llun o cefn gwlad

llun o cefn gwlad

Craffu ar y Prif Weinidog ynghylch cefnogaeth i gymunedau cefn gwlad

Cyhoeddwyd 12/07/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal sesiwn ar 12 Gorffennaf 2024 gyda Vaughan Gething AS, y Prif Weinidog, fydd yn canolbwyntio ar gymunedau cefn gwlad.

Rydym wedi llunio papur briffio sy’n nodi rhai o’r prif faterion y gallai'r Pwyllgor eu trafod.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn craffu ar y Prif Weinidog ar faterion cyfoes yn ei gyfarfod ar 12 Gorffennaf 2024.

Gellir gwylio’r cyfarfod yn fyw, neu ar alw, ar SeneddTV. Bydd trawsgrifiad ar gael ychydig ddyddiau ar ôl y cyfarfod.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru