Cafodd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ei osod ar 4 Gorffennaf a dyma’r bil cydgrynhoi cyntaf i ddod gerbron y Senedd.
Mae bil cydgrynhoi yn dod â deddfwriaeth bresennol ynghyd mewn un ddeddf i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch. Gall foderneiddio maes o’r gyfraith i’w wneud yn haws ei ddeall a’i gymhwyso, ond rhaid iddo beidio â gwneud unrhyw newidiadau polisi, na chyflwyno unrhyw bolisi newydd.
Ym mis Mehefin 2016 argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylid cydgrynhoi a chodeiddio meysydd sylweddol o gyfraith Cymru. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion hyn, a chyflwynodd Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo adolygu hygyrchedd cyfraith Cymru yn barhaus.
Ym mis Medi 2021 gosododd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, y rhaglen gyntaf i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Pam mae angen biliau cydgrynhoi?
Mae’r dirwedd gyfreithiol yng Nghymru yn gymhleth ac yn anodd ei deall. Mae haenau o ddeddfwriaeth wedi datblygu dros amser, yn aml gyda gwahaniaethau ac anghysondebau rhyngddynt. Mae deddfau’r DU sy’n effeithio ar Gymru yn aml yn ddegawdau oed, ac yn dyddio yn ôl i’r cyfnod cyn creu’r Cynulliad Cenedlaethol (ei enw ar y pryd) ym 1999. O ganlyniad, yn aml nid yw'r iaith yn adlewyrchu'r pwerau ychwanegol sydd wedi eu datganoli i Gymru.
Mae llawer o'r ddeddfwriaeth hefyd ar gael yn Saesneg yn unig. Er mwyn i gyfraith Cymru fod yn hygyrch, mae’r Ddeddf yn dweud y dylai fod ar gael i’r cyhoedd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud y bydd cydgrynhoi nifer o wahanol ddeddfau mewn “un Ddeddf sydd wedi'i drafftio'n dda ac yn ddwyieithog” yn “un o'n dulliau mwyaf effeithiol o wella hygyrchedd cyfraith Cymru.” Yn ogystal â deddfwriaeth ynghylch yr amgylchedd hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn paratoi bil cydgrynhoi ar gyfer cyfraith cynllunio.
Beth yw gweithdrefnau'r Senedd ar gyfer craffu ar filiau cydgrynhoi?
Mae bil cydgrynhoi yn ddarostyngedig i weithdrefnau arbennig yn y Senedd. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Rheolau Sefydlog y Senedd, a ddiweddarwyd yn ystod y Bumed Senedd i gynnwys rheolau penodol ar gyfer biliau cydgrynhoi.
Gall bil cydgrynhoi gael ei gyflwyno gan aelod o'r llywodraeth, a rhaid cynnwys esboniad o sut y mae'r gyfraith wedi'i hailgyflwyno. Rhaid i'r Senedd sefydlu 'pwyllgor cyfrifol' i graffu ar y bil. Ym mis Mai 2021 cafodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei benodi i'r rôl hon.
Mae'r rheolau sefydlog yn nodi'r hyn y gellir ei gynnwys mewn bil cydgrynhoi. Mae’r rhain yn cynnwys ail-rifo ac aildrefnu darpariaethau, mabwysiadu terminoleg newydd sy’n adlewyrchu datganoli neu newidiadau eraill, ac egluro ystyr arfaethedig y gyfraith bresennol. Gall y bil hefyd ddileu neu hepgor darpariaethau anarferedig.
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried a yw bil cydgrynhoi yn bodloni'r gofynion, ac nad yw'n mynd yn rhy bell o ran newid neu gyflwyno polisïau newydd.
Mae'r camau ar gyfer bil cydgrynhoi yn wahanol i filiau arferol. Rhaid i fil cydgrynhoi fynd drwy'r camau a ganlyn cyn dod yn gyfraith.
- Ystyriaeth gychwynnol: mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried ac yn cyflwyno adroddiad ynghylch a ddylai'r Bil fynd rhagddo fel bil cydgrynhoi. Yna caiff yr adroddiad hwn ei drafod yn y Cyfarfod Llawn, ac os cytunir arno mae’r Bil yn symud ymlaen i’r cam nesaf.
- Ystyriaeth fanwl y Pwyllgor: mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried gwelliannau i'r Bil a gyflwynwyd gan unrhyw Aelod o'r Senedd. Ar ôl y cam hwn, rhaid i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ynghylch a ddylai'r bil cydgrynhoi fynd ymlaen i'r cam nesaf.
- Ystyriaeth fanwl y Senedd: gall y Pwyllgor argymell bod y Senedd yn ystyried gwelliannau, neu fod y bil yn mynd yn syth i'r cam craffu terfynol.
- Cam olaf: caiff y mesur ei drafod a phleidleisir arno yn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd. Os bydd mwyafrif o’r Aelodau’n pleidleisio o blaid y Bil bydd yn cael ei wneud yn gyfraith.
Beth yw'r dirwedd bolisi bresennol ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol?
Mae cyfraith ynglŷn â’r amgylchedd hanesyddol wedi'i chynnwys yn bennaf yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Mae'r rhan fwyaf o Ddeddf 2016 yn diwygio dau ddarn o ddeddfwriaeth y DU, sef Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archeolegol 1979 a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
Mae Deddf 2016 yn darparu ar gyfer gwarchod a datblygu'r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy. Y prif ddulliau ar gyfer hyn yw "rhestru" adeiladau, a "chofrestru" henebion.
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw rhestr o adeiladau sy’n bodloni ei meini prawf cyhoeddedig, sef bod o “ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig”. Ar ôl cael eu rhestru, gwarchodir yr adeiladau hyn yn well o dan y system gynllunio: dim ond mewn amgylchiadau cul y rhoddir caniatâd i’w dymchwel, ac mae newidiadau i'r adeiladau hyn yn destun rheolaethau ychwanegol. Mae dros 30,000 o adeiladau a strwythurau ar y rhestr, yn amrywio o eglwysi i flychau ffôn.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal rhestr o henebion sy’n bodloni ei meini prawf o “bwysigrwydd cenedlaethol”. Mae'n drosedd i ddifrodi heneb gofrestredig neu ymgymryd â gwaith heb ganiatâd priodol. Mae tua 4,200 o henebion cofrestredig, yn amrywio o feini hirion i strwythurau milwrol o’r 20fed ganrif.
Yn ogystal â diwygio agweddau ar Ddeddfau 1979 a 1990, mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn cynnwys nifer o ddarpariaethau annibynnol. Mae un yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chynnal rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru. Mae un arall yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a diweddaru cofnod amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cymryd cwestiynau gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Bil ar 11 Gorffennaf 2022. Gallwch wylio'r sesiwn yn fyw ar Senedd TV.
Bydd y Pwyllgor yn dechrau ei waith craffu ar y Bil yn yr hydref.
Erthygl gan Philip Lewis and Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru