Crynodeb o’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Cyhoeddwyd 05/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

05 Rhagfyr 2016 Erthygl gan Sean Evans Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6584" align="alignnone" width="640"]landfill Llun: o Flickr gan Adam Levine. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Cafodd y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol (PDF, 1MB) ategol eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Tachwedd 2016. Roedd datganiad ysgrifenedig yn gysylltiedig â’r Bil pan gafodd ei osod a’i gyflwyno yn y Cyfarfod Llawn gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 29 Tachwedd 2016:
Bydd y Bil hwn yn sefydlu treth newydd ar warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi, a fydd yn disodli'r dreth dirlenwi bresennol, sy'n cael ei chodi ar sail Cymru a Lloegr, o fis Ebrill 2018 ymlaen. Bwriad y dreth yw sicrhau bod y refeniw o dreth dirlenwi’n parhau i gael ei gasglu i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ond nid dim ond mater o gasglu treth yw hwn, oherwydd mae’r Bil hwn yn cyd-fynd â'n polisi gwastraff. Bydd y dreth gwarediadau tirlenwi’n chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i gyflawni ein nod o greu Cymru ddiwastraff. Bydd yn parhau i sicrhau bod cost amgylcheddol rhoi gwastraff mewn safleoedd tirlenwi yn cael ei nodi a’i bod yn weladwy ac, wrth wneud hynny, bydd yn annog mwy o atal, ailddefnyddio, ailgylchu ac adennill gwastraff.
Y Bil hwn yw’r trydydd mewn cyfres o filiau sy’n ymwneud â datganoli’r pwerau treth yn Neddf Cymru 2014. Cafodd y Bil ei ragflaenu gan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a sefydlodd y fframwaith cyfreithiol oedd ei angen ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol a’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (PDF, 943KB) a fydd yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp ym mis Ebrill 2018. Mae rhagor o wybodaeth am gefndir y Bil, trosolwg o’i adrannau, crynodeb o’r costau a’r effeithiau a geirfa Gymraeg ar gael yng Nghrynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil. (PDF, 947KB)