Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon – 30/06/2026

Cyhoeddwyd 30/06/2026   |   Amser darllen munudau

Cwestiynau'r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi'r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

Isod mae canllaw cyflym i'r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi'i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau i’w gweld yma.

Gallwch wylio'r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 1:30pm ar Senedd.tv.

Cwestiwn: Francesca O'Brien AS sy’n gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio yn y sector addysg.

Gwybodaeth: Ystyriodd un o bwyllgorau’r Chweched Senedd recriwtio a chadw athrawon. Mae trosolwg o'r ymchwiliad a'i ganfyddiadau yn ein erthygl a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.


Cwestiwn: Natasha Asghar AS sy’n gofyn am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o ryw biolegol.

Gwybodaeth: Mae gwybodaeth am y dyfarniad ar gael ym mriff ymchwil Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin.


Cwestiwn: Laura Anne Jones AS sy’n gofyn am gamau gweithredu i gryfhau diogelwch bwyd.

Gwybodaeth: Mae ein erthygl a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn trafod ansicrwydd bwyd, gwydnwch, niferoedd da byw, capasiti prosesu, ac yn galw am strategaeth fwyd gydgysylltiedig.


Cwestiwn: Mike Hedges AS sy’n gofyn am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid.

Gwybodaeth: Roedd Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021 i 2026, gan Lywodraeth Cymru, yn nodi ei dull o wella lles anifeiliaid, gyda diweddariadau cynnydd yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yn ddiweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun newydd iechyd a lles anifeiliaid.


Cwestiwn: Becca Martin AS sy’n gofyn am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr di-dâl.

Gwybodaeth: Cynhaliodd Chweched Pwyllgor y Senedd ymchwiliad i wella mynediad at gefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Canfu fod gofalwyr di-dâl yng Nghymru ‘ar y dibyn’, ac nad yw’r hawliau a’r gefnogaeth a addawyd yn cael eu cyflawni’n ymarferol.


Cwestiwn: Sera Evans AS sy’n gofyn i'r Prif Weinidog am adolygiad Llywodraeth Cymru o addysg uwch.

Gwybodaeth: Yn gynharach eleni gofynnodd Llywodraeth flaenorol Cymru am farn ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru, gyda’r ymatebion yn cael eu hadolygu nawr. Dywedodd yr ymgynghoriad y bydd y dystiolaeth yn cefnogi diwygio yn nhymor y Senedd hwn. Mae ein erthygl ddiweddar yn trafod  cyllid addysg uwch, ac mae cynllun Plaid Cymru ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf yn ymrwymo i adolygiad trawsbleidiol a chynhwysfawr o sut mae prifysgolion yng Nghymru yn cael eu hariannu.


Cwestiwn: Anna Nicholl AS sy’n gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y newid i ynni glân o fudd i gymunedau lleol yng Ngheredigion Penfro.

Gwybodaeth: Roedd maniffesto Plaid Cymru yn sôn am “sicrhau bod gan bobl a chymunedau fwy o berchnogaeth dros ynni adnewyddadwy yng Nghymru a’u bod yn gweld mwy o fanteision hynny”.


Cwestiwn: Peter Fox AS sy’n gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau diogelwch a chydnerthedd bwyd.

Gwybodaeth: Mae Bwyd o Bwys: Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, yn crynhoi polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd ar draws portffolios, gan gynnwys gweithredu ar dlodi bwyd a chydnerthedd y gadwyn gyflenwi. Mae'r Strategaeth Bwyd Cymunedol hefyd yn nodi cynlluniau i wella bwyd o ffynonellau lleol a systemau bwyd cymunedol ledled Cymru.


Cwestiwn: Paul Marr AS sy’n gofyn a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu atalyddion glasoed i blant 11 oed.

Gwybodaeth: Mae briff Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin ar driniaethau hormonaidd ar gyfer plant a phobl ifanc yn darparu rhywfaint o wybodaeth gefndir ddefnyddiol.


Cwestiwn: Paul Davies AS sy’n gofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion Penfro.

Gwybodaeth: Mae ein herthyglau ar dwristiaeth ar gael yma. Mae ein canllaw i fusnesau bach hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gefnogaeth i fusnesau twristiaeth.


Cwestiwn: Sarah Rees AS sy’n gofyn am gamau Llywodraeth Cymru i wella llythrennedd gwleidyddol mewn ysgolion.

Gwybodaeth: Un o ddibenion y Cwricwlwm i Gymru yw bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i ddod yn “ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd”. Mae gan Lywodraeth Cymru blatfform digidol addysgol, Hwb, sydd a rhai adnoddau addysg dinasyddiaeth a gwleidyddiaeth, gan gynnwys didueddrwydd, materion dadleuol, gwybodaeth anghywir ac arfer yn yr ystafell ddosbarth.


Cwestiwn: Sara Crowley AS sy’n gofyn am asesiad y Prif Weinidog o'r angen i gydnabod y rhyngweithio rhwng niwroamrywiaeth a chyflyrau iechyd eraill.

Gwybodaeth: Mae tudalennau awtistiaeth a niwroamrywiaeth Llywodraeth Cymru yn dwyn ynghyd polisi a chanllawiau ar niwroamrywiaeth, gan gynnwys y Cod Ymarfer Awtistiaeth a'r Rhaglen Gwella Niwroamrywiaeth.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru