Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Beth ydym yn ei wybod hyd yn hyn, a pha effaith y bydd hyn yn ei chael ar Gymru?

Cyhoeddwyd 06/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/11/2020   |   Amser darllen munudau

Rydym yn cael nifer o ymholiadau ar hyn o bryd am Gronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig Llywodraeth y DU a gaiff ei gweithredu ledled y DU. Mae'r erthygl hon yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin.

Beth mae Llywodraeth y DU wedi'i ddweud ynglŷn â sut y bydd ei Chronfa Ffyniant Gyffredin yn gweithio?

Ymrwymodd maniffesto'r Ceidwadwyr ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU yn 2017 i ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr UE yn y DU â Chronfa Ffyniant Gyffredin. Mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf 2018, rhoddodd James Brokenshire AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, y wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion, gan nodi'r canlynol:

  • Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn cymunedau drwy godi cynhyrchiant, yn enwedig mewn rhannau o'r DU lle y mae eu heconomïau bellaf ar eu hôl;
  • Bydd ganddi drefniadau gweinyddol symlach i geisio targedu cyllid yn effeithiol; a
  • Bydd yn gweithredu ar draws y DU. Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn parchu'r setliadau datganoli yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, a bydd yn ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod y gronfa'n gweithio ar draws y DU.

Bydd rhagor o fanylion am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn dilyn mewn ymgynghoriad erbyn diwedd 2018. Caiff penderfyniadau ar weithredu a dyrannu'r gronfa hon eu gwneud ar ôl yr ymgynghoriad, a byddant yn destun adolygiad o wariant Llywodraeth y DU i'w gynnal yn ystod gwanwyn 2019.

Sut y gallai cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin o ran Cymru fod yn wahanol i'r trefniadau presennol?

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweinyddu cylch 2014-20 o Gronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru. Yn y memorandwm esboniadol i'r rheoliadau a osodwyd ganddi a roddodd y pwerau i Lywodraeth Cymru wneud hyn, dywedodd Llywodraeth y DU ar y pryd y canlynol:

The Government’s policy on European Structural Funds spending is that it is appropriate for England, Scotland, Wales and Northern Ireland to take responsibility for their own expenditure…
The instrument is politically important in that it shows that the Government is committed to devolving powers, where appropriate, to the Welsh Ministers and demonstrates its commitment to regional spending being controlled at a regional level.

Mewn cyfweliad gan BBC Cymru ar 30 Medi, gofynnwyd i'r Gwir Anrhydeddus Theresa May AS, Prif Weinidog y DU, am lefel y cyllid a datganoli'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ledled y DU y gallai Cymru ei ddisgwyl ar ôl Brexit. Ei hymateb oedd:

The point of the shared prosperity fund is that we will be looking at issues of disparities between the nations of the UK - disparities within nations and regions and deciding expenditure of money so that we are ensuring that money is being spent as effectively as possible to deliver for people...
I fully recognise the role that the Welsh Government has played [ynglŷn â Chronfeydd Strwythurol] and the role that the Welsh Government has played in decisions for Wales. But obviously as we look at the shared prosperity fund across the whole of the UK we want to ensure that we get the right structure and the right processes involved in that so that the money that is being spent is being spent as effectively as possible because it's about delivering for people on the ground.

Pa bwerau sydd gan Lywodraeth y DU i weithredu olynydd i'r Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru?

Os yw am wneud hynny, gallai Llywodraeth y DU ddeddfu i weithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin ledled y DU yn unochrog yng Nghymru.

Ni wnaeth datganoli i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon newid y ffaith bod Senedd y DU yn sofran ac yn gallu newid y gyfraith mewn meysydd datganoledig. Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ddyfodol polisi rhanbarthol yn awgrymu, os yw Llywodraeth y DU am arfer pwerau sy'n ymwneud â pholisi rhanbarthol yng Nghymru, y byddai angen iddi ddeddfu er mwyn gwneud hyn:

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym hefyd pe byddai Llywodraeth y DU am gymryd rheolaeth o'r pwerau hyn, yna byddai angen deddfwriaeth ar lefel y DU. Mae hyn yn cyd-fynd â'r cyngor cyfreithiol a gawsom gan ein cynghorwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol sef, pan fyddwn yn gadael yr UE, ni fyddai cyfyngiadau a roddwyd ar setliad datganoli Cymru, yn rhinwedd cyfraith yr UE, ym maes datblygu economaidd a rhanbarthol yng Nghymru yn gymwys mwyach. Bydd cyfyngiadau'r DU – ar ffurf amheuon o gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymwneud ag agweddau ar bolisi rhanbarthol (er enghraifft rhai liferi ariannol) – yn parhau i fod ar waith.

Beth yw barn Llywodraeth Cymru am weithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn “gwrthod yn llwyr” Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi'i chanoli, a fyddai'n “ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli ac yn peryglu gwarafun cyllid sydd dirfawr ei angen ar rai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig i ddatblygu’n economaidd.”

Mae'n credu ei bod yn y sefyllfa orau i arwain y broses o lunio polisi rhanbarthol yn y dyfodol am bedwar rheswm. Y rhain yw ei bod wedi cyflawni Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru ers yr 20 mlynedd diwethaf; mae ganddi'r presenoldeb angenrheidiol ar draws Cymru; mae ganddi bartneriaethau ar waith ar draws Cymru; ac mae'n gyfrifol am liferi polisi rhanbarthol ategol megis sgiliau a seilwaith.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU “i sicrhau nad yw Cymru geiniog ar ei cholled wrth i ni ymadael â’r UE.” Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi dweud, os bydd Cymru yn parhau i gael y lefelau cyllid presennol, y byddai Llywodraeth Cymru yn ei neilltuo i'w wario ar ddatblygu economaidd rhanbarthol. Mewn llythyr at y Pwyllgor Materion Allanol ar 2 Tachwedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso am fuddsoddiad newydd llawn.

Beth mae Pwyllgorau'r Cynulliad a chymdeithas sifil Cymru wedi'i ddweud am sut y dylai Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU weithredu yng Nghymru?

Ym mis Mehefin 2017, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad ar ddyfodol polisi rhanbarthol, gyda Llywodraeth Cymru yn derbyn 15 o'i 17 o argymhellion, ac yn derbyn y ddau arall mewn egwyddor. Ym mis Medi 2018, gwnaeth adroddiad y Pwyllgor Cyllid am ddisodli ffrydiau cyllido'r UE nifer o argymhellion mewn perthynas â buddsoddiad rhanbarthol drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rhai o'r prif gasgliadau a dynnodd y Pwyllgor o dystiolaeth tystion megis sefydliadau busnes, academyddion a chyrff y trydydd sector a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid yw:

  • bod Llywodraeth Cymru yn cyd-drafod â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau o leiaf yr un swm o arian i Gymru yn y lle cyntaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU â’r hyn y mae’n ei gael ar hyn o bryd drwy Gronfeydd Strwythurol, ynghyd â chwyddiant. Dylid ychwanegu hyn at Grant Bloc Llywodraeth Cymru;
  • bod Llywodraeth Cymru yn negodi gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael y cyfrifoldeb am weinyddu a rheoli Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghymru. Nid oedd yr un unigolyn na sefydliad a ymatebodd i ymgynghoriad y Pwyllgor neu a roddodd dystiolaeth yn galw ar Lywodraeth y DU i weinyddu'r gronfa yng Nghymru;
  • Bod cyfle i wneud newidiadau a gwelliannau i'r trefniadau presennol, megis lleihau biwrocratiaeth wrth gael gafael ar gyllid, a chymryd mwy o ran yn lleol ac yn rhanbarthol wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau.
  • Fodd bynnag, mae rhai agweddau y dylid eu cadw, megis cyllid aml-flwydd, trechu tlodi, a phrif ffrydio cydraddoldeb.

I weld y diweddaraf am beth mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran Brexit, gallwch ddilyn ein tudalen newydd, Y Cynulliad a Brexit.


Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru