Cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru: gwell cydbwysedd?

Cyhoeddwyd 01/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw 'Balance for Better'. Rhagwelodd adroddiad blynyddol Fforwm Economaidd y Byd ar gynnydd mewn perthynas ag anghydraddoldeb rhywiol byd-eang y bydd yn cymryd 61 mlynedd i gau'r bwlch rhwng y rhywiau yng Ngorllewin Ewrop ar y raddfa bresennol o newid, gydag anghydraddoldeb parhaus yn y gweithle ac mewn cynrychiolaeth wleidyddol.

Mae Fforwm Economaidd y Byd yn mesur y bwlch rhwng y rhywiau gan ddefnyddio ystod o feincnodau ar feini prawf ym meysydd yr economi, addysg, iechyd a gwleidyddiaeth, ac mae'n llunio rhestr o safleoedd fesul gwlad sy'n caniatáu cymharu effeithiol ar draws rhanbarthau a grwpiau incwm.

A yw Cymru'n wlad gyfartal?

Dydd Gwener 8 Mawrth yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a chynhelir dadl flynyddol y Cynulliad ar gydraddoldeb rhywiol ddydd Mawrth 5 Mawrth.

Gellir darllen dau adroddiad ar gydraddoldeb rhywiol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ystod y misoedd diwethaf ochr yn ochr â'r erthygl hon:

  • Adroddiad ’A yw Cymru'n decach? 2018’ gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (a’r data ategol), sy’n ystyried nodweddion eraill ochr yn ochr â rhyw y person (megis hil, anabledd, oedran ac ati),
  • ac adroddiad ar Gyflwr y Genedl 2019 gan Chwarae Teg, sy'n cynnig dadansoddiad manylach o fenywod yn yr economi, cynrychiolaeth a menywod sydd mewn perygl.

Yn 2017 lansiodd y Gwasanaeth Ymchwil set o ddangosyddion cydraddoldeb rhywiol i Gymru er mwyn rhoi darlun o anghydraddoldeb yng Nghymru yn seiliedig ar yr ystadegau diweddaraf.

Eleni rydym wedi diweddaru'r dangosyddion eto (lle mae data newydd ar gael) ac wedi crynhoi’r meysydd lle mae cydraddoldeb wedi cynyddu neu ostwng.

Mae rhai setiau data (megis canran y bobl oedran gwaith sy'n hawlio budd-daliadau allan o waith) wedi dod i ben. Nid yw’n bosibl cymharu data arall rhwng blynyddoedd oherwydd newidiadau i’r casgliadau data (megis ystadegau ar ddigartrefedd).

  • Gweithgaredd economaidd: mae'r bwlch rhwng cyfraddau gweithgarwch economaidd dynion a menywod wedi gostwng ychydig, o 79.9 y cant yn 2017 i 84.4 y cant yn 2018 i ddynion, a 73.1 y cant yn 2017 i 74.9 y cant yn 2018 i fenywod. Ddeng mlynedd yn ôl, cyfradd y gweithgarwch economaidd i fenywod yng Nghymru oedd 68.6 y cant, a'r gyfradd i ddynion oedd 79.7 y cant (mae’r ystadegau hyn i gyd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr).
  • Tâl: gwnaeth y bwlch rhwng cyflogau dynion a menywod ostwng mewn dau fesur (yr holl waith a gwaith rhan-amser), ond cynyddodd y bwlch ychydig ar gyfer gwaith amser llawn. Roedd canolrif y bwlch cyflog fesul awr rhwng dynion a menywod (ar gyfer yr holl waith) yn £1.65 yr awr yn 2018, o’i gymharu â £1.81 yn 2017.
  • Diweithdra: Gwnaeth cyfradd ddiweithdra'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol ostwng i fenywod (o 4.8 y cant i 4.1 y cant) ond cynyddodd ychydig i ddynion (o 4.8 y cant i 5.1 y cant) rhwng 2017 a 2018.
  • Cyflogaeth ran amser: Roedd 14.7 y cant o ddynion 16 mlwydd oed a hŷn yn gweithio’n rhan-amser yn ystod 2018, o'i gymharu â 42.8 y cant o fenywod.
  • Hunangyflogaeth: roedd y gyfradd hunangyflogaeth i fenywod yn 9.4 y cant yn ystod 2018, o'i gymharu â 18.8 y cant i ddynion - cynnydd o 0.2 pwynt canran ers 2017 ar gyfer y ddau.
  • Entrepreneuriaeth: yn ôl Monitor Entrepreneuriaeth y Byd, gwnaeth ‘cyfanswm y gweithgaredd entrepreneuriaid cyfnod cynnar’ (sef y ganran o'r boblogaeth oedran gweithio sydd ar fin dechrau gwaith entrepreneuraidd neu sydd wedi dechrau yn ystod y 3.5 mlynedd flaenorol) ostwng i fenywod o 5.8 y cant yn 2016 i 3.8 y cant yn 2017, ac o 9.5 y cant i 8.8 y cant i ddynion.
  • Hunanladdiad: cynyddodd y gyfradd hunanladdiad am bob 100,000 o bobl deng mlwydd oed ac yn hŷn o 20.0 i 20.9 i ddynion rhwng 2016 a 2017, a chynyddodd o 4.0 i 5.8 i fenywod.
  • Pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg nac hyfforddiant (NEETs): cynyddodd y gyfradd NEET ar gyfer menywod rhwng 16 a 18 oed o 8.1 y cant i 8.6 y cant rhwng 2016 a 2017, a gostyngodd ar gyfer dynion rhwng 16 a 18 oed o 12.8 y cant i 10.5 y cant. Ar gyfer dynion rhwng 19 a 24 mlwydd oed, gostyngodd y gyfradd o 17.9 y cant i 15.7 y cant, a gostyngodd o 19.1 y cant i 16.8 y cant ar gyfer menywod.
  • Digartrefedd: mae'r ffordd y mae data digartrefedd yn cael ei gasglu wedi newid. Mae’r data newydd yn dangos bod menywod yn fwy tebygol o fod yn gymwys i gael cymorth i atal digartrefedd, a bod dynion yn fwy tebygol o fod â dyletswydd i'w helpu i brynu cartref, neu i fod yn gymwys ond heb fod ag angen blaenoriaethol.
  • Cam-drin domestig: Yn ystod 2016 a 2017 roedd 9.3 y cant o fenywod 16 mlwydd oed ac yn hŷn a 5.8 y cant o ddynion wedi profi cam-drin domestig yn y 12 mis diwethaf, gostyngiad o 10.7 y cant i fenywod a chynnydd o 5.3 y cant i ddynion yn ystod 2013 a 2014.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

Y llynedd, comisiynwyd Chwarae Teg gan Lywodraeth Cymru i gynnal 'adolygiad cyflym' o bolisïau cydraddoldeb rhywiol o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn deall y materion ac awgrymu atebion. Cyhoeddwyd y cylch gorchwyl ar gyfer dau gyfnod yr adolygiad cyflym ym mis Ebrill 2018.

Cafodd Cam un o'r adolygiad ei gyhoeddi ar 10 Gorffennaf 2018 ochr yn ochr ag ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn trafod arfer da rhyngwladol. Gwnaeth yr adroddiad amrywiaeth o argymhellion, a thrafodwyd detholiad ohonynt yn fanylach yn ein herthygl flaenorol.

Disgwylir i Gam 2 o'r adolygiad ddod i ben erbyn mis Gorffennaf 2019, ac mae Chwarae Teg wrthi'n cynnal cyfres o drafodaethau bord gron i lywio ei waith. Diben Cam 2 yw datblygu map ffordd i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru yn y tymor byr, canolig a hir, ar draws pob rhan o Lywodraeth Cymru.


Erthygl gan Hannah Johnson ac Joe Wilkes, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru