Cafwyd ymateb cryf i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi amaethyddol newydd – y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - yn gynharach eleni. Gwelwyd miloedd o welingtons ffermwyr ar risiau’r Senedd mewn protest, a phrotestiadau gyrru’n araf mewn tractorau yn y newyddion.
Ym mis Mai, gwnaeth Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a benodwyd yn ddiweddar, benderfynu gohirio cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy o 2025 i 2026. Bydd y flwyddyn nesaf yn gweld 'Cyfnod Paratoi' i ddatblygu'r cynigion ymhellach, wedi'i lywio gan Ford Gron y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnwys rhanddeiliaid.
Cynhaliodd dau o bwyllgorau’r Senedd ymchwiliadau i gynigion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y gwanwyn. Gallwch ddarllen eu hadroddiadau yma:
- Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig;
- Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Edrychodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig hefyd ar barodrwydd Cyswllt Ffermio i gefnogi’r broses o bontio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae'r erthygl hon yn nodi gwaith y pwyllgorau ac ymateb Llywodraeth Cymru. Mae erthygl a briff ymchwil blaenorol yn rhoi gwybodaeth gefndirol bellach. Mae erthygl wadd hefyd yn edrych ar gymariaethau â chynlluniau yn Lloegr.
Dylunio - gwobrwyo ffermwyr am reoli tir yn gynaliadwy
Mae’r cynigion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gwyro’n sylweddol oddi wrth Gynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin a etifeddwyd gan yr UE, gyda mwy o bwyslais ar wobrwyo gweithredoedd i gyflawni Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
Roedd yr ymgynghoriad diweddaraf, a gaeodd ym mis Mawrth 2024, yn cynnig strwythur haenog i’r cynllun. Byddai'n ofynnol i bob ffermwr sy'n cymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gyflawni 17 o 'Weithredodd Sylfaenol' (llawer ohonynt yn rhai amgylcheddol) er mwyn cael 'Taliad Sylfaenol Cyffredinol'.
Yn seiliedig ar hynny, byddai gweithredoedd 'Opsiynol' a 'Chydweithredol' mwy cymhleth nad ydynt yn orfodol ar gael ar haen uwch ac yn fodd iddynt gael cymorth pellach.
Roedd rheolau’r cynllun, sy’n ofynnol ar gyfer cymryd rhan, yn cynnwys:
- o leiaf 10 y cant o bob fferm yn cael ei reoli fel cynefin; a hefyd
- o leiaf 10 y cant o dan orchudd coed fel coetir neu goed unigol.
Roedd y dull talu arfaethedig yn seiliedig ar 'gostau a wariwyd ac incwm a gollwyd' a hefyd taliad 'gwerth cymdeithasol' ychwanegol. Fodd bynnag, ni ddarparwyd unrhyw lefelau taliadau na chyllideb ar gyfer y cynllun, ac nid ydynt yn hysbys o hyd.
Ymateb – ofnau na fyddai'r cynllun yn denu ffermwyr
Dull talu
Clywodd y ddau bwyllgor Senedd bryderon gan ffermwyr a grwpiau amgylcheddol y gallai methu â gwobrwyo’n ddigonol arwain at ddiffyg diddordeb yn y cynllun.
Roedd pryderon y byddai'r dull 'costau a wariwyd ac incwm a gollwyd' yn niwtraleiddio costau yn unig ac felly'n rhoi dim incwm ystyrlon, a bod y taliad 'gwerth cymdeithasol' yn rhy gymhleth. Galwodd grwpiau amgylcheddol am gyllid digonol ar gyfer haenau uwch y cynllun - er mwyn sicrhau'r canlyniadau amgylcheddol gorau posibl.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn trafod opsiynau ar gyfer y dull talu gyda grwpiau rhanddeiliaid y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ddiweddarach eleni. Ymrwymodd i ymgorffori 'gwerth cymdeithasol' yn y taliad. Derbyniodd hefyd argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i ystyried ‘talu am ganlyniadau’ (gwobrwyo canlyniadau yn lle gweithredoedd) – yn enwedig ar gyfer yr haenau uwch.
Haenau gweithredu
Dywedodd yr undebau ffermio wrth y pwyllgorau y byddai’r 17 o Weithredoedd Sylfaenol yn rhy feichus a biwrocrataidd yn eu barn hwy.
Roedd pryderon eang na fyddai'r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol ar gael adeg lansio'r cynllun, ond yn ddiweddarach yn ystod cyfnod pontio, gan eu bod yn cael eu datblygu o hyd. Tynnodd rhanddeiliaid sylw felly at y rhai sydd eisoes yn gwneud mwy dros yr amgylchedd a fyddai yng nghefn y ciw o ran cael eu gwobrwyo.
Ymrwymodd yr Ysgrifennydd Cabinet i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynlluniau ar gyfer y cynllun i'r ddau bwyllgor. Fodd bynnag, nid oedd yn cytuno â’r diweddariadau bob tri mis neu bob tymor a gynigiwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, yn y drefn honno, gan ffafrio un diweddariad cyn diwedd 2024 yn lle hynny.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinetwrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei fod yn cydnabod pwysigrwydd yr haenau uwch, gan nodi gwerth yr haen gydweithredol ar gyfer gwaith bioamrywiaeth ar raddfa tirweddau.
Newydd-ddyfodiaid
Ystyriodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig farn rhanddeiliaid (e.e. Clybiau Ffermwyr Ifanc) na fyddai'r cynllun yn cefnogi ffermwyr ifanc/newydd-ddyfodiaid i ffermio. Cododd bryderon ynghylch colli ffermydd awdurdodau lleol, sy’n cynnig llwybr i ddechrau ffermio.
Siaradodd yr Ysgrifennydd Cabinet am ei ymrwymiad i gyflwyno cynllun sy’n hygyrch i’r holl ffermwyr a thynnodd sylw at ei farn bod y cynigion yn cynnwys cael gwared ar rwystrau i newydd-ddyfodiaid.
Tenantiaid, tir comin a ffermwyr organig
Archwiliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig pa mor hygyrch fyddai'r cynllun i wahanol fathau o ffermio. Dywedodd y Gymdeithas Ffermwyr Tenant nad oedd y cynllun arfaethedig yn ymarferol i ffermwyr tenant neu dir comin oherwydd cyfyngiadau yn eu cytundebau/hawliau a chyfraith tenantiaeth. Nododd y Gymdeithas fod 30 y cant o Gymru’n cael ei ffermio gan rywun ar wahân i’r tirfeddiannwr.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod y cynllun wedi'i gynllunio i fod yn addas ar gyfer ffermwyr tenant e.e. roedd y meini prawf cymhwysedd yn cynnwys y 'ffermwr gweithredol'. Dywedodd “Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw rwystr unigryw i ffermwyr tenant ond rydym yn profi cynigion diwygiedig yn erbyn eu gofynion”.
Aeth ymlaen i ddweud bod dod o hyd i safbwynt derbyniol ar gyfer tir comin yn flaenoriaeth a’i fod yn ystyried y posibilrwydd y gallai porwyr gymryd rhan mewn Cytundeb Tir Comin - a chael mynediad at gyllid sy'n cyfateb i'r Taliad Cyffredinol drwy eu pori cyfunol.
Pwysleisiodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith na ddylai newidiadau i'r cynllun i ganiatáu i wahanol fathau o ffermio gael mynediad ato beryglu uchelgais amgylcheddol y cynllun, ac roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn hyn.
Clywodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am ddiffyg cymhelliad i ffermwyr organig ymuno â’r cynllun, yn enwedig o ystyried yr oedi disgwyliedig i’r haenau lefel uwch. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar gynlluniau eraill yn Ewrop. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod y Llywodraeth yn ystyried sut orau i wobrwyo ffermwyr organig ac yn edrych i Ewrop ac yn ceisio cyngor gan Fforwm Organig Cymru.
Carbon a bioamrywiaeth
Mae rheolau'r cynllun sy'n gwneud gorchudd coed a mesurau rheoli cynefinoedd yn ofynnol wedi bod yn ganolog yn y ddadl. Mae rhai ffermwyr yn ofni y gallai hyn gymryd gormod o dir y gellid ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu.
Mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill (fel y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur) wedi dadlau y gallai rheolau'r cynllun gael eu hintegreiddio mewn systemau amaethyddol, gan arwain at fuddion o ran cynhyrchiant amaethyddol. Er enghraifft, gallai coed weithredu fel lleiniau cysgodi a lliniaru llifogydd.
Clywodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith fod rhywfaint o gamddeall ynghylch y gofynion o ran plannu coed ac argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â hyn a hyrwyddo manteision integreiddio coed a chynefinoedd mewn systemau cynhyrchiol.
Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd y byddai unrhyw newidiadau i’r rheol plannu coed yn dal i gyflawni targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed. Argymhellodd y dylai’r Llywodraeth geisio cyngor gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU. Derbyniodd yr Ysgrifennydd Cabinet yr argymhellion.
O ran bioamrywiaeth, gofynnodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am sicrwydd y byddai unrhyw newidiadau i'r rheol 10 y cant ar gyfer cynefinoedd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni ymrwymiadau bioamrywiaeth gan gynnwys y targedau byd-eang ar gyfer 2030. Galwodd ar i’r cynllun gefnogi ystod amrywiol o gynefinoedd. Galwodd y Pwyllgor hefyd am sicrhau bod ffermwyr sydd â Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) o fewn eu tir yn cael eu gwobrwyo’n deg. Derbyniodd yr Ysgrifennydd Cabinet yr argymhellion a chyhoeddodd ym mis Gorffennaf y byddai tir SoDdGA yn cael ei gynnwys yn y Taliad Sylfaenol Cyffredinol.
Cyswllt Ffermio
Mae rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at yr angen am wasanaeth cynghori priodol i roi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar waith. Dylai’r rhaglen Cyswllt Ffermio fod yn allweddol ac ystyriodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig faterion fel strwythur y rhaglen; ariannu; newydd-ddyfodiaid; a ffermydd arddangos. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb, yn amlinellu gwaith i baratoi'r diwydiant ar gyfer trosglwyddo i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Camau nesaf – paratoi ar gyfer lansio’r cynllun yn 2026
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau cychwynnol ar gyfer datblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ymhellach, ac yn bwriadu cyhoeddi manylion terfynol yr haf nesaf. Bydd y Senedd yn trafod adroddiadau’r ddau bwyllgor ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Gyswllt Ffermio, gyda’i gilydd yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Hydref. Gallwch wylio’r trafodion ar Senedd TV.
Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru