Cafodd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ei gyflwyno i’r Senedd ar 7 Mehefin 2022. Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yw’r Aelod Cyfrifol
Nod y Bil yw cynnig fframwaith ar gyfer darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus drwy "weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol".
Mae ein Crynodeb o'r Bil yn nodi beth sydd yn y Bil, y cefndir o ran ei ddatblygu, a'r materion allweddol a godwyd wrth i Bwyllgorau'r Senedd graffu arno.
Archwiliwch ein cynhyrchydd cymalau rhyngweithiol i gael gwybod am bob adran o'r Bil.
Dewis categori:
Dewiswch adran:
Adran 1
Mae adran 1 yn sefydlu'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ac yn nodi ei ddiben.
Adran 2
Mae adran 2 yn nodi strwythur aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Adran 3
Mae adran 3 yn diffinio “cynrychiolwyr cyflogwyr” ar y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Adran 4
Mae adran 4 yn diffinio “cynrychiolwyr gweithwyr” ar y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Adran 5
Mae adran 5 yn nodi'r broses ar gyfer enwebu aelodau i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Adran 6
Mae adran 6 yn amlinellu hyd penodiadau i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Adran 7
Mae adran 7 yn ymdrin â chyfarfodydd, gweithdrefnau a chymorth gweinyddol y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Adran 8
Mae adran 8 yn galluogi'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i sefydlu is-grwpiau.
Adran 9
Mae adran 9 yn ymdrin â sefydlu is-grŵp caffael cyhoeddus ar gyfer y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, ac yn nodi'r gofynion ar gyfer ei weithdrefnau.
Adran 10
Mae adran 10 yn nodi sut y bydd yr is-grŵp caffael cyhoeddus yn darparu gwybodaeth neu gyngor i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Adran 11
Mae adran 11 yn caniatáu i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a'i is-grwpiau gyfarfod o bell.
Adran 12
Mae adran 12 yn galluogi Gweinidogion Cymru i dalu treuliau cynrychiolwyr gweithwyr, cynrychiolwyr cyflogwyr, ac aelodau is-grwpiau.
Adran 13
Mae adran 13 yn rhoi pwerau atodol i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol arfer ei swyddogaethau neu swyddogaethau ei is-grwpiau.
Adran 14
Mae adran 14 yn diffinio nifer o dermau yn Rhan 1 o'r Bil sy'n ymwneud â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Adran 15
Mae adran 15 yn rhoi trosolwg o Ran 2 o’r Bil, ac yn diffinio nifer o dermau sy’n berthnasol i’r rhan honno o’r Bil.
Adran 16
Mae adran 16 yn sefydlu dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus penodedig pan fyddant yn cyflawni gwaith datblygu cynaliadwy.
Adran 17
Mae adran 17 yn sefydlu dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar Weinidogion Cymru wrth wneud penderfyniadau o natur strategol.
Adran 18
Mae adran 18 yn nodi gofynion ar gyfer cyrff cyhoeddus penodedig mewn perthynas â pharatoi, cytuno a chyhoeddi adroddiadau ar y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn adran 16.
Adran 19
Mae adran 19 yn nodi gofynion ar gyfer Gweinidogion Cymru mewn perthynas â pharatoi, cytuno a chyhoeddi adroddiadau ar y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn adran 17.
Adran 20
Mae adran 20 yn diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy roi ‘gwaith addas’ yn lle ‘gwaith teg’ yn nod llesiant “Cymru ffyniannus”.
Adran 21
Mae adran 21 yn diffinio “contract cyhoeddus” yn Rhan 3 o’r Bil.
Adran 22
Mae adran 22 yn diffinio “contract cyhoeddus” yn Rhan 3 o’r Bil.
Adran 23
Mae adran 23 yn diffinio “caffael cyhoeddus” mewn perthynas â Rhan 3 o’r Bil.
Adran 24
Mae adran 24 yn sefydlu dyletswydd caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol ar gyfer awdurdodau contractio penodedig.
Adran 25
Mae adran 25 yn nodi’r camau y mae’n rhaid i awdurdodau contractio eu cymryd mewn perthynas â chontractau adeiladu mawr, ac yn diffinio’r contractau hyn.
Adran 26
Mae adran 26 yn nodi’r camau y mae’n rhaid i awdurdodau contractio eu cymryd mewn perthynas â chontractau allanoli gwasanaethau, ac yn diffinio’r contractau hyn.
Adran 27
Mae adran 27 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cymalau gwaith cyhoeddus cymdeithasol enghreifftiol ar gyfer contractau adeiladu mawr.
Adran 28
Mae adran 28 yn creu gofynion i awdurdodau contractio sicrhau bod cymalau gwaith cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fydd contractwr yn ymrwymo i is-gontract.
Adran 29
Mae adran 29 yn creu gofynion i awdurdodau contractio hysbysu Gweinidogion Cymru os ydynt yn cymryd camau penodol mewn perthynas â chontract adeiladu mawr.
Adran 30
Mae adran 30 yn amlinellu sut y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ymateb i hysbysiad oddi wrth awdurdod contractio o dan adran 29(1).
Adran 31
Mae adran 31 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad os ydynt yn cymryd camau penodol mewn perthynas â chontract adeiladu mawr.
Adran 32
Mae adran 32 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi cod ymarfer ynghylch materion cyflogaeth a phensiynau sy’n ymwneud â chontractau allanoli gwasanaethau.
Adran 33
Mae adran 33 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cymalau gweithlu cymdeithasol cyhoeddus enghreifftiol yn ymwneud â chontractau allanoli gwasanaethau.
Adran 34
Mae adran 34 yn creu gofynion i awdurdodau contractio sicrhau bod cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fydd contractwr yn ymrwymo i is-gontract.
Adran 35
Mae adran 35 yn creu gofynion i awdurdodau contractio hysbysu Gweinidogion Cymru os ydynt yn cymryd camau penodol mewn perthynas â chontract allanoli gwasanaethau.
Adran 36
Mae adran 36 yn amlinellu sut y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ymateb i hysbysiad oddi wrth awdurdod contractio o dan adran 35(1).
Adran 37
Mae adran 37 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad os ydynt yn cymryd camau penodol mewn perthynas â chontract allanoli gwasanaethau.
Adran 38
Mae adran 38 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau contractio i baratoi strategaethau caffael sy’n nodi sut y maent yn bwriadu cyflawni gwaith caffael cyhoeddus.
Adran 39
Mae adran 39 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio sydd wedi dyfarnu contractau rhagnodedig mewn blwyddyn ariannol baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y flwyddyn honno.
Adran 40
Mae adran 40 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio greu, cynnal a chyhoeddi cofrestr contractau sy’n cynnwys gwybodaeth benodol.
Adran 41
Mae adran 41 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ymchwilio i sut y mae awdurdod contractio yn cyflawni gwaith caffael, ac yn nodi sut y bydd yr ymchwiliadau hyn yn cael eu cynnal.
Adran 42
Mae adran 42 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi adroddiad blynyddol ar gaffael cyhoeddus cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.
Adran 43
Mae adran 43 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol mewn perthynas â Rhan 3 o’r Bil.
Adran 44
Mae adran 44 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â Rhan 3 o’r Bil.
Adran 45
Mae adran 45 yn diffinio termau a ddefnyddir mewn perthynas â Rhan 3 o’r Bil.
Adran 46
Mae adran 46 yn diffinio’r termau cyffredinol a ddefnyddir yn y Bil.
Adran 47
Mae adran 47 yn gwneud mân ddiwygiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn perthynas â chyhoeddi nodau llesiant diwygiedig.
Adran 48
Mae adran 48 yn rhoi’r gallu i Weinidogion Cymru benderfynu pryd y daw’r Ddeddf i rym, ac yn caniatáu iddynt ddod â gwahanol rannau o’r Ddeddf i rym ar adegau gwahanol.
Adran 49
Mae adran 49 yn nodi enw byr y Ddeddf, sef Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru