Credyd Cynhwysol yng Nghymru, rhan 2: y problemau a datblygiadau diweddar

Cyhoeddwyd 24/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/11/2020   |   Amser darllen munudau

Dyma’r ail erthygl o ddwy. Mae’r gyntaf yn ymdrin â’r dyluniad, y cyflwyniad a’r effaith. Mae’r erthygl hon yn trafod y gwahanol faterion o ran y Credyd Cynhwysol a datblygiadau diweddar.

Mae Llywodraeth y DU yn wynebu galwadau niferus gan wleidyddion ac elusennau i atal y gwaith i gyflwyno’r Credyd Cynhwysol yn gyflym nes i broblemau o ran amseroedd aros ac ôl-ddyledion rhent gael eu datrys. Ychwanegodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Cynulliad ei lais i’r galwadau hyn mewn llythyr diweddar at Lywodraeth y DU. Mae’r materion yn amrywio o ymarferoldeb gweithredu’r budd-dal i’w ddyluniad sylfaenol.

Amseroedd aros

Nid yw ‘dyddiau aros’ yn newydd - eu bwriad yw annog pobl i beidio â gwneud cais am fudd-daliadau ar gyfer cyfnodau byr o ddiweithdra neu salwch. Er enghraifft, tridiau oedd yr amser aros ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith, ond cafodd ei godi i saith diwrnod. Bellach, fe ddisodlir y Lwfans Ceisio Gwaith gan y Credyd Cynhwysol, sy’n cael ei ôl-dalu’n fisol, ac mae’r cyfnod aros wedi cynyddu’n sylweddol i bum wythnos (ôl-daliad o saith diwrnod aros ar ben mis).

Mae hyd at 8% o’r hawlwyr yn aros yn hwy byth na’r cyfnod aros o 42 diwrnod, yn ôl ystadegau’r DWP. Mewn tystiolaeth i ymchwiliad i’r Credyd Cynhwysol Pwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ’r Cyffredin, dywedodd Ymddiriedolaeth Trussell fod banciau bwyd yn 2016-17 “in areas of full Universal Credit rollout saw a 16.85% average increase in referrals for emergency food, more than double the national average of 6.64%.”

Mae taliadau ymlaen llaw ar gael, ond benthyciadau yw’r rhain a rhaid eu talu’n ôl trwy ddidyniadau o daliadau Credyd Cynhwysol ar gyfradd o hyd at 40% o daliad Credyd Cynhwysol am hyd at chwe mis. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi awgrymu y bydd yr amser aros hir ar gyfer Credyd Cynhwysol yn peri cynnydd yn y galw am Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru.

Sancsiynau

Sancsiynau yw gostyngiadau neu ataliadau o daliadau budd-dal am nad yw person wedi bodloni amodau Credyd Cynhwysol. Gallai hyn olygu methu apwyntiadau mewn canolfannau gwaith neu wrthod swydd.

Dosberthir hawlwyr Credyd Cynhwysol yn bedwar grŵp yn seiliedig ar eu gallu i weithio. Mae gwahanol lefelau o sancsiynau yn berthnasol i bob grŵp. Gall pobl yn y grŵp ‘pob gofyniad sy’n gysylltiedig â gwaith’ gael y sancsiwn uchaf, gyda thaliadau yn cael eu stopio neu eu torri am 91 diwrnod ar gyfer y gosb gyntaf a hyd at 1,095 o ddiwrnodau am drydedd.

Rhwng mis Awst 2015 a mis Rhagfyr 2016, defnyddiwyd 13,272 o sancsiynau yn erbyn pobl ar y Credyd Cynhwysol yng Nghymru. Roedd y mwyafrif llethol yn sancsiynau ail isaf.

Mewn ymchwil a amlygwyd yn ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, awgrymwyd y gallai colli incwm yn sydyn oherwydd i fudd-daliadau gael eu hatal arwain at “severely detrimental financial, material, emotional and health impacts”.

Taliadau uniongyrchol

Telir y Credyd Cyffredinol yn uniongyrchol i hawlwyr ar gyfer eu costau, gan gynnwys costau tai; yn draddodiadol, talwyd landlordiaid yn uniongyrchol ar gyfer hawlwyr mewn tai cymdeithasol.

Mae talu’r elfen dai yn y Credyd Cynhwysol yn uniongyrchol i denantiaid tai cymdeithasol yn ddadleuol. Mewn adroddiadau diweddar, cafwyd bod tri chyngor yn Llundain y mae eu tenantiaid eisoes wedi cael eu symud i’r Credyd Cynhwysol wedi mynd i ôl-ddyledion rhent o tua £8 miliwn, a bod dros 2,500 o denantiaid bellach mewn perygl o gael eu troi allan.

Yn 2013, cyflwynodd Llywodraeth y DU Drefniadau Talu Amgen, sy’n caniatáu i gostau tai’r Credyd Cynhwysol gael eu talu i landlordiaid mewn rhai amgylchiadau.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi defnyddio ei phwerau lles newydd i roi mwy o ddewis i hawlwyr ynghylch sut a phryd y telir Credyd Cynhwysol. Mae Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Hawliadau a Thaliadau) (Yr Alban) 2017 yn caniatáu i denantiaid ofyn am daliadau uniongyrchol am rent a gwasanaethau, a gofyn am daliadau dwywaith y mis.

Dynameg aelwydydd

Telir y Credyd Cynhwysol yn fisol, ar sail aelwyd, ond yn draddodiadol fe dalwyd budd-daliadau i unigolion bob pythefnos. Mae Grŵp Cyllid Menywod a Chymorth i Ferched Cymru wedi dadlau bod y newid yn atgyfnerthu’r syniad o enillydd cyflog gwrywaidd, yn gweithio yn erbyn ennill ail gyflog ac yn debygol o gynyddu’r graddau y mae menywod yn dibynnu ar eu partneriaid yn ariannol, gan beri iddynt fod yn fwy agored i gam-drin ariannol a mathau eraill o gam-drin.

Cyfyngiadau ar deuluoedd sydd â mwy na dau blentyn

Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’r elfen deuluol o’r Credyd Cynhwysol (sy’n dyfarnu arian ychwanegol ar gyfer pob plentyn) yn cael ei gyfyngu i’r ddau blentyn cyntaf mewn teulu. Cydnabu’r asesiad effaith y byddai’r mesur hwn yn fwyaf tebygol o effeithio ar fenywod a theuluoedd lleiafrifol ethnig. Yn ei hasesiad effaith, amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru fod “117,000 o deuluoedd gyda 2 neu fwy o blant yn derbyn credydau treth yng Nghymru yn 2013-14 [ac yr effeithir] ar y teuluoedd hyn os genir rhagor o blant iddynt ar ôl Ebrill 2017.”

Tynnu hawlogaeth i gymorth tai oddi ar bobl ifanc 18-21 oed

Er mis Ebrill 2017, nid oes gan bobl ifanc 18-21 oed hawl bellach i elfen tai’r Credyd Cynhwysol (gyda rhai eithriadau). Nod y mesur yw “[to] ensure young people in the benefits system face the same choices as young people who work and who may not be able to afford to leave home”. Mae rhai sefydliadau wedi codi pryderon, gan ddweud bod hyn yn dileu “rhwyd diogelwch hanfodol” i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mae dadansoddiad cydraddoldeb Llywodraeth y DU yn dangos mai dynion sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y polisi. Amcangyfrif Llywodraeth Cymru yw y byddai’r polisi hwn yn effeithio ar tua 1,000 o bobl yng Nghymru.

Lwfansau gwaith

Mae’r swm y mae hawlydd yn ei dderbyn o dan y Credyd Cynhwysol yn cael ei dynnu’n ôl pan fydd yn dechrau gweithio, ar gyfradd o 63c fesul punt a enillir (cafodd hwn ei ostwng o 65c o fis Ebrill 2017). Fodd bynnag, gall hawlwyr gadw peth o’r incwm a enillir ganddynt (y ‘lwfans gwaith’) cyn iddo ddechrau effeithio ar eu Credyd Cynhwysol. Gostyngwyd y lwfans gwaith o £6,420 i £3,850 yng nghyllideb haf 2015 Llywodraeth y DU.

Amcangyfrif Llywodraeth Cymru yw y byddai’r newid i’r lwfans gwaith yn effeithio ar 130,000-160,000 o deuluoedd yng Nghymru.

Atebion

Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Cyngor ar Bopeth adroddiad yn manylu sut y gellir ‘trwsio’ Credyd Cynhwysol, gan gynnwys: dileu’r cyfnod aros, gwneud y llinell gymorth 55c y funud yn rhad ac am ddim (derbyniwyd hyn gan Lywodraeth y DU ar 18 Hydref), a chynnig opsiynau i bawb ynghylch sut y telir eu budd-dal.

Ym mis Ebrill 2017, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree bapur briffio yn rhoi gwybodaeth a thystiolaeth ar y datblygiadau diweddaraf wrth i’r Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno ledled y DU. Mae hefyd yn cynnig argymhellion ar sut y gellid gwella’r system. Yn ddiweddar, ailagorodd Pwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ’r Cyffredin ei ymchwiliad i gyflwyniad y Credyd Cynhwysol.

Mae Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn cadw papur briffio sy’n cael ei ddiweddaru yn rheolaidd ar gyflwyniad y Credyd Cynhwysol.


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru