Cyflogaeth yn y Sector Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 12/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae lefelau a chyfraddau cyflogaeth yn y sector cyhoeddus ar draws cenhedloedd y Deyrnas Unedig wedi newid ers 2008, gyda newidiadau penodol i'w gweld dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ei Rhagolwg Ariannol ac Economaidd ym mis Mawrth 2013, (Saesneg yn unig) roedd Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y byddai lleihad o oddeutu 1 filiwn mewn cyflogaeth yn y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol (a elwir hefyd yn Gyflogaeth Gyffredinol y Llywodraeth) ar draws y DU rhwng 2010-11 a 2017-18.  Mae hyn yn ostyngiad o oddeutu 18.6 y cant yng Nghyflogaeth Gyffredinol y Llywodraeth yn y DU. O'i chymharu â chenhedloedd eraill y DU, yn hanesyddol mae canran cymharol uchel o'r gweithlu yng Nghymru yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, gyda dim ond Gogledd Iwerddon â chyfradd uwch. O'r herwydd, mae gostyngiadau yn y gyflogaeth yn y sector cyhoeddus yn debygol o effeithio'n fawr iawn ar economi Cymru. Er nad oes rhagolygon tebyg i ffigurau'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gael mewn perthynas â Chymru, pe bai gostyngiad tebyg yng Nghyflogaeth Gyffredinol y Llywodraeth yn digwydd ar sail ffigurau 2011, gallai hyn arwain at golli oddeutu 58,800 o swyddi yn y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yng Nghymru rhwng 2011 a 2018. Byddai hyn yn cynrychioli gostyngiad o 4.5 y cant yng nghyfanswm y gyflogaeth yng Nghymru, gan gymryd bod lefelau cyflogaeth yn y sector preifat a'r corfforaethau cyhoeddus, fel y Post Brenhinol, yn aros yr un fath. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi Dadansoddiad Rhanbarthol o Gyflogaeth yn y Sector Cyhoeddus (Saesneg yn unig) bob blwyddyn, sy'n defnyddio ffigurau cyflogaeth yn y sector cyhoeddus o'r ail chwarter ym mhob blwyddyn fel fformiwla cyllido cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yn flynyddol. O edrych ar y ffigurau hyn, mae modd dadansoddi newidiadau yn y lefelau a'r cyfraddau cyflogaeth yn y sector cyhoeddus.
  • Mae nifer y bobl a gaiff eu cyflogi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi lleihau o 355,000 yn 2008 a 334,000 yn 2012. Mae hwn yn lleihad o 21,000 o bobl neu 5.9 y cant.
  • O genhedloedd y DU, yn Lloegr yr oedd y lleihad mwyaf o ran cyflogaeth yn y sector cyhoeddus, gyda gostyngiad o 9.6 y cant rhwng 2008 a 2012, ac yng Ngogledd Iwerddon yn unig yr oedd gostyngiad llai na Chymru, sef 4.4 y cant.
Newid yn y gyflogaeth yn y sector cyhoeddus yng nghenhedloedd y DU rhwng 2008 a 2012 welsh graph 1 Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r Gwasanaeth Ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol Y gyfradd gyflogaeth yn y sector cyhoeddus yw'r canran o bobl 16 oed a throsodd sydd mewn cyflogaeth sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus.
  • Mae'r gyfradd gyflogaeth yn y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi gostwng o 27.3 y cant i 25.6 y cant rhwng 2008 a 2012. Mae hwn yn ostyngiad o 1.7 pwynt canran. 
  • Roedd gostyngiadau pwynt canran mwy yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, ond gostyngiad pwynt canran llai yn Lloegr.
Cyfraddau cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yng nghenhedloedd y DU, rhwng 2008 a 2012.

welsh graph2

Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r Gwasanaeth Ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol Mae rhagor o wybodaeth ystadegol ar gael yn y nodyn ymchwil ar Gyflogaeth yn y Sector Cyhoeddus a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gwasanaeth Ymchwil.
Erthygl gan , Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru