ar y gwasanaethau hyn yn cynyddu wrth i fwy o bobl fynd i'r dŵr.

Hyrwyddo diogelwch dŵr yng Nghymru

Gower beachMae Diogelwch Dŵr Cymru yn ffrwyth cydweithredu rhwng unigolion, cymunedau, elusennau a sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat sydd â diddordeb mewn diogelwch dŵr ac atal boddi. Eu nod yw lleihau nifer y marwolaethau a’r digwyddiadau yn ymwneud â dŵr. Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd y Strategaeth Atal Boddi gyntaf yng Nghymru.

Cafodd y strategaeth, sy’n cynnwys dyhead ar gyfer dim marwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr, ei datblygu mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw'r bartneriaeth hon wedi'i ffurfioli, ac mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid newid hyn fel bod modd darparu digon o arian i gyflawni'r strategaeth.

Hefyd, nid oes un o Weinidogion Cymru â chyfrifoldeb am atal boddi a diogelwch dŵr. Gall hyn achosi problemau o ran llunio polisïau a hefyd ariannu atebion, yn enwedig gan fod cylch gorchwyl y Strategaeth Atal Boddi yn eang ac yn drawsadrannol. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn neilltuo Gweinidog i roi arweinyddiaeth glir a chydgysylltu gwaith diogelwch dŵr ac atal boddi.

Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddiogelwch dŵr

Mae addysg yn hanfodol i atal boddi. Un o brif dargedau’r Strategaeth Atal Boddi yw sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddysgu nofio a chael addysg diogelwch dŵr yn yr ysgol gynradd. Clywodd y Pwyllgor:

…more children die, sadly, in the water than on bikes and in fires, yet there are really established cycling proficiency and fire prevention campaigns in schools, and education has also halved the number of road fatalities

O amgylch cronfeydd dŵr, mae arwyddion yn chwarae rhan allweddol o ran atal, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ac addysgu'r cyhoedd am beryglon dyfroedd oer a dwfn.

Gwnaeth y Pwyllgor argymhellion i Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, gan gynnwys:

  • rhaglen addysg a diogelwch dŵr gydlynol mewn ysgolion, wedi’i darparu o oedran ifanc;
  • dylai Llywodraeth Cymru sicrhau “eglurder ynghylch y gofynion sylfaenol o ran gwybodaeth diogelwch ac arwyddion o amgylch cyrff o ddŵr”; a
  • datblygu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Y teuluoedd y mae hyn wedi effeithio arnynt

Drwy’r ymchwiliad hwn, fe wnaeth aelodau o’r Pwyllgor Deisebau gwrdd â theuluoedd sydd wedi profi effaith ddinistriol colli un o’u hanwyliaid drwy foddi. Dywedodd un cyfrannwr:

My brother drowned a long time ago, and it was said that there wasn’t enough safety equipment around that harbour around that time. I’m horrified that even 50 years later, this is still a problem.

Gallwch wylio'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Senedd TV.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru