Crynodeb o'r Bil: Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (11/12/2020)

Cyhoeddwyd 11/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddwyd y Crynodeb o’r Bil hwn yn wreiddiol ar 4 Awst 2020. Mae'n cael ei ailgyhoeddi cyn y ddadl cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Rhagfyr 2020.

Y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil yw'r cyntaf o bedwar cam i broses ddeddfu’r Senedd ond mae'n dod â gwaith craffu sylweddol ar y Bil i ben. Mae tri Phwyllgor Senedd wedi adrodd yng Nghyfnod 1:

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac ymagwedd Cwricwlwm newydd Cymru – sy’n cael ei lywio ar sail dibenion – ond mae'n poeni o ran ei roi ar waith ac a fydd pob plentyn ledled Cymru yn cael yr un cyfleoedd a phrofiadau o'u haddysg.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi gwneud 66 o argymhellion. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar geisio'r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd lleol a chysondeb cenedlaethol, a sicrhau nad yw'r anghydraddoldebau presennol yn cael eu gwaethygu. Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod ymagwedd y Bil yn golygu na fydd y cwricwlwm newydd yn unffurf ar draws pob ysgol, ond mae'n annog bod yn rhaid iddo fod yn gyson o hyd.


4 Awst 2020

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) i'r Senedd ar 6 Gorffennaf. Mae'r Bil yng Nghyfnod 1 o broses ddeddfwriaethol y Senedd ar hyn o bryd ac mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn craffu arno.

Os caiff ei basio, bydd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn darparu'r sylfaen statudol ar gyfer gwaith Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r cwricwlwm ar gyfer plant 3 i 16 oed. Bydd yn disodli'r cwricwlwm cenedlaethol presennol yng Nghymru, a sefydlwyd ym 1988 ar sail Cymru a Lloegr, â Chwricwlwm newydd i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn raddol o fis Medi 2022.

Mae'r papur hwn yn rhoi crynodeb o ddarpariaethau'r Bil, gan dynnu sylw at y prif agweddau a dogfennau perthnasol, ynghyd â rhoi rhywfaint o gefndir polisi.

Darllenwch y briff yma: Crynodeb o'r Bil: Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (PDF, 744KB)

 


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru